Dechreuwyd ar y gwaith yng Nglofa Albion ym 1884 ar safle Fferm Ynyscaedudwg. Albion Steam Coal Company oedd y perchnogion, ac agorodd y lofa fis Awst 1887. Cyn bo hir roedd y gwaith yn ffynnu a'r lofa'n cynhyrchu cyfartaledd wythnosol o 12,000 o dunelli o lo. Dyma'r nifer mwyaf o dunelli mewn glofa weindio-glo siafft sengl ym maes glo'r De. Erbyn 1893, roedd 1,500 o ddynion a bechgyn yn cael eu cyflogi yn yr Albion. Ni fu llawer o ddamweiniau difrifol yn ystod blynyddoedd cynnar y lofa, ond cafwyd trychineb fawr brynhawn Sadwrn 23 Mehefin 1894.
Ar y prynhawn tyngedfennol hwnnw, roedd y shifft nos wrthi'n cael gwared â llwch ac yn atgyweirio'r ffyrdd. Am 3.50pm, clywyd dau ffrwydriad swnllyd yn syth ar ôl ei gilydd. Dilynwyd y rhain yn syth gan lwch a mwg o'r siafft aer ‘downcast' ac yna o'r siafft aer ‘upcast'. Roedd effeithiau'r danchwa yn arswydus. Lladdwyd 290 o ddynion a bechgyn, a hon oedd trychineb waethaf maes glo'r de ar y pryd. Dim ond y ffrwydrad yng Nglofa Universal, Senghenydd ym 1913, oedd yn waeth na thrychineb Glofa Albion. Ychydig iawn o lowyr a ddaeth allan o'r pwll yn fyw, a bu farw'r rhan fwyaf o'r rheiny wedyn o'u hanafiadau. Aed â chyrff y meirw i lofft wair stablau'r pwll a oedd yn gweithredu fel marwdy dros dro, ac fe gafwyd golygfeydd torcalonnus wrth i berthnasau chwilio am aelodau eu teuluoedd yng ngolau llusern. Roedd llawer o'r cyrff wedi'u hanffurfio'n ddifrifol, ac roedd angen dychwelyd o leiaf tri ohonyn nhw i'r llofft wair wedi iddyn nhw gael eu hadnabod yn anghywir. Ychwanegwyd at y dryswch gan y ffaith nad oedd neb yn gwybod faint o ddynion oedd dan ddaear yn ystod y ffrwydrad.
Cynhaliwyd cwest y mis canlynol ym Mhontypridd. Buan iawn y daeth i'r amlwg bod yna wahaniaeth barn ynghylch achos a lleoliad y ffrwydrad rhwng yr arolygwyr a'r tystion proffesiynol ar y naill law, a pherchnogion y lofa ar y llaw arall. Ar ôl clywed y dystiolaeth, daeth aelodau'r rheithgor i'r casgliad bod llwch glo wedi cyflymu ffrwydrad nwy, ond ni allen nhw gyrraedd cytundeb ar y materion eraill. Penododd y Llywodraeth fargyfreithiwr o'r enw Mr J. Roskill i archwilio'r dystiolaeth. Cyflwynodd ei adroddiad i'r Ysgrifennydd Cartref ym mis Medi 1894. Ym marn Mr Roskill, achoswyd y ffrwydrad gan broses ffrwydro coed a daniodd groniad nwy a oedd yn gyfrifol wedyn am danio llwch glo. Roedd y tebygrwydd o ddamwain yn y pwll wedi cynyddu o ganlyniad i arferion gwaith peryglus ac anniben. Ymhlith yr arferion hyn oedd ffrwydro coed yn ystod shifftiau, diffyg defnydd o ddŵr i gael gwared ar lwch, a phatrymau shifft newydd ar ddydd Sadwrn a olygai nad oedd egwyl ar gyfer clirio llwch rhwng shifftiau. Er i'r adroddiad argymell erlyn Cwmni Glo Albion a nifer o unigolion penodol, yn y diwedd dim ond y rheolwr Philip Jones a'r fforman William Anstes a erlynwyd, a derbyniodd y cyntaf ddirwy o £10 a'r ail £2.
Ail-agorwyd y lofa lai na phythefnos ar ôl y ffrwydrad, a chyn hir cyflogwyd glowyr newydd yn lle'r rhai a fu farw. Cynyddodd y gweithlu i 1,735 erbyn 1896, ac i 2,589 erbyn 1908. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, cafwyd gostyngiad cyson yn nifer y dynion a gyflogwyd gan y pwll, ac ym 1928 fe aeth Cwmni Albion Steam Coal yn fethdalwyr. Prynwyd asedau'r cwmni gan Gwmni Powell Dyffryn Steam Coal, a nhw oedd perchnogion y lofa tan i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol gael ei ffurfio ym 1947. Erbyn hynny roedd y gweithlu ychydig yn llai na 1,000. Erbyn i'r lofa gau ym 1966 roedd y gweithlu bron wedi haneru. Pan ddaeth cyfnod Glofa Albion fel cyflogwr trigolion Cilfynydd i ben, roedd y tomennydd yn dal i sefyll yn fygythiol uwchlaw'r pentref, gyda'r bygythiad o drychineb debyg i Aberfan. Dechreuodd cynllun dau gam i leihau graddiant serth y domen wastraff ym 1974, ac fe'i cwblhawyd ddwy flynedd yn ddiweddarach.