Cawn gipolwg gwych o ddatblygiad y Maerdy fel tref lofaol ffyniannus yn nodiadau llyfryn Eos Davies, codwr canu Capel yr Annibynwyr Cymraeg Siloa ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae'n dweud fel y cafodd y dref ei henwi ar ôl ffermdy go sylweddol ar lan afon Fechan. Byddai ffermwyr a bugeiliaid y fro yn ymgynnull yn y ffermdy i drafod busnes a mynychu llys yr ardal yng nghwmni'r stiward neu'r maer - sy'n egluro tarddiad yr enw ‘Maerdy' felly. Yma hefyd y cynhaliwyd y cwrdd crefyddol cyntaf a gofnodwyd ym 1877, mewn gwasanaeth ar y cyd rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn y parlwr oedd â digon o le ar gyfer 60 o addolwyr, ffaith sy'n rhoi syniad inni o faint y ffermdy.
Gorsaf reilffordd y Maerdy c.1910
Yn 1874, fe brynnodd Mordecai Jones o Aberhonddu a Nantmelyn, y ffermdy a'r tir gyda'r bwriad o gloddio pwll glo ac adeiladu rheilffordd i gysylltu â rheilffordd Dyffryn Taf. Ym mis Rhagfyr 1876, roedden nhw wedi taro'r wythïen lo Abergorci yn siaft rhif 1 y pwll. Roedd can tunnell o lo yn cael ei gloddio o'r wythïen lo yma bob dydd. Roedd Eos Davies wedi disgrifio'r Maerdy fel 'Eldorado'. Yn dilyn hynny, cafodd y pyllau glo eu prydlesu i gwmni Locket's Merthyr, ac roedd allbwn y pwll wedi cynyddu o bron i 30,000 tunnell yn 1879 i dros 160,000 tunnell erbyn 1884. Yn 1877, dim ond ffermdy, cytiau gweithwyr y pwll glo ac 48 o dai oedd yn bodoli ym Maerdy.
Gyda chymaint o weithwyr a'u teuluoedd yn heidio i'r ardal, penderfynodd Bwrdd Ysgol Cwm Rhondda ym 1880 bod angen agor ysgol yn y Maerdy. Agorwyd ysgol gymysg y pentref y flwyddyn honno. Cymerodd côr o 200 o blant ran yn y seremoni agoriadol, a chawsant baned o de a theisen gan Mr William Thomas, rheolwr cyffredinol y lofa. Agorwyd tafarn goffi ac ystafell ddarllen ym 1881 i ddiwallu anghenion y gweithwyr. Ym 1905, adeiladwyd Sefydliad y Gweithwyr ar hen safle'r dafarn. Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol a chymdeithasol y Maerdy am ddegawdau lawer. Mae Cofnodion Pwyllgor y Sefydliad yn rhestru'r sefydliadau a ddefnyddiodd yr adeilad rhwng 1918 a 1922 ac yn rhoi blas inni o gyfraniad y neuadd i gymdeithas y Maerdy, a'r holl glybiau a chymdeithasau oedd yn bodoli ar y pryd. Cyflwynodd landlordiaid ystâd y Maerdy'r safle fel rhodd i weithwyr glofeydd y dref, a £9,000 oedd cost adeiladu a dodrefnu'r neuadd. Adeilad tri llawr ydoedd, gyda neuadd fach, ystafell biliards a swyddfeydd ar y llawr isaf. Ar y llawr cyntaf roedd ystafell gotiau, ystafell ddarllen yr un i fenywod a dynion, llyfrgell, ystafell luniaeth, a swyddfeydd; ac ar y llawr uchaf roedd y neuadd fawr â lle i fil o bobl. Llosgodd yr adeilad gwreiddiol i'r llawr ym 1922, gan ladd y trysorydd, Mr John Jones. Cafwyd hyd i'w gorff ym mwthyn y gofalwr drws nesaf i'r prif adeilad. Ail-agorwyd y Sefydliad ychydig dros ddwy flynedd wedyn ym 1925, ar ôl i'r glowyr lleol godi £20,000 i'w adfer.
Felly, datblygodd y pentref bychan gwledig gwreiddiol i fod yn gymuned lofaol ffyniannus o dros 880 o dai a thros 6,500 o bobl erbyn 1909. Roedd ganddo ei ysgol ei hun, capeli, a llu o fudiadau cymdeithasol a diwylliannol i ddiwallu anghenion trigolion y Maerdy ddiwydiannol.
Glofa'r Mardy
Roedd datblygiad economaidd Cwm Rhondda Fach ar ei hôl hi o gymharu â Chwm Rhondda Fawr. Tra'r oedd Cwm Rhondda Fawr yn prysur ddatblygu'n rym economaidd meysydd glo'r De, ardal wledig yn bennaf oedd Cwm Rhondda Fach o hyd. Y prif reswm am hyn oedd prinder cronfeydd glo bitwmen yn y rhan hon o'r cwm a'i daearyddiaeth anodd ac anghysbell. Yn y diwedd, y galw cynyddol am lo ager arweiniodd at drawsnewid y cwm yn ardal ddiwydiannol hynod boblog ymhen hanner canrif.
Ni ddechreuodd y mentrwyr glo ddangos diddordeb yn y Maerdy tan y 1870au, dros 60 mlynedd ar ôl i Walter Coffin agor ei bwll cyntaf ym mhentref Dinas. Mae hanes pwll y Mardy'n dechrau ar ôl i Mordecai Jones o Aberhonddu brynu hawliau mwynol Ystad y Mardy gan Crawshay Bailey am £122,000 ym 1873. Yna, aeth i gytundeb gydag J. R. Cobb i gael cyfalaf ychwanegol i gloddio pwll arbrofol ym 1875. Llwyddwyd i gyrraedd gwythïen Abergorki ym mis Rhagfyr 1876, ac anfonwyd y cyflenwad cyntaf o lo o'r Maerdy i Gaerdydd ym 1877. Agorwyd pwll rhif 2 Mardy ym 1876, ac yna pwll rhif 3 ym 1893, a phwll rhif 4 ym 1914. Cafodd y pyllau eu gosod ar brydles i Lofa Locket's Merthyr ym 1893.
Roedd Glofa'r Mardy yn enwog am ei chysylltiadau milwriaethus a chomiwynyddol, gyda hen hanes o gyflogi dynion radical fel atalbwyswyr – dynion fel Arthur Horner, comiwnydd adnabyddus a dreuliodd gyfnod dan glo am wrthod ymuno â'r brwydro yn y Rhyfel Mawr. Yr elfen filitaraidd hon, yn enwedig streic a'r ‘cloi allan' ym 1926, a sbardunodd y gwrthdaro gyda pherchnogion y pyllau a Ffederasiwn Glowyr De Cymru maes o law. Cafodd Cyfrinfa'r Maerdy ei diarddel gan y Ffederasiwn ym 1930. Dyma'r tro cyntaf i'r Maerdy gael ei ailfedyddio'n ‘Moscow Fach' gan y South Wales Daily News. Gyda llai o alw am lo ager a'r gwrthdaro cynyddol rhwng y gweithwyr a'r meistri glo, bu pyllau glo'r Mardy yn segur gydol 1927.
Pyllau rhif 1 a 2 Glofa'r Mardy c.1920
Ym 1932, daeth cwmni Bwllfa and Cwmaman Collieries Ltd. yn berchen ar Byllau'r Mardy, gan gau pwll rhif 1 a rhif 2. Roedd y cwmni hwn yn rhan o'r Welsh Associated Collieries, a chyfunodd gyda chwmni Powell Duffryn ym 1935 i greu Powell Duffryn Associated Collieries Limited. Caewyd y lofa gan y cwmni hwn cyn ei hailagor ym 1938. Cafodd y fasnach allforio glo ei hatal yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan effeithio'n ddrwg ar bwll Lofa Mardy fel llawer o lofeydd y De, ac fe'i gorfodwyd i gau ym 1940.
Ar ôl gwladoli'r lofa ym 1947, daeth yn rhan o Ranbarth De-orllewin, Ardal 4 Bwrdd Glo Prydain. Ym 1949, cyflwynodd y Bwrdd Glo brosiect mawr gwerth tua £7 miliwn i aildrefnu a datblygu Glofa'r Mardy. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu glofa fodern ar safle hen byllau rhif 3 a 4, er mwyn cloddio gwerth 100 miliwn o dunelli o lo yn ôl amcangyfrifon ar y pryd – digon o waith am gan mlynedd arall.
Trawsnewidwyd yr hen lofa segur yn llwyr gan y prosiect, gan greu pwll o'r radd flaenaf gyda swyddfeydd gweinyddol newydd, ffreutur, cwt weindio trydanol, baddonau pen y pwll, canolfan feddygol, a gwaith paratoi glo ar yr wyneb. Adeiladwyd ffyrdd newydd o dan y ddaear i gysylltu Glofa'r Mardy â Glofa Bwllfa yng Nghwm Cynon.
Gyda'r holl fuddsoddiad, roedd hi'n ymddangos fod gan Lofa'r Mardy ddyfodol sicr am gan mlynedd. Ond fe newidiodd yr hinsawdd economaidd. Pan gafodd cynnyrch Glofa'r Mardy ei godi yng Nglofa'r Tŵr, Cwm Cynon, ym 1986, gan gyfuno'r ddwy lofa i bob pwrpas, roedd llawer o'r farn mai dyma ddechrau'r diwedd i Lofa'r Mardy. Ac fel yr unig bwll glo oedd yn dal ar waith yng Nghwm Rhondda, byddai hyn hefyd yn golygu diwedd cyfnod mewn cwm lle bu glo'n teyrnasu am 150 o flynyddoedd.
Bum mlynedd cyn i Lofa'r Mardy gau am y tro olaf, roedd streic y glowyr 1984/1985 yn arwydd o dranc y diwydiant glo yn y Maerdy. Fe barodd yr anghydfod chwerw hwn am flwyddyn gron, a threchwyd Undeb Cenedlaethol y Glowyr oedd mor bwerus ar un adeg. Gwrthdaro rhwng dwy ideoleg oedd yn gyfrifol am yr anghydfod i raddau – rhwng polisïau adain chwith arweinydd y glowyr, Arthur Scargill, ac athroniaeth marchnad rydd y Blaid Geidwadol dan law Margaret Thatcher. Prif asgwrn y gynnen oedd bwriad Bwrdd Glo Prydain i droi'r diwydiant yn fwy proffidiol yn unol â pholisïau llywodraeth Thatcher. Byddai hynny'n golygu colli 65,000 o swyddi glofaol a chau cannoedd o byllau.
Ar 6 Mawrth 1984, dechreuodd un o'r streiciau mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol Prydain, streic a arweiniodd at drechu a chwalu un o undebau llafur mwyaf pwerus Prydain, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, flwyddyn yn ddiweddarach. Yn unol â'i thraddodiad militaraidd, roedd Glofa'r Mardy ar flaen y gad yn ystod y streic, yn trefnu siaradwyr mewn digwyddiadau codi arian ac anfon dynion i bicedu ledled y wlad (“flying pickets”). Dim ond dau ‘biced symbolaidd' a gafwyd yng Nglofa'r Mardy, gan nad oedd dynion y Maerdy'n meiddio croesi'r llinell biced. Roedd hwn yn gyfnod o galedi mawr i'r streicwyr a'u teuluoedd, a'r cymoedd yn ymdebygu mwy i ddirwasgiad y 1930au na'r 1980au. Aeth merched y Maerdy ati i sefydlu'r grwp cyntaf o blith nifer i ddangos cefnogaeth y menywod i'r glowyr, gan gynnig gwasanaeth hollbwysig i'r streicwyr a'u teuluoedd. Roeddynt yn brysur yn casglu a dosbarthu bwydydd, yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus, a hyd yn oed ymuno â'u gwŷr ar y llinellau piced. Ar ôl i'r streicwyr golli'r frwydr yn y diwedd, fe ymunodd llawer o fenywod â'r glowyr a orymdeithiodd yn ôl i'w gwaith ar 5 Mawrth 1985, gan gario baner yr undebau i gyfeiliant band y lofa.
I lawer, yr hoelen olaf yn arch Glofa'r Mardy oedd ei chysylltu o dan ddaear â Glofa'r Tŵr, Hirwaun, ym 1986.
Gweddillion Glofa'r Mardy, 1991
O hynny ymlaen, yng Nglofa'r Tŵr y codwyd y glo a dorrwyd yn y Mardy. Parhaodd pethau felly tan i'r Lofa gau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 1990, ddeng mis yn gynt na'r disgwyl i'r Bwrdd Glo. Cyfeiriodd cadeirydd cyfrinfa'r Mardy o Undeb y Glowyr at hyn fel diwedd cyfnod yn hanes cynhyrchu glo yng Nghwm Rhondda. Cyn cau, cafodd rhai o ffrindiau a pherthnasau'r glowyr eu hebrwng o dan y ddaear i weld yr amodau gwaith, ac i gael darn o lo'r Mardy o'r wythïen 5 troedfedd i gofio'r achlysur. Ar ôl y shifft olaf, cynhaliwyd gwasanaeth yn y ffreutur gyda charolau, darlleniadau, a cherddoriaeth gan fand arian y lofa a Tylorstown, cyn gorymdeithio i'r Neuadd Les i ‘gadw gwylnos'. Yn y diwedd, dim ond 17 o blith 300 o lowyr y Mardy benderfynodd fynd i weithio mewn glofeydd eraill.
Tanchwa Glofa'r Mardy – Dydd Mercher 23 Rhagfyr 1885
Tua 2.40pm y diwrnod hwn, clywyd ergyd uchel yn diasbedain uwchben y ddaear yn y Lofa, a cholofn o fwg a llwch yn codi o'r siafft. Dyma gadarnhau ofnau pawb oedd yn gyfarwydd â'r diwydiant glo ar y pryd - sef bod damwain erchyll arall wedi digwydd o dan ddaear, a bod trasiedi wedi taro cymuned glos y Maerdy yn sgil tanchwa yn rhan 'East Rhondda' o Lofa'r Mardy. Lladdwyd 81 o ddynion a bechgyn i gyd - 63 ohonynt wedi mygu i farwolaeth, ac 18 wedi marw o'u llosgiadau a'u hanafiadau.
Cwmni Lockett's Merthyr Steam Coal oedd biau'r lofa ar y pryd, a dim ond ers wyth mlynedd roedd hi'n agored. Y cyfarwyddwr lleol oedd Mr William Thomas, a rheolwr y pwll ers chwe blynedd oedd Mr Griffith Thomas. Glo ager a gloddiwyd yno, glo sych a llychlyd dros ben sy'n rhyddhau llawer iawn o nwyon. Ar y pryd, roedd y lofa hon yn cael ei hystyried fel un â'r system awyru gorau yn y De. Roedd gwyntyllau Waddle yn pwmpio aer o'r wyneb i'r pwll, ac roedd 'chwythwyr' yn y pwll yn awyru unrhyw rannau lle'r oedd nwyon yn dueddol o grynhoi. Yn wir, cyn 23 Rhagfyr 1885, ni fu damwain angheuol yn y lofa ers iddi gael ei hagor. Roedd y pwll wedi'i rannu'n ddwy ardal o dan ddaear, sef y Dwyrain a'r Gorllewin, neu'r ‘Rhondda' ac ‘Aberdâr' ar lafar gwlad. Roedd 961 o ddynion yn gweithio i'r Lofa ar y pryd – 200 ar shifft nos a 761 ar shifft dydd. Felly, roedd 750 o ddynion o dan ddaear am 2.40pm ar 23 Rhagfyr. Er hynny, dim ond ardal Ddwyreiniol/Rhondda y lofa a gafodd ei tharo, a llwyddodd gweithwyr yr ardal Orllewinol/Aberdâr i ddianc yn ddianaf.
Yn syth wedi'r danchwa, aeth tîm achub i'r dyfnderoedd dan arweiniad Mr William Thomas, gyda chymorth glowyr eraill o byllau cyfagos a'r rhai a lwyddodd i ddianc yn fyw o'r Mardy. Cafwyd hyd i lawer o gyrff bron yn syth, ond gan ei bod hi'n anodd cyrraedd y gwaelodion, ni ddaeth llawer o gyrff i'r wyneb tan y dydd Sul ar ôl y danchwa. Trwy ryfedd wyrth, ar y prynhawn dydd Mercher, achubwyd 30 o ddynion yn holliach o'r pwll. Roedden nhw wedi bod yn gweithio 120 o lathenni islaw safle'r ffrwydrad ond chawson nhw mo'u hanafu. Bu golygfeydd dirdynnol dros ben pan gladdwyd y meirw ym mynwentydd Glynrhedynog a Llanwynno ar y Sadwrn, y Sul, a'r Llun wedi'r drychineb
Cynhaliwyd cwest crwner i'r drychineb yn y Maerdy Hotel rhwng 12 ac 18 Ionawr y flwyddyn ganlynol, a chyflwynwyd adroddiad 'Maerdy Colliery Explosion' gan y Bargyfreithiwr A.G.C. Liddell ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r ddau dŷ yn San Steffan. Mae'n crynhoi dyfarniad y cwest fel a ganlyn:
'We find that an explosion of gas occurred in the Rhondda District of the Maerdy Colliery on the 23rd December 1885, whereby Daniel Williams lost his life, but how or where the gas ignited, sufficient evidence has not been produced to enable us to determine. We are, however, convinced that it did not occur from shot firing in the hard heading'.
Roedd adroddiad Mr Liddell yn hynod feirniadol o weithdrefnau diogelwch y Lofa ar y pryd, ac nad oeddynt yn cydymffurfio â gofynion Deddf Rheoliadau Pyllau Glo 1872. Mae'n dweud, 'as regarded matters left to the discretion of the manager, the constant care and watchfulness necessary for the safety of a colliery working so fiery and dusty a coal, had been relaxed at some points'. Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad oedd baromedr wedi'i osod mewn lle amlwg wrth fynedfa'r pwll, ac na chafwyd darlleniad o'r baromedr ar ddiwrnod y drychineb. Roedd hefyd yn feirniadol o leoliad y gorsafoedd lamp, a bod fflamau agored yn y siafft aer rhyngddynt yn ogystal â chaniatâd i ddefnyddio lampau heb eu cloi. Roedd y rhain yn bell o'r mannau oedd wedi'i awyru'n dda (sef y siafft aer), ac roeddynt yn agos iawn i'r lefelydd, felly roedd goleuadau agored yn cario i lawr y pwll – sefyllfa beryglus yng nghanol yr awyrgylch sych a llychlyd. Roedd hefyd yn lladd ar y trefniadau i gael gwared ar yr holl lwch oedd yno a dyfrio'r lle, oherwydd y gallai gormod o lwch achosi ffrwydrad gwaeth o lawer. Mae'n barnu bod y gwaith pwysig hwn yn anhrefnus, ac nad oedd swyddog neu ddyn penodol yn gyfrifol am y gwaith hwn ar amser penodol. Y ffordd arferol o wneud hyn oedd taflu dŵr o fwced neu chwistrellu dŵr o faril. Mae hefyd yn llym ei feirniadaeth o arferion tanio'r Lofa, a oedd yn beryg bywyd o dan ddaear.
Roedd Deddf Rheoliadau Pyllau Glo 1872 wedi pennu rheoliadau ar gyfer tanio pelen mewn pwll glo os oedd fflam las i'w weld yn y lamp ddiogelwch. Yn y sefyllfa hon, ni ddylid tanio pelen mewn rhan benodol o'r pwll hyd nes y byddai pawb wedi gadael y lofa. Roedd rhaid dilyn y rheol hon lle bo'n ymarferol. Daw Mr Liddell i'r casgliad fod y lofa wedi diystyru'r rheolau hyn yn fwriadol oherwydd amser ac angyfleustod, a bod fflam las i'w gweld yn gyson yn lampau Glofa'r Mardy. Felly, pan aethpwyd ati i danio pelen ddyddiol yn ardal Gogledd-orllewinol Glofa'r Mardy, lle'r oedd 122 o ddynion yn gweithio, dim ond pump o weithwyr yr union hedin dan sylw oedd wedi cilio 50 llath i ffwrdd o'r safle tanio.
Wrth ddisgrifio'r danchwa ei hun, mae Mr Liddell yn nodi bod y ffrwydrad wedi ymestyn am ryw filltir. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, fe ddaw i'r casgliad mai tarddiad y ffrwydrad oedd ardal o'r enw'r ‘North west dip' ger y prif hedin Gorllewinol. Yna, mae'n trafod dwy ddamcaniaeth ynghylch union achos y ffrwydrad. Mae'n canolbwyntio ar ardal lle'r oedd seiri maen wrthi'n adeiladu mynedfa fwaog mewn ceudod 30 troedfedd o uchder a achoswyd gan gwymp - a'r ffaith fod y ceudod yn lle peryglus lle gallai nwyon grynhoi. Ar ddiwrnod y ffrwydrad, roedd pump o ddynion (tri saer maen a dau gynorthwyydd) yn sefyll ar blatfform uwchben y llwybr. Roedd y cynorthwywyr yn cael defnyddio golau agored/noeth o'r enw 'Comet'. Hefyd, taniwyd twll drwy hedin yn yr un ardal er mwyn cyrraedd yr wythïen 4 troedfedd. Doedd fawr ddim llwch yn yr hedin hwn yn ôl Mr Liddell, a dim olion nwy o gwbl. Oherwydd hyn, diystyrodd Mr Liddell y posibilrwydd cyntaf fel achos y drychineb. Dyma ei gasgliadau:
1) 'That the explosion was caused through the ignition of coal dust in the N.W. dip by the 'comet' lamp used at the arches. That such coal dust was raised by the concussion of a blown out shot in the stone heading'.
2) 'That the explosion was caused by the accumulation of fire damp in the cavity above the arches, and ignited by one of the masons raising the 'comet' lamp into the gas'.
O ran y pwynt cyntaf, mae'n dadlau na roddwyd caniatâd i'r shifft dydd danio pelen ar 23 Rhagfyr. Yn ôl llygad-dystion, ni thaniwyd un belen er eu bod wedi gwneud twll tanio yn barod ar ei chyfer. Ar ben hynny, daethpwyd o hyd i gyrff y pedwar oedd yn gweithio ar yr hedin carreg yn yr hedin ei hun - pe bai pelen wedi'i thanio, byddai'r dynion wedi symud i le fwy diogel.
Yn ôl Mr Liddell, mae'n fwy tebygol mai'r ail ddamcaniaeth achosodd y drychineb er bod digon o amheuaeth i atal rheithgor y crwner rhag derbyn hynny fel ffaith. Mae wedi seilio hyn ar nifer o ffactorau. Mae'n honni fod natur y ceudod a'r ffaith fod y lle gwag ar frig y ceudod uwchben y llwybr anadlu ar gyfer awyru, yn lle delfrydol i nwy grynhoi. Roedd dyn tân y lofa wedi gweld fflam las, sef arwydd o nwy, yn ei lamp ddiogelwch rhyw dri mis cyn y danchwa, ond nad oedd wedi ysgrifennu hynny yn ei lyfr cofnodion dyddiol. Ar ôl y ddamwain, ar 31 Rhagfyr, roedd archwiliwr y gweithwyr wedi canfod nwy yn llenwi'r ceudod hyd at 6 modfedd uwchben y llwybr awyr - hyn er gwaetha'r ffaith y cymerwyd gofal ychwanegol i gael gwared ar y nwy o'r ceudod ar ôl y danchwa. I Mr Liddell, roedd hyn yn awgrymu na wnaethpwyd digon o ymdrech i atal nwy rhag ymgasglu yn y ceudod. Roedd cyfeiriad y ffrwydrad, ac nad oedd hi'n debygol fod nwy wedi crynhoi yn rhannau eraill o'r lefelydd, hefyd yn cadarnhau ei farn mai dyma lle dechreuodd y ffrwydrad. Er na chafwyd tystiolaeth derfynol ar union ddigwyddiadau 23 Rhagfyr, roedd Mr Liddell yn bendant mai'r penderfyniad peryglus i ganiatáu i ddefnyddio'r ‘Comet' fel y gwnaethpwyd, oedd yn gyfrifol. Beth bynnag oedd union achos y ffrwydrad cychwynnol, daeth Mr Liddell i'r casgliad na allai'r nwy dan sylw fod wedi achosi ffrwydrad mor ffyrnig. Felly, mae'n credu mai'r holl lwch glo yn y lefelydd oedd wedi lledu'r ffrwydrad. Wrth gyflwyno ei argymhellion i'r Ysgrifennydd, mae'n dweud y dylid mabwysiadu system reolaidd o ddyfrio a chael gwared ar lwch y pyllau glo, dan arweiniad swyddog cymwys. Hefyd, dywedodd na ddylid tanio pelen mewn mannau llychlyd pwll glo tan hyd nes bod pob man a allai gael eu heffeithio gan y fflamau, fod wedi'u dyfrio'n llwyr i ddechrau.
Ym mis Ionawr wedi'r ddamwain, cyhoeddwyd bod y pwll yn ddiogel unwaith eto. Aeth y glowyr a lwyddodd i oroesi'r danchwa yn ôl i weithio yn yr union fan lle bu farw cymaint o'u cydweithwyr.
Ceir rhestr o'r 81 o lowyr a laddwyd, yma.
Argyfwng Argae Lluest Wen
Rhwng mis Rhagfyr 1969 a mis Ionawr 1970, bu bron i'r Maerdy gael ei daro gan drychineb enfawr a fyddai wedi creu dinistr enbyd yng nghymunedau Cwm Rhondda Fach i gyd. Canolbwynt y digwyddiad dramatig hwn oedd argae a chronfa ddŵr Lluest Wen (adeiladwyd ym 1898) a oedd yn cwmpasu 20 erw ac yn dal hyd at 242 miliwn o alwyni o ddŵr. Roedd yr argae uwchben tre'r Maerdy ym mhen uchaf Cwm Rhondda Fach.
Yr awgrym cyntaf fod rhywbeth o'i le oedd pan roedd dyn lleol o'r enw Lynn Jones yn marchogaeth ar gefn ei geffyl Sally ger yr argae ar 23 Rhagfyr. Cwympodd y ceffyl i dwll pum troedfedd o ddyfnder, chwe throedfedd o hyd, a dwy droedfedd o led, a ymddangosodd mwya'r sydyn. Rhedodd Mr Jones am ddwy filltir i Lofa'r Mardy i gael cymorth, a bu dynion tân a gweithwyr coedwigaeth wrthi am ddwy awr yn ceisio rhyddhau'r ceffyl. Ffoniodd y swyddogion tân y bwrdd dŵr i archwilio'r argae.
Ar ôl hynny, ysgrifennodd Mr D.G. Gamblin, peiriannydd ymgynghorol Bwrdd Dŵr Taf Fechan, adroddiad ym mis Ionawr gan nodi y gallai'r argae fod mewn cyflwr difrifol. Agorwyd canolfan argyfwng ar unwaith yn Teify House, y Maerdy. Roedd swyddogion yn amcangyfrif y byddai ton lanw ugain troedfedd o uchder yn sgubo i lawr y cwm pe bai'r argae'n torri. Trefnwyd cynlluniau brys i wagio'r ardal, a chafodd 350 o drigolion hen a methedig eu symud o safleoedd tir isel y Maerdy i ddiogelwch. Caewyd Glofa'r Mardy a saith o ysgolion y cylch hefyd, a symudwyd y plant i ysgolion mewn safleoedd fwy diogel. Gwnaeth George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, ei orau glas i sicrhau'r trigolion y byddent yn cael rhwng 2 a 4 awr o rybudd a digonedd o amser i adael pe bai'r argae yn torri. Cafodd rhagor o heddlu eu hanfon i'r ardal ac roedd ambiwlansys wrth gefn yn barod i symud pawb o'r ardal pe bai angen hynny. Gyda llawer yn ofni'r gwaethaf, gadawodd pobl eu cartrefi a symud i'r canolfannau dros dro er bod yr awdurdodau'n ceisio eu darbwyllo i bwyllo am y tro. Roedd yr heddlu a'r gwasanaethau brys yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa, a'r radio ymlaen drwy'r amser rhag ofn y doi'r neges frys i wagio'r ardal.
Bu nifer o broblemau wrth geisio dod o hyd i'r nam yn yr argae, a'i drwsio wedyn. Wrth i'r peirianwyr geisio cyrraedd gwaelod tŵr y llifddorau, daethant ar draws wal nad oeddynt yn ymwybodol ohoni yn y twnnel cyswllt. Felly, roedd y wal yn eu rhwystro rhag cyrraedd gwaelod y tŵr lle'r oedd y nam posib.
Y cynllun nesaf oedd draenio dŵr o'r gronfa er mwyn lleihau'r pwysau ar yr argae. Ond cododd problem arall wedyn wrth i gerbydau trwm y contractwyr, a oedd yn cludo pibelli a phympiau i'r gronfa ddŵr, droi'r ffordd fynediad yn fôr o fwd nes ei bod hi'n amhosib mynd arni. Felly, defnyddiwyd hofrennydd y Llu Awyr i gludo'r cyflenwadau i'r safle, ac aeth milwyr ati i osod ffordd amgen ar hyd llwybrau'r Comisiwn Coedwigaeth ar Fynydd y Rhigos. Diolch i ymdrechion ar y cyd rhwng y Llu Awyr, y gwasanaeth tân, y Bwrdd Dŵr, ac eraill, llwyddwyd i bwmpio'r dŵr o'r argae a lleihau perygl i'r argae dorri a gorlifo'r cwm islaw. O'r diwedd, clywyd y caniad diogelwch ar 25 Ionawr 1970, a gollyngodd trigolion y Maerdy a gweddill Cwm Rhondda Fach ochenaid o ryddhad ar ôl llwyddo i osgoi trychineb posib.