Gwesty'r Junction, Abercynon c.1900
Roedd gwreiddiau pentref Abercynon yn ei bwysigrwydd fel canolfan draffig gyda Chamlas Morgannwg, Camlas Aberdâr a Rheilffordd Dyffryn Taf i gyd yn mynd drwy'r ardal. Arweiniodd presenoldeb y rhwydweithiau cyfathrebu pwysig yma at ei ddatblygiad ar raddfa fach. Sefydlwyd tafarndai a gwestai fel Gwesty’r Junction, y Swan, y Boatman, New Inn, Navigation Hotel a Traveller’s Rest i ddarparu ar gyfer ymwelwyr a gweithwyr y camlesi a’r rheilffyrdd.
Cafodd llythyrdy a siop bob peth dan yr un to'u hagor, a bu raid codi tai i'r holl weithwyr. Roedd nifer o enwau ar lafar i'r pentref 'Navigation', 'Y Basin' ac 'Aberdare Junction', bob un yn sôn am y gwahanol ffyrdd o deithio. Dim ond yn 1893 y cyflwynwyd yr enw Abercynon pan gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ddod o hyd i enw parhaol i'r pentref. Ym 1889, dechreuodd cwmnïau glo gloddio pyllau, a chafodd strydoedd newydd eu hadeiladu ar hyd ochrau'r cwm i ddarparu cartrefi i'r gweithwyr oedd yn heidio i mewn. Ymhlith y strydoedd yma roedd Martin's Terrace, Station Terrace (Ynysmeurig Road erbyn hyn), a Catherine Street (Herbert Street bellach). Roedd rhaid cael un enw i'r pentre, a daeth pobl at ei gilydd mewn cyfarfod cyhoeddus ym 1893 i ddewis yr enw Abercynon. Yn ogystal â'r siopau a'r gweithfeydd, fe godwyd nifer o adeiladau pwysig eraill gan gynnwys Ysgol y Navigation ym 1896, a Neuadd y Gweithwyr ym 1905.
Ymhlith y bobl a ddaeth i Abercynon i fyw roedd aelodau nifer o enwadau a chyrff crefyddol. Cododd y bobl yma gapeli ac eglwysi i ddiwallu'u hangenion crefyddol. Agorodd y Bedyddwyr Eglwys Calfaria ym 1894, dechreuodd yr Annibynwyr Bethania ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chysegrodd Eglwys Loegr eglwys newydd, Sant Dunwyd, ym 1908.
Glancynon Terrace ac Eglwys Calfaria (Bedyddwyr)
Diwydiant glo Abercynon
Mae gwythiennau glo Abercynon yn gorwedd yn ddwfn dan yr wyneb. Un enghraifft yw gwythïen Gelli-deg, sy'n 146 o lathenni dan yr ywneb yn Aberdâr, a 170 o lathenni dan yr wyneb yn Abercynon. Dyna pam fod glofeydd Abercynon wedi dechrau tua diwedd y 19eg ganrif, yn ddiweddarach na'r pyllau ymhellach i fyny Cwm Cynon. Busnes costus iawn yw cloddio am lo fodd bynnag, ac fe fyddai cloddio yn Abercynon yn gofyn am byllau dyfnach a mwy o faint. Er hynny fe lwyddodd peirianwyr i drechu'r problemau yma, a bu'r glofeydd llwyddiannus yma yn ffynnu yn Abercynon am gyfnod.
Roedd Glofa Abercynon, neu Dowlais, yn un o'r rhai dyfnaf yn Ne Cymru ar yr adeg y cafodd ei suddo.
Glofa Abercynon
Glofa Dowlais Caerdydd oedd enw gwreiddiol y lofa yma, gan taw Cwmni Haearn Dowlais oedd wedi dechrau'r pwll. Dechreuon nhw gloddio'r pwll ym 1889, ond aethon nhw i drybini'n fuan iawn gan fod gormod o ddŵr ynddo. Bu raid gosod pympiau i dynnu'r dŵr allan, ac erbyn 1906 roedd y lofa gyfan wedi'i chwblhau. Yr adeg honno, dyma oedd y pyllau dyfnaf ym maes glo'r De i gyd. Newidiodd Cwmni Haearn Dowlais ei enw i Guest Keen and Company ym 1901, a daeth hwnnw yn rhan o Guest Keen and Nettlefolds Ltd. - GKN - ym 1903. Yn nes ymlaen, fe roes GKN y gorau i gloddio am lo yma yn y De. Daeth y pwll yn eiddo i Welsh Associated Collieries Ltd erbyn 1931. Unodd y cwmni yma â Powell Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell Duffryn Associated Collieries Ltd. ym 1935.
Daeth y lofa dan reolaeth y Bwrdd Glo Gwladol adeg gwladoli'r diwydiant glo ym 1947. Ym 1971, cysylltodd y Bwrdd Glo'r pwll yma â Glofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl, dan ddaear. Caeodd y Bwrdd Glo'r Pwll ym 1988.
Glofa Carne Park
Glofa gymharol fechan oedd hon, yn cynnwys nifer o lefelau i'r de-orllewin o Eglwys Dunwyd. Nid oes neb yn sicr pryd yn gywir y dechreuodd y lofa yma. Roedd y lofa'n gweithio erbyn 1864, er nad yw enw'r perchennog ar gael bellach. Erbyn 1910, roedd y lofa yn nwylo'r Carne Park Colliery Co. Ltd., ond aeth yn fethdalwr ym 1911. Er hyn roedd hi'n gweithio eto ym 1916, dan reolaeth y Brodyr Richardson. Ni chafodd y lofa'i gwladoli ym 1947, ac erbyn 1957 roedd hi'n eiddo i D. Leonard a'i Bartneriaid. Nid oes cofnod o ddyddiad cau'r lofa.
Cyffordd Abercynon c.1905
Richard Trevithick
Model o locomotif gwreiddiol Trevithick
Peiriannydd o Gernyw oedd Richard Trevithick, y cyntaf i redeg locomotif ager ar reilffordd. Ac yntau'n gweithio i Samuel Homfray yng ngwaith haearn Pen-y-Darren ger Merthyr Tudful, fe fentrodd ei gyflogwr 500 gini y gallai Trevithick dynnu deg tunnell o haearn mewn trên tu ôl i locomotif ager o Ferthyr i Fasn Abercynon. Ar 22 Chwefror 1804, dechreuodd Injan Stêm Gwasgedd Uchel Trevithick ar ei thaith yn cario deg tunnell o haearn, saith deg o ddynion a phum wagen. Yn anffodus, fe drawodd corn mwg yr injan yn erbyn pont isel yn fuan ar ôl cychwyn, a chafodd y corn mwg a'r bont ryw faint o ddifrod. Atgyweiriodd Trevithick y corn mwg, ac ailgychwyn ar ei daith. Cwblhaodd y daith 9½ milltir i Abercynon ar gyflymdra o 5 milltir yr awr. Diolch i Richard Trevithick, roedd Samuel Homfray wedi ennill ei 500 gini.