Llanilltud Faerdref

Mae mapiau Arolwg Ordnans cyn y 1950au, yn dangos bod Llanilltud Faerdref yn amgylchynu Eglwys y Plwyf Illtud Sant. Erbyn heddiw, fodd bynnag, cyfeirir at yr ardal hon fel Pentre'r Eglwys/Gartholwg Uchaf, tra bod Llanilltud Faerdref ychydig dros filltir i'r de. Er bod adeilad eglwys bresennol Illtud Sant yn dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd y safle fel man addoli ers y bumed ganrif. Gallwn olrhain y tŵr i 1636, y gofrestr i 1632, a'r gloch i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd ac ailgysegrwyd y gloch ym 1974.

Pentre'r Eglwys/Gartholwg Uchaf a'r eglwys

Tafarn y Crown – ar heol fawr Llanilltud Faerdref

Yn ôl map Ordnans 1875, dim ond pentref bychan gydag eglwys y plwyf, tafarn, a dyrnaid o fythynnod oedd Llanilltud Faerdref. Mae'r cyfrifiadau cyn cyhoeddi'r map yn dangos mai datblygu'n raddol wnaeth y pentref. Rhwng 1841 a 1861, ymddengys bod nifer yr aelwydydd wedi parhau'n gyson tra'r oedd y boblogaeth yn codi a gostwng. Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd 34 o bobl yn byw ar 9 aelwyd, gan gynnwys cigydd, saer coed, saer maen, ysgolfeistres, clochydd, a dau dafarnwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd 14 o lowyr yn byw yn y pentref.