Fel sy'n wir am gymaint o gymunedau cymoedd y De, datblygodd pentref Cwmaman er mwyn darparu cartrefi a gwasanaethau i weithwyr y glofeydd lleol. Cyn i'r glofeydd cyntaf agor, roedd Cwmaman yn ardal wledig ddistaw. Dim ond wyth o ffermydd oedd yno, a phob un o'r rheiny wedi bod yno ers y cyfnod canoloesol diweddar. Mor ddiweddar â 1841, pan oedd aneddiadau newydd wedi'u hen sefydlu yn ardal y gweithfeydd haearn i'r gogledd yng nghyffiniau Aberdâr a Hirwaun, poblogaeth o 40 yn unig oedd gan Gwmaman, ac roedd wedi cadw ei gymeriad traddodiadol. Fodd bynnag, wrth i'r glofeydd ddechrau agor tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynyddodd poblogaeth y pentref yn sylweddol a chodwyd llawer o adeiladau newydd. Adeiladwyd llawer o strydoedd Cwmaman, fel Aman Street, Aman Place, Railway Row, Fforchaman Road a Kingsbury Place rhwng 1850 a 1860.
Y Globe Inn c.1900
O ganlyniad i'r twf cyflym ym mhoblogaeth y pentref, roedd angen cynyddol am amwynderau cyhoeddus. Cafodd nifer o dafarndai eu hagor, a'r cyntaf o'r rhain oedd y Shepherd's Arms ym 1850, sy'n dal i wasanaethu'r cyhoedd heddiw. Ymysg tafarndai eraill yr ardal oedd y Cwmneol Inn, y Globe Inn, yr Ivy Bush Inn, y Mount Pleasant Inn a'r Railway Inn. Fel mae Cyfeirlyfr Masnach Kelly 1920 yn ei nodi, agorwyd llu o siopau newydd yn yr ardal. Mae'r cyfeirlyfr yn rhestru dros ddeugain o fanwerthwyr yng Nghwmaman, gan gynnwys siop lysiau, pobydd, haearnwerthwr, siop trin gwallt a siop ddillad. Yn ogystal â hyn, roedd gan Gwmaman ei swyddfa bost ei hun, a sefydlwyd cyn 1875, a Neuadd Gyhoeddus a Sefydliad y Glowyr, a agorwyd ym 1892.
Mae crefydd wedi cyfrannu at fywyd y gymuned hefyd, ac mae nifer o addoldai wedi'u hagor i wasanaethau'r gymuned. Y cyntaf o'r rhain oedd Capel Annibynwyr Cymraeg Aman Moriah, a agorwyd ym 1855, a dilynwyd hyn gan Gapel Bedyddwyr Cymraeg Seion (1859), Capel Presbyteraidd Cynnar Cymraeg Soar (1859), Capel Methodistaidd Cynnar Saesneg Bethel (1872/73), Eglwys Anglicanaidd Sant Joseff (1880/81) a Chapel Bedyddwyr Saesneg Trinity (1901).
Yn y llun hwn mae mam a dau blentyn yn sefyll wrth ddrws un o dai'r glowyr yn Fforchaman Row. Mae'r craciau yng ngwaith rendro'r waliau yn dangos pa mor gyflym yr adeiladwyd y tai hyn – nid oedd yr adeilad wedi cael amser i setlo cyn i'r gwaith rendro gael ei wneud.
DIWYDIANT GLO CWMAMAN
Sefydlwyd pentref Cwmaman ar ôl i wythiennau glo cyfoethog gael eu darganfod yn yr ardal ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae twf y pentref yn gysylltiedig â datblygiad y diwydiant glo ager a'r tair glofa fawr a sefydlwyd yn yr ardal, sef:
GLOFA CWMNEOL
Yn fwy adnabyddus fel Pwll Morris, hon oedd y lofa gyntaf i gael ei hagor yn ardal Cwmaman. Fe'i hagorwyd ym 1848 gan John a Charles Carr o Northumberland a Martin Morrison o Gasnewydd. Y bartneriaeth hon oedd perchnogion y lofa tan 1865 pan gafodd ei gwerthu i'r Aman-Aberdare Coal Co. Ltd. Ym 1868, gwerthwyd y lofa i'r Powell Duffryn Steam Collieries Co. Ltd., a ddaeth yn ei dro yn gwmni glo cyfun mwya'r byd. Y cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947. Daeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn berchnogion y lofa wedyn, gan benderfynu ei chau ym 1948.
GLOFA CWMAMAN (Hefyd yn adnabyddus fel Glofa Shepherd)
Agorwyd y siafftau cyntaf ym 1849, a darganfuwyd glo ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Sefydlwyd y lofa gan Thomas Shepherd mewn partneriaeth â H. J. Evans, a fu'n rheoli'r lofa ar ei ben ei hun wedi hynny. Ffurfiwyd y Cwmaman Coal Company er mwyn prynu'r lofa ym 1873. Cafwyd cyfnod o ehangu wedyn, wrth i bwll Fforchwen agor ym 1900 a phwll Trewen agor rhwng 1910 a 1912. Ym 1918, gwerthwyd y lofa gan Cwmaman Coal Co. Ltd. i D. R. Llewellyn, ac fe'i gwerthwyd eto i Bwllfa and Cwmaman Coal Co. Ltd. ym 1928 ac i Welsh Associated Collieries Ltd. ym 1934. Pan gaeodd y lofa ym 1935, Powell Duffryn Associated Collieries oedd y perchnogion.
GLOFA FFORCHAMAN (Hefyd yn adnabyddus fel pwll Brown)
Sefydlwyd y lofa gan James Brown a Thomas Prothero (& Co.) a gafodd les i weithio'r gwythiennau glo gan y perchnogion perthnasol ym 1856. Gwerthwyd Pwll Fforchaman gan y bartneriaeth hon ym 1864 i'r United Merthyr Colliery Co. Ltd., ac fe'i gwerthwyd gan y cwmni hwnnw i'r Powell Duffryn Steam Coal Company ym 1868. Y cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947. Caewyd y lofa gan y Bwrdd Glo ym 1965. Yn ogystal â'r ddwy lofa fawr, ceisiwyd sefydlu dwy lofa lai, sef Glofa Fforchneol (1868 - 1893) a Glofa Bedwlwyn (1865-1901).
Caewyd y lofa gan y Bwrdd Glo ym 1965. Yn ogystal â'r ddwy lofa fawr, ceisiwyd sefydlu dwy lofa lai, sef Glofa Fforchneol (1868 - 1893) a Glofa Bedwlwyn (1865-1901).
SEFYDLIAD CWMAMAN
Agorwyd y Sefydliad fis Mawrth 1868, a hon, o bosibl, oedd y fenter hirhoedlog gyntaf o'i math yng Nghwm Cynon. Fe'i hagorwyd yn wreiddiol fel ystafell ddarllen mewn tŷ a ddarparwyd yn ddi-dâl gan y Cwmaman Coal Company, cyn symud i 10a Railway Terrace ym 1881. Ym 1884 cytunodd gweithwyr Glofa Cwmaman i sefydlu cynllun puntdal, lle byddai dimai ym mhob punt o'u cyflogau wythnosol yn cael ei didynnu er mwyn creu sefydliad mwy yn y Tea Caddy Shop yn rhif 130 a 131 Glanaman Road.
Cyn hir nid oedd digon o le yn yr adeilad hwn, a phenodwyd pwyllgor adeiladu gan gyfarfod cyhoeddus ym 1889. Sicrhawyd les 99 mlynedd ar dir ar Ystâd Cwmneol, a phenodwyd pensaer, Thomas Roderick o Clifton Street, Aberdâr, ac adeiladwyr, Mr Powell a Mansell o Gaerdydd. Agorwyd yr adeilad yn ffurfiol gan Arglwydd Aberdâr ar 25 Ionawr 1892, ac roedd yn cynnwys neuadd gyhoeddus gyda seddau ar gyfer 700 o bobl, ystafelloedd darllen, ystafell biliards a bwthyn i'r gofalwr.
Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith adeiladu dros dro pan ddinistriwyd yr adeilad gan dân ar 19 Ebrill 1896. Fodd bynnag, aed ati i adfer yr adeilad wedyn, ac roedd y sefydliad wedi'i gwblhau erbyn tua mis Ionawr 1897. Ychwanegwyd at y sefydliad drwy adeiladu neuadd lai ym 1906 ac adeilad unllawr ym 1925. Cyn hir, roedd y Sefydliad yn ganolbwynt diwylliannol i'r gymuned, gan gynnal eisteddfodau, cyfarfodydd Cyfrinfa'r Lofa, a dod yn gysylltiedig â Band Pres Cwmaman ym 1912. Aeth y llyfrgell o nerth i nerth hefyd, ac erbyn 1911 roedd ganddi 4,273 o lyfrau: 3,679 o lyfrau Saesneg a 594 o lyfrau Cymraeg.
Sefydliad Cwmaman tua 1895 cyn y tân a ddinistriodd y prif adeilad yn gyfan gwbl. Mae Glofa Fforchaman ym mhellter canol (chwith) y llun a gellir gweld Glofa Cwmaman rhwng y ddwy simne yn y pellter. Mae'r tai newydd mewn cyflwr rhagorol yn yr 1890au, ond dirywiodd amodau byw wedyn wrth i'r pyllau dyfu.
Yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad, cafwyd gostyngiad sylweddol mewn incwm o gynllun puntdal y glowyr, a chollodd y sefydliad bron i 83% o'i incwm o'r ffynhonnell hon rhwng 1920 a 1926. Er gwaethaf hyn, a diolch i grantiau gan Gomisiwn Lles y Glowyr, llwyddodd y Sefydliad i wneud cyfraniad pwysig at leddfu dioddefaint y gymuned. Prif waith y Sefydliad yn ystod y cyfnod hwn oedd codi arian, darparu bwyd ac ymgymryd â gwaith gwleidyddol. Yn ystod y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, canolbwyntiwyd ar adfywio bywyd diwylliannol y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys ail-sefydlu gweithgareddau diwylliannol sefydledig fel Band Arian y Sefydliad, a chyflwyno datblygiadau newydd er mwyn ymateb i newidiadau i batrymau a gwerthoedd cymdeithasol a ddaeth i'r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ymysg y rhain oedd adeiladu sinema gyhoeddus ym 1954 ac agor eiddo trwyddedig ym 1967.
Câi gweithgareddau diwylliannol eu hyrwyddo o hyd, a dechreuodd cynyrchiadau theatr byw ffynnu eto, gan arwain at sefydlu Grŵp Theatr y Sefydliad ym 1972. Ym 1992/1993 roedd modd gwneud gwaith atgyweirio helaeth ar ochr allanol yr adeilad diolch i grant gan y Swyddfa Gymreig o dan ei rhaglen cymorth trefol. Mae'r Sefydliad yn ganolbwynt i'r gymuned hyd heddiw, ac er bod llawer o'i swyddogaethau wedi newid yn sylweddol, mae'n dal i lynu wrth egwyddorion gwasanaeth cymunedol.