Roedd codi nifer o gapeli o gwmpas y dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adlewyrchu'r cyfnod o dwf cyflym yn ei hanes. At hynny, Saesneg oedd iaith yr addoli mewn llawer o'r capeli hyn, a hynny'n adlewyrchiad o'r ffaith mai pobl o'r tu hwnt i Glawdd Offa oedd y mwyafrif o'r mewnfudwyr i'r dref erbyn hynny.
Roedd diwylliant y capeli anghydffurfiol yn troi o gwmpas corau meibion, cyngherddau ac eisteddfodau. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, fodd bynnag, doedd hynny ddim yn bodloni gofynion adloniadol nifer cynyddol o drigolion y dref. Cafodd nifer o theatrau a sinemâu eu codi yn y dref. Y Royal Clarence Theatre oedd y theatr barhaol gyntaf i'w chodi ym Maes Glo'r De ac ynddi le i gynulleidfa o fil. Cafodd ‘Neuadd y Dref' ar safle Marchnad Pontypridd, ei chodi ym 1885. Daeth Neuadd y Dref – ac iddi seddau ar gyfer 1,700 yn bwysicach na'r theatr.
Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn fwyfwy poblogaidd yn ogystal.