Heddiw mae'r enw Dinas yn cyfeirio at le mawr, poblog, ond roedd ei ystyr gwreiddiol yn cyfeirio at gaer. Ar Graig Y Ddinas, y llechwedd uwchben Dinas, canfuwyd gweddillion hynafol a allai fod wedi perthyn i gaer o ryw fath. Yn ogystal, wrth i'r diwydiant glo ehangu ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd yr enw ‘Dinas Y Glo' ar yr ardal.
Fferm Dinas Ishaf. Enghraifft o dŷ hir, h.y. adeilad oblong, isel, hir, sengl a oedd yn gartref i'r teulu ac i'r gwartheg. Fe'i hadnewyddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gan yr enghraifft hon drawst lle tân dyddiedig 1638, ond mae'n bosibl bod y tŷ ei hun yn hŷn na hynny.
Mae gan bentref Dinas le pwysig iawn yn hanes Cwm Rhondda, oherwydd gellir dweud mai dyma'r union bentref y ganed y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, ac yn sgil hynny dyma fan geni Cwm Rhondda diwydiannol ei hun. Dechreuwyd ar y gwaith datblygu gan Walter Coffin, gŵr busnes o Ben-y-bont ar Ogwr, a brynodd fferm Dinas ar ddechrau'r 1800au a hawliau mwyngloddio Ffermydd Gwaun Ddu a Gwaun Adda, gyda'r bwriad o chwilio am lo yn yr ardal. Roedd problemau mawr yn gysylltiedig â chloddio glo yn Ninas yn y dyddiau cynnar, gan fod gwyddoniaeth daeareg heb ei datblygu'n llawn eto, ac nid oedd sicrwydd faint o lo oedd yn yr ardal. Yn ogystal â hynny, nid oedd gan weithwyr Cwm Rhondda brofiad o'r diwydiant glo, felly roedd angen dod o hyd i weithwyr o'r tu allan a'u cartrefu yn yr ardal.
Ar ddechrau'r fenter newydd roedd tramffordd Dr Griffith yn dod i ben dair milltir o Ddinas, gan ei gwneud yn anodd iawn cludo unrhyw lo a gynhyrchwyd. Fodd bynnag, llwyddodd Coffin i oresgyn y problemau hyn, ac erbyn 1841 cyflogwyd 301 o ddynion a 113 o fechgyn ym mhyllau Coffin yn Ninas, gan sicrhau mai hon oedd y lofa fwyaf yng Ngogledd Morgannwg nad oedd yn gysylltiedig â gwaith haearn.
Cymmer Road, Dinas
Gellir gweld datblygiad cynnar Dinas ar fap degwm 1847 o'r ardal. Mae'r map yn dangos bod yr ardal hon yn wahanol iawn i weddill Cwm Rhondda yn y cyfnod hwnnw, a oedd yn tueddu i gynnwys ffermydd gwasgaredig ac ambell i fwthyn, capel neu eglwys yn unig. Dinas oedd cartref cymuned lofaol gyntaf Cwm Rhondda, wrth i Coffin a David Griffiths adeiladu'r rhesi cyntaf o fythynnod ar gyfer gweithwyr Coffin. Mae'r map hefyd yn dangos capel gyda mynwent a thŷ ynghlwm. Adeiladwyd capel ‘Ebeneser' cyntaf Dinas ym 1830. Ychydig iawn o weithwyr o'r tu allan a symudodd i'r ardal ar y dechrau, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn swyddogion glofaol a ddaeth gyda Coffin o Ben-y-bont, arbenigwyr mewn agor pyllau o Lansamlet a'r glowyr cyntaf o ardaloedd fel Penderyn, Llantrisant a Llanharan.
Erbyn yr 1930au, dechreuodd nifer o labrwyr amaethyddol o Fro Morgannwg gyrraedd hefyd. Er nad oedd gweithfeydd glo Coffin yn fawr o'u cymharu â'r hyn a ddaeth wedyn, ei weledigaeth arloesol ef oedd yn gyfrifol am symbylu datblygiad enfawr y diwydiant glo yn yr ardal – datblygiad a newidiodd Gwm Rhondda am byth.
Yn ôl y cofnodion, cafwyd y danchwa gyntaf mewn glofa yng Nghwm Rhondda yn Ninas ar Ddydd Calan 1844, a lladdwyd deuddeg o ddynion a bechgyn. Agorwyd gorsaf achub glofeydd yn Ninas ar 22 Mehefin 1912 gan y Brenin Siôr V.
Glofa Dinas
Gorsaf Achub Glofeydd Dinas
Y trên brenhinol ym Mhorth yn cludo Siôr V wrth iddo agor Gorsaf Achub Glofeydd Dinas ym 1912
Bu gwaith glowyr yn hynod o beryglus erioed. Yn ogystal â thrychinebau mawr a laddodd nifer fawr o ddynion a bechgyn, lladdwyd llawer o lowyr gan gerrig yn disgyn, damweiniau mewn siafftau, damweiniau tramiau ac ati. Rhwng 1889 ac 1910, lladdwyd dros 1,000 o lowyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y diwydiant glo ym Mhrydain, a chododd y ffigur hwn i dros 1,800 ym 1910. O ganlyniad, pasiodd Llywodraeth Prydain Ddeddf Pyllau Glo 1911. Nododd y Ddeddf hon fod angen i berchnogion pyllau glo sefydlu Gorsafoedd Achub Canolog, gan sicrhau nad oedd unrhyw bwll perthnasol fwy na deng milltir i ffwrdd o orsaf o'r fath.
Ffurfiwyd y Rhondda Collieries Rescue Association yng Nghwm Rhondda. Roedd y gymdeithas hon yn cynrychioli mwy nag ugain o gwmnïau glo yng Nghwm Rhondda a'r cyffiniau, a oedd yn eu tro yn berchen ar fwy na saith deg o lofeydd. Dewiswyd man ar gyfer yr orsaf achub yn Ninas a oedd lai na 200 llath o safle'r siafft gyntaf a agorwyd yng Nghwm Rhondda gan Walter Coffin. Roedd modd cyrraedd cymoedd y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr yn hwylus o'r safle hwn. Adeiladwyd yr orsaf gan Messrs. Niblett a Davies o Gaerdydd ar gost o bron i dair mil a hanner o bunnoedd. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ar 27 Mehefin 1912, ac roedd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mari'n bresennol.
Er gwaethaf dirywiad y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda yn ystod yr ugeinfed ganrif, parhaodd Gorsaf Achub Dinas i ffynnu. Gwasanaethodd fel gorsaf ganolog ar gyfer gorsafoedd achub eraill y de, ac estynnodd ei dalgylch wrth i orsafoedd eraill ddechrau cau. Yn ystod ei saith deg pum mlynedd cyntaf, hyfforddwyd tua 2,000 o ddynion gan Orsaf Achub Glofeydd Dinas, ac ymatebodd i dros 200 o alwadau brys, gan achub bywydau dirifedi yn y broses.
Yr Orsaf Achub - Dinas
Mae Gorsaf Achub Glofeydd Dinas yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned hyd heddiw. Yn dilyn preifateiddio'r diwydiant glo yn y 1980au, mae gorsaf Dinas wedi'i rheoli gan gwmni preifat, Mines Rescue Service Ltd. Yn ogystal â pharhau â'i gwaith achub arbenigol, mae'r orsaf yn Ninas hefyd yn cynnig hyfforddiant i gwmnïau preifat, sefydliadau ac unigolion, mewn meysydd fel cymorth cyntaf, offer anadlu ac iechyd a diogelwch.