Cafodd y pwll yma'i sefydlu yn dilyn yr angen i gael glo a haearnfaen i gadw Gweithfeydd Haearn y Gadlys ar agor. Roedd i'r pwll, sy'n cael ei alw'n Pwll Fictoria hefyd, nifer o siafftiau. Roedd rhai ar gyfer cloddio glo ac eraill ar gyfer cloddio haearnfaen. Roedd y pwll mewn man delfrydol – ychydig dros 400 o lathenni o'r Gweithfeydd Haearn. Cafodd y cwmni ganiatâd yn 1845 i gloddio am lo yng Nglofa'r Graig, glofa gyfagos ar lethrau isa'r Graig i gyfeiriad y De.