Mae'r cwm wedi ei enwi ar ôl yr Afon Clydach, sy'n llifo i lawr i'r Afon Rhondda yn Nhonypandy, ac mae cofnodion o'r 17eg ganrif hefyd yn cyfeirio at yr ardal fel ‘Duffryn Clydach'. Gellir rhannu'r cwm yn ddau bentref ar wahân, Blaenclydach a Chwm Clydach.
Roedd gwythïen y Bedw'n dod i'r wyneb yn Tarren-Ty-Cneifio yng Nghlydach, a chwmnïau bach yn cloddio am lo yno mor bell yn ôl â'r 1840au. Ym 1845, daeth dyffryn coediog Cwm Clydach i sylw'r ymchwilwyr mwyngloddio, a gofynnodd cyfarwyddwyr Rheilffordd Taff Vale i'w hasiant baratoi adroddiad ar arolwg a wnaed o geunant Cwm Clydach. Felly, tua chanol y 19eg ganrif, agorwyd sawl lefel ym mhen pella'r cwm gan William Perch & Company er mwyn cloddio gwythïen y Rhondda Rhif 2. Cludwyd y glo i Reilffordd Taff Vale ar hyd yr inclein a redai i lawr y cwm. Yn ystod y cyfnod hwn, adeiladwyd teras o ugain o dai o'r enw Perch Row ar gyfer gweithwyr y pwll.
Y Sgwâr, Cwm Clydach c.1900
Er gwaethaf y gweithgarwch diwydiannol cynnar hwn, roedd Cwm Clydach yn parhau i fod yn gwm coediog o harddwch naturiol. Fodd bynnag, rhwng 1863 ac 1880, tyfodd yr ardal ar raddfa fawr, a daeth Cwm Clydach yn un o'r ardaloedd mwyaf poblog ac adeiledig nid yn unig yn y Rhondda ond yng Nghymru gyfan. Dechreuodd y twf hwn pan agorodd Bush and Company wythïen y Rhondda Rhif 2 yn Lefel-y-Bush, a phan agorwyd Glofa Blaenclydach yng ngwythïen y Rhondda Rhif 3 ym 1863. Yn ogystal â hynny, ym mis Ionawr 1864, enillodd Daniel ac Edmund Thomas hawliau mwyngloddio Ystâd Blaenclydach a Fferm Ffynondwyn, ac aethant ati i agor Glofa Cwmclydach. Ar ben hynny, agorodd Samuel Thomas ac Osborne Riches Lofeydd Cwm Clydach Rhif 1, 2 a 3 dros gyfnod o ugain mlynedd yn dechrau ym 1872. Erbyn 1879 roedd dwy Lofa Cwm Clydach yn cynhyrchu dros 100 tunnell o lo bob dydd.
Mae gan Gwm Clydach draddodiad hir o fod yn gymuned agos a gwleidyddol ei naws. Sefydlwyd y gymdeithas barhaol gyntaf ar gyfer glowyr y Rhondda yn y cwm, sef y Cambrian Miners' Association, ac fe ymunodd nifer o'i haelodau â'r Frigâd Ryngwladol i ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen. Sefydlwyd y ‘Clydach Vale and Blaenclydach Recreation Ground Committee' ym 1921, gan newid i'r ‘Cambrian Welfare Association' yn nes ymlaen. Sefydlwyd y pwyllgor hwn gyda grant o £57,000 a'i blaenoriaethau gwreiddiol oedd creu maes chwarae i blant, cae pêl-droed, cyrtiau tennis a lawnt fowlio. Parhaodd y gymdeithas am dros drigain mlynedd, gan ddod yn ganolbwynt bywyd cymunedol yn ardal Clydach, ac yn adeiladu a rheoli neuaddau, sefydliadau a meysydd chwarae cyhoeddus. Parhaodd â'i gwaith o reoli cyfleusterau nes i resymau ariannol ei gorfodi i'w trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1977. Cafodd y bocsiwr Tommy Farr ei eni yng Nghwm Clydach.
Diwydiant Glo Cwm Clydach
Glofeydd Blaenclydach
Glofeydd Blaenclydach
Agorwyd y lefelau ym Mlaenclydach am y tro cyntaf ym 1863 gan Frank James, er mwyn cloddio gwythïen rhif 3 y Rhondda, ffynhonnell ragorol o lo golosg. Ym 1875, agorodd Bush and Company Lofa Blaenclydach. Ym 1878, prynwyd y lofa gan Forest Iron and Steel Company Ltd. er mwyn darparu golosg ar gyfer eu ffwrneisiau ym Mhontypridd, a oedd yn angenrheidiol wrth gynhyrchu Haemetite a haearn crai. Ailagorwyd hen Lofa Cwm Clydach gan Gwmni Glofa Blaenclydach ym 1912. Erbyn 1913, roedd dros 720 o ddynion yn gweithio yn y lofa newydd hon, sef glofa'r Gorki yn lleol, tra bod yr hen lofa, oedd bellach yn cael ei galw'n Brookvale, yn cyflogi dim ond ugain o ddynion. Prynwyd y cyfan gan y Rhondda Coal Company ym 1920, cyn i Powell Duffryn ddod yn berchnogion ym 1940. Arhosodd yn nwylo'r cwmni hwnnw tan i'r diwydiant gael ei wladoli ym 1947, pan gaewyd y gwaith a cholli 41 o swyddi.
Glofeydd Cambrian
Agorwyd pwll Rhif 1 ym 1872 gan gwmni a ffurfiwyd gan Samuel Thomas ac Osborne Riches. Ar ddyfnder o 400 llath, ym 1874 canfuwyd gwythïen lo Chwe Troedfedd y Rhondda. Yn dilyn y llwyddiant hwn, agorwyd pwll Rhif 2 ym 1874 a Rhif 3 ym Mehefin 1891. Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd 700 tunnell o lo bob dydd rhwng 1890 ac 1894. Erbyn hyn, roedd Rheilffordd Taff Vale yn gwasanaethu'r pwll yn uniongyrchol, ac roedd lle ar ei seidins i dros 840 o wagenni, gan ei wneud yn fusnes hynod o fawr. Yn dilyn marwolaeth Samuel Thomas ym 1879, daeth ei feibion yn bartneriaid rheoli, ac ym 1895, fe aethant ati i ffurfio Cambrian Collieries Limited.
Glofeydd Cambrian tua 1900
Brigâd Achub Glofeydd Cambrian 1916 W. Richards - J. Thomas - H. Adams - Arolygwr Thorne R. Jones - J. Hughes (Capten) - E. Wylie
Yn dilyn anghydfod Glofa Cambrian ym 1910, ag arweiniodd at Derfysg Tonypandy, cynyddodd y gweithlu i'w lefel uchaf erioed ym 1913, sef 4,113. Unodd y cwmni ym 1929 i ffurfio Welsh Associated Collieries Ltd., ac unodd gyda Powel Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell Duffryn Associated Collieries Limited. Ym 1934 cyflogodd y Lofa 1,900 o ddynion dan ddaear yng Ngwythïen Dwy Droedfedd Naw Modfedd Pentre, y Bute, iard, Gwythiennau Pum Troedfedd a Phum Troedfedd Is. Caewyd pwll Rhif 3 ym 1936. Parhaodd y lofa i weithio ar ôl i'r diwydiant gael ei wladoli, ac roedd 1,711 yn gweithio dan ddaear ym 1954. Caewyd y glofeydd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1966.
Y Cambrian Combine
Dyma'r cyntaf o'r casgliadau mawr o byllau glo a ffurfiwyd yn y De, ac roedd yn drobwynt mawr yn nulliau gweithredu'r diwydiant glo. Gynt, roedd pyllau'n tueddu i fod yn fach ac o dan reolaeth cwmnïau glo unigol. Arweiniodd y broses o ffurfio ‘Combines' at fentrau mwy o lawer lle'r oedd nifer fawr o byllau'n cydweithio er mwyn creu un gorfforaeth fawr.
Hyrwyddwyd ‘combines' gan David Alfred Thomas, Is-iarll y Rhondda, er mwyn rheoli a rheoleiddio'r fasnach glo ager yn Ne Cymru. Ar ôl mynychu Prifysgol Caergrawnt, cafodd ei anfon i Lofa Cambrian ei dad er mwyn cynnal astudiaeth fanwl o drefniadaeth economaidd y diwydiant glo yn y Rhondda. Yn ei farn ef, pe bai'n bosibl cyfuno'r ugain cwmni neu lofa a oedd yn cynhyrchu wyth deg y cant o gynnyrch y De, byddai'r cyfuniad yn ddigon i reoli a rheoleiddio'r diwydiant glo ager yn y De a Sir Fynwy. Fodd bynnag, roedd y gystadleuaeth ffyrnig ymysg y perchnogion glo yn rhy gryf i ganiatáu unrhyw gynllun cydweithredol. Teimlodd Thomas yn hynod o rwystredig yn sgil y gwrthwynebiad i'w argymhellion a lansiwyd ym 1896, a gadawodd y diwydiant er mwyn mynd i'r Senedd.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl methu â chael swydd yn llywodraeth Ryddfrydol newydd-etholedig Campbell Bannerman, dychwelodd i'r Cambrian yng Nghwm Rhondda. Er ei fod yn gwybod y byddai gwrthwynebiad y perchnogion glo eraill yn dal i rwystro'i freuddwyd o gyfuno'r pyllau, penderfynodd weithredu ar ei liwt ei hun, heb eu cymorth. Gwnaeth hyn drwy sicrhau cyfran reolaethol mewn eiddo nifer o'i gystadleuwyr, sef y Glamorgan Coal Company, y Naval Company Limited a'r Brittanic Merthyr Coal Company Limited, ymysg eraill. Ffurfiodd y Cambrian Trust Ltd. ym 1907 a Consolidated Cambrian Limited ym 1916. Yr uniad hwn oedd y pwysicaf yn y diwydiant glo yn y Rhondda cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn 1916, er nad mor fawr â'i argymhellion ym 1896, roedd y Cambrian Combine yn gawr diwydiannol, gan gynhyrchu dros saith miliwn o dunelli - dwy ran o dair o'r holl lo a gloddiwyd yn y Rhondda. Yn ogystal â glofeydd yn y Rhondda, llwyddodd y ‘Combine' i sicrhau cyfran reolaethol mewn nifer o lofeydd y tu allan i'r cwm yn ogystal â chyfran reolaethol mewn cwmnïau eraill a oedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r diwydiant glo e.e. rheilffyrdd, cwmnïau llongau ac ati.
Felly, roedd pŵer a maint Pyllau'r Cambrian ar adeg Anghydfod y Cambrian (a ddaeth i gael ei adnabod fel Terfysgoedd Tonypandy) ym 1910, heb ei ail ym myd y diwydiant glo yn ne Cymru.
Trychineb Glofa Cambrian 1905
Ar 10 Mawrth 1905, cafwyd tanchwa yng ngwythïen 6tr pwll Rhif 1 Glofa Cambrian. Lladdwyd 32 o ddynion dan ddaear, bu farw un arall yn yr ysbyty, ac anafwyd 14 o rai eraill yn ddifrifol. Roedd papurau newydd Dydd Sadwrn 18 Mawrth yn llawn penawdau fel, 'Terrible explosion at Clydach Vale... Heavy Death Roll... Men still missing...Pit a veritable inferno.... Men still missing.' Ar ôl clywed clec y danchwa ledled y cwm, heidiodd miloedd o bobl leol i ben y pwll i geisio achub bywydau ac i gael newyddion am eu hanwyliaid dan ddaear. Ar ôl clywed am y trychineb, teithiodd yr AS lleol, D.A. Thomas, ar y trên nos o Lundain i fangre'r trychineb, gan gyrraedd am 3 o'r gloch fore Sadwrn.
Daeth criw cymorth at ei gilydd ar unwaith ym mhen y pwll, yn cynnwys Leonard Llewellyn, asiant y glofeydd, D Davies a Trevor Price (rheolwyr), Morris Williams (Prif Beiriannydd), ac eraill. Cafodd pob un o'r dynion hyn eu cydnabod wedyn gan y Royal Humane Society am eu dewrder wrth geisio achub eraill. Wrth ddisgyn i'r pwll trwy siafft Rhif 2 a'r Wythïen Coronation, 120 o lathenni o dan yr wythïen a effeithiwyd, canfu'r criw 50 o ddynion yn fyw a bron yn ddianaf, ac roedd modd eu hanfon i'r wyneb. Wrth symud yn araf at yr wythïen 6tr canfu'r criw 13 o ddynion yn fyw, ond roedd pob un wedi'i losgi'n ddifrifol. Fodd bynnag, o hyn ymlaen, ataliwyd yr ymdrechion i achub bywydau oherwydd dwyster y tân. Erbyn dau o'r gloch fore drannoeth, ar ôl i'r ymdrechion cyntaf i ddiffodd y tân dan ddaear fethu, yn ôl Mr Leonard Llewellyn, roedd yn gwbl amhosibl i'r un creadur fod yn fyw y tu hwnt i'r tân. Nid oedd modd diffodd y tân a chlirio'r creigiau a oedd yn arwain tuag at ffynhonnell y danchwa tan y dydd Mercher canlynol. Yn ystod y cyfnod hwn, canfuwyd 30 o gyrff ac roedd dau wedi'u llosgi'n ulw gan ffyrnigrwydd y tân.
Cynhaliwyd chwe angladd cyntaf y rhai a laddwyd gan y trychineb ar y dydd Mercher yn dilyn y danchwa, a chyfarfu'r chwe gorymdaith ar Sgwâr Clydach er mwyn ffurfio un orymdaith i'r fynwent. Roedd cannoedd o bobl ar strydoedd Clydach, caeodd y siopau lleol am y prynhawn a chaewyd llenni pob cartref fel arwydd o barch.
Ym mis Mai 1905, cyhoeddwyd Adroddiad y Swyddfa Gartref i achos y danchwa gan F.A. Gray, un o Arolygwyr Pyllau Glo ei Fawrhydi. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y danchwa wedi dechrau gan lusern ddiogelwch David Enoch, a fu farw yn y danchwa. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynglyn â'r hyn a achosodd y llusern i danio. Yn ôl un ddamcaniaeth, roedd carreg wedi disgyn ac wedi malu gwydr y llusern, gan ddinoethi'r fflam a thanio'r nwy o'i hamgylch. Yn ôl y ddamcaniaeth arall, a gefnogwyd gan yr Arolygwr, roedd nwy wedi ffrwydro yn y llusern, gan ddinoethi'r rhwyllen a thanio'r nwy o'i hamgylch.
Roedd tanchwa Cambrian 1905 yn drychineb ofnadwy, ond pe bai wedi digwydd ar amser gwahanol gallai pethau fod wedi bod yn waeth o lawer. Digwyddodd y danchwa am 6.25pm pan oedd y shifft dydd eisoes wedi gadael y pwll a'r shifft nos yn dal heb gyrraedd. Oni bai am yr amseru ffodus hwn, byddai mwy o weithwyr o lawer wedi'u lladd.
Trychineb Glofa Cambrian 1965
'Another sad scar in the Rhondda's History', '31 Died in Pit Hell', 'Rhondda Hell'.
Dyna oedd penawdau'r papurau newydd ar 18 Mai 1965 yn dilyn tanchwa yng Nglofa Cambrian, Cwm Clydach, ar ddydd Llun 17 Mai. Digwyddodd y danchwa ychydig cyn 1pm yng ngwythïen Pentre rhanbarth p.26 a oedd wedi bod yn gweithio ar ei hanterth ers dim ond pedwar mis. Hwn oedd y trychineb mawr olaf i daro maes glo'r De. Aed ati'n syth i geisio achub bywydau, ac ar adegau roedd dros 150 o ddynion yn helpu. Ddeg awr ar ôl y danchwa, tynnwyd y corff olaf o'r wythïen ddwy droedfedd a hanner, 300 llath o dan y ddaear a mwy na milltir a hanner o ben y pwll. Lladdwyd 31 gan y danchwa, ac roedd angen defnyddio rhifau llusernau neu olion bysedd amryw o'r meirw er mwyn eu hadnabod. Anafwyd 13 o bobl eraill.
Cynhaliwyd ymchwiliad i'r trychineb yn y Llysoedd Barn, Caerdydd, dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Gorffennaf 1965, gyda 58 o bobl yn rhoi tystiolaeth. Canfu'r ymchwiliad mai llosgnwy a achosodd y danchwa, gyda'r fflam yn ymestyn ar hyd tua 325 o lathenni o'r ffâs a'r ffordd ddychwelyd. Roedd y llosgnwy wedi ffrwydro oherwydd awyru gwael a achoswyd yn bennaf, yn ôl yr ymchwiliad, gan gysylltiadau awyru a adeiladwyd yn wael ac a arweiniodd at nwy yn cronni. Taniwyd y nwy gan arc electronig ar banel switsh agored lle'r oedd trydanwyr yn gweithio. Daethpwyd i'r casgliad, felly, mai arferion gwaith gwael oedd achos y danchwa.
Er bod y genedl wedi hen arfer â thrychinebau pyllau glo, fe'i brawychwyd gan y danchwa hon, a nododd D. Francis yng nghylchgrawn 'The Miner', ei fod yn synnu bod ffasiwn o drychineb yn gallu digwydd ym 1965. Credwyd bod trychinebau mawr o'r fath yn perthyn i'r gorffennol. Cynhaliwyd angladdau'r glowyr ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn, ac roedden nhw'n ddigwyddiadau hynod o emosiynol. Roedd dros 20,000 o bobl yn sefyll yn ddistaw ar hyd llwybr yr orymdaith am dros ddwy filltir. Anfonwyd neges o gydymdeimlad gan y Frenhines i deuluoedd y rhai a anafwyd a'r rhai a fu farw, a sefydlwyd cronfa a gododd dros £123,000. Caewyd y pwll ddwy flynedd ar ôl y trychineb, ac agorodd Neil Kinnock ardd goffa ar safle'r hen bwll.
Trychineb Llif Cwm Clydach
Golygfa o drychineb y llif
Bron bum mlynedd yn union ar ôl tanchwa Cambrian 1905, dioddefodd pentref Cwm Clydach drychineb arall. Er na ddigwyddodd y trychineb hwn dan ddaear, yr hen weithfeydd glo oedd yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Yn yr achos hwn, un o'r lefelau 'Perch' gwreiddiol, oedd wedi bod yn segur am y bum mlynedd flaenorol, oedd yn gyfrifol. Roedd yn hysbys ers peth amser bod dŵr wedi bod yn cronni yn y lefelau segur hyn, ac roedd contractwr wedi bod wrthi'n draenio'r gronfa i nant gyfagos.
Mae'n amhosibl bod yn sicr a oedd y broses o darfu ar y gronfa wedi tanseilio'r muriau gan achosi'r union ddigwyddiad roedd yn ceisio'i osgoi. Bid â fo am hynny, tua 4pm ar ddydd Gwener 11 Mawrth 1910, dymchwelodd ochr y mynydd fel pe bai ffrwydrad folcanig wedi digwydd, ac ysgubodd llifeiriant o ddŵr ynghyd â phentyrrau o bridd, clogfeini a rwbel i lawr ochr y mynydd.
Teras Adams oedd yn gorfod wynebu'r llifeiriant hwn gyntaf, ac yn ôl adroddiadau papurau newydd o'r cyfnod, lloriwyd y tŷ cyntaf a wynebodd y llifeiriant fel pecyn o gardiau, a lladdwyd ei breswylwyr, Mrs Elizabeth Ann Williams a'i merch bedwar mis oed. Yn ôl adroddiad y papur newydd, dinistriwyd un ar ddeg o dai a siop y crydd, ac ysgubwyd un tŷ ymaith yn gyfan gwbl. Llifodd y dŵr i lawr i gyfeiriad Ysgol Cwm Clydach, lle'r oedd naw cant o blant. Gwelodd prifathro'r ysgol, Mr R. B. Williams, y llif yn dod yn nes at yr ysgol, ac aeth ati'n syth i ddiogelu'r disgyblion. Symudwyd y bechgyn a'r plant hŷn i le diogel, ac roedd angen codi nifer fawr ohonyn nhw dros wal y buarth i lôn gyfagos. Fodd bynnag, roedd y llif yn symud mor gyflym, roedd yn amhosibl symud y merched a'r plant bach o'u hysgolion nhw cyn i'r llif eu boddi. Yn ôl adroddiad papur newydd o'r cyfnod, roedd plant yn cael eu hyrddio i bob cyfeiriad ac yn arnofio yn y dŵr. Yn ffodus iawn, roedd y llif wedi taro ar yr union adeg pan oedd y shifft yn y pwll lleol newydd ddod i ben, ac roedd nifer fawr o lowyr yn cerdded heibio'r ysgol ar y pryd.
Cafodd y wal ei dymchwel gan nerth y dŵr yn y buarth, a llifodd y dŵr yn ddiogel i lawr y llethr i'r afon Rhondda. Brawychwyd trigolion Cwm Clydach gan y difrod a achoswyd gan y llif, a daeth miloedd o bobl i weld y golygfeydd hunllefus. Fodd bynnag, oni bai am ddewrder athrawon yr ysgol a'r bobl eraill a helpodd i achub bywydau, byddai llawer mwy o blant wedi marw oherwydd y llif.
Fe aeth y glowyr ati'n syth i achub y plant, gan osod polion ac ysgolion yn erbyn waliau Ysgol y Merched a'u helpu i gyrraedd diogelwch buarth y bechgyn trwy'r ffenestri. Yn yr un modd, cafodd y rhai a oedd yn gaeth yn Ysgol y Babanod eu symud i le diogel trwy'r ffenestri ac Ysgol y Merched.
Cafodd nifer fawr o blant a oedd yn gaeth ym muarth y plant, eu codi dros wal yr ysgol a'u hachub. Er gwaethaf ymdrechion dewr yr achubwyr, boddodd tri o'r plant ysgol, Blodwen Davies, naw oed, Enid Howells chwech oed, a Gertrude Rees, pump oed. Bu farw Elizabeth a Francis Williams a Haydn Brimble o Stryd Adams hefyd, gan fynd â chyfanswm y rhai a laddwyd gan y llif i chwech.