Abercwmboi

Un o'r siopau cynharaf i agor yn Abercwmbói a oedd yn rhan o'r siop bob peth gan roi'r cyfle i bobl brynu bron popeth oedd eu hangen arnyn nhw

Dechreuodd y datblygiad syfrdanol yma ychydig i'r de o ganlyniad i agor Glofa Abercwmbói. Fel y digwyddai mewn pentrefi eraill yng Ngwm Cynon, glofa oedd y sbardun ar gyfer twf aruthrol y pentref modern sydd gyda ni heddiw. Fe gafodd tai eu codi i gartrefi'r mewnlifiad o bobl a oedd yn dod i weithio yn y pwll glo a chafodd cyfleusterau cyhoeddus eu sefyldu i ddiwallu anghenion y bobl hynny.

Mae enwau rhai o'r adeiladau cynharaf megis Tafarn Cap- coch, a gafodd ei adeiladu yn 1865 ac Ysgol Cap-coch, a gafodd ei hadeiladu yn 1868, yn dwyn hen enw'r pentref. Yn ôl y chwedl leol, tarddodd yr enw Cap-coch yn sîl arfer tafarnwr lleol a oedd yn arfer gwisgo cap coch yn ystod ymrysonfeydd ymladd ceiliogod.

Tafarn y Cap-coch

Yr hyn sy'n weddill o hen adeilad Ysgol Cap-coch

Cafodd addoldai eu sefydlu yn ogystal. Ymhlith y rhai cynharaf oedd Capel Bethesda'r Bedyddwyr a gafodd ei adeiladu ym 1864. Doedd dim lle i addoli gan yr eglwys sefydledig nes i eglwys Sant Pedr gael ei hadeiladu o haearn oddeutu 1918. Roedd Neuadd ac Institiwt y Gweithwyr yn Abercwmbói, adeilad deulawr a gafodd ei adeiladu yn 1913, yn ganolbwynt i'r pentref ar y pryd.

Y diwydiant glo yn Abercwmbói

David Davies oedd y dyn a ddaeth â'r diwydiant glo i Abercwmbói am y tro cyntaf. Ei gam cyntaf ym myd busnes oedd agor siop fwydydd yn Hirwaun, cyn symud i'r byd diwydiannol pan oedd ei deulu'n ddigon hen i redeg y siop. Ar ôl menter lwyddiannus ym Mlaen-gwawr, trodd ei olygon at Abercwmbói ac agorodd e bwll glo newydd yno yn 1851. Roedd y lofa yma (o'r enw Glofa Cap-coch) yn llwyddiannus iawn gan gynhyrchu dros 90,000 o dunelli o lo yn 1869. Yn 1881, aeth y lofa i ddwylo Cwmni Glo Ager Powell Duffryn. Fe unodd y lofa â Glofa Aberaman yn 1923. Roedd glofa Abercwmboi'n parhau i weithio yn waith pwmpio hyd at 1970 pan gafodd eu gau gan y Bwrdd Glo a oedd wedi dod yn berchnonog arno yn sgîl gwladoli'r diwydiant glo yn 1947.

Roedd Cwmni Glo Ager Powell Dyffryn yn gweithio lefel yn ardal Abercwmbói yn ogystal. Lefel y clai roedd pobl yn ei galw hi. Agorodd y pwll clai yma (sydd fel arfer i'w weld rhwng haenau o lo) yn 1882 ar gyfer y gwaith pibau yn Aberaman, ac hefyd ar gyfer gwneud glo golosg.

Gwaith Phurnacite

Mae modd olrhain hanes y Gwaith ar gyfer cynhyrchu brics glo Phurnacite yn Abercwmbói yn ôl i 1939 pan ddechreuodd cwmni Powell Duffryn Limited gynhyrchu brics glo allan o lo stêm gwastraff a oedd yn ddarnau rhy fach i'w gwerthu. Câi'r glo man ei falu, ei sychu a'i gymysgu gyda sylwedd ddu gludiog (pitch) gan ddefnyddio proses o gynhesu i gael gwared ar y mwg. Roedd hi'n 1942 ar y gwaith yn gweithredu yn llawn. Erbyn 1951-1952 cawsai'r gwaith ei ehangu, ac ar ei anterth, roedd e'n cynhyrchu dros filiwn o dwnelli o frics glo y flwyddyn.

Gwaith Phurnacite

Erbyn canol y 1970au, newidiodd yr hinsawdd er gwaeth. Roedd llai o bobl yn defnyddio tanwydd ffosiledig a nifer y cwynion am lygredd gan drigolion lleol ar gynnydd, roedd dyfodol y gwaith yn ansicr iawn. Ar ddiwedd 1979, gwelwyd y bwriad i foderneiddio'r gwaith a chyflwynwyd cynlluniau ar gyfer proses MHT (Triniaeth Gwres Ysgafn), yr honnwyd y byddai'n lleihau llygredd a achosir gan y gwaith Disticoke 90%. Cyfarfu'r perchnogion a phobl leol ar sawl achlysur i drafod dyfodol y cynlluniau ond doedd dim unrhyw dir cyffredin i'w gael rhyngddyn nhw. Fuodd dyfyniadau, megis “Britain's Dirtiest Factory" yn y wasg o ddim cymorth i leddfu gofidiau'r bobl.

Erbyn y 1980au hwyr cafodd caniatâd i'r perchnogion i godi ffatri newydd ei wrthod. Y rheswm am hynny oedd bod diffyg buddsoddi gan y Llywdoraeth a daeth y penderfyniad i gau'r gwaith yn gyfangwbl. Fe gwynodd llawer o bobl am y penderfyniad hwnnw. Roedd gyda'r gwaith dros 1,000 o weithwyr ac o ystyried bod dros 10% o drigolion Cwm Cynon heb waith ar y pryd, doedd e ddim yn benderfyniad poblogaidd iawn. Yn gyffredinol roedd trigolion Cwm Cynon yn teimlo rhyddhad o wybod bod y gwaith a achosodd gymaint o lygredd ac afiechyd i bobl wedi cau am byth.

Fe gynhaliodd y papur lleol, Cynon Leader, gystadleuaeth o'r enw "chwythu'r simne". Gwasgodd yr enillydd, Tanya Jenkins o'r Meisgyn, y botwm i gynnau'r ffrwydron ar waleod y 4 simne. Roedd y cwbl drosodd ymhen eiliadau gan gau pennod hir yn hanes y cwm.

Coed sydd wedi'u gwenwyno oherwydd y llygredd a'r gwaith Phurnacite yn y cefndir

Mae gwaddod y gwaith Phurnacite a llygru'r tir ynghyd â'r cyflenwad dŵr i'w gweld hyd y dydd heddiw yn enwedig rhwng Abercwmbói ac Aberpennar. Yn eu hadroddiad "Phurnacite Toxic Legacy" a gyhoeddwyd ym mis Medi 1997, mae Byron Lewis a Max Willis, Cymdeithas Cyfeillion y Ddaear, yn trafod yr anawsterau o unioni cyflwr yr amgylchfyd yn sgîl niwed y llygredd.