Mae map degwm 1841 a'r atodlenni'n dangos Meisgyn fel pentref bach tua dwy filltir i'r de o Lantrisant ar lan yr Afon Elái. Roedd yn cynnwys ffermdy New Mill, bwthyn ac ysgubor, a bwthyn a gefail, bob un yn perthyn i Fferm New Mill.
O gymharu'r map â map Arolwg Ordnans 1875, gwelwn fod map y degwm hefyd yn dangos melin a bwthyn ar safle presennol y Miskin Arms. Mae cyfrifiad 1841 yn nodi poblogaeth o 31 mewn pum cartref, gan gynnwys ffermwr, melinydd, siopwr, gwniadwraig, crydd, a labrwr. Nodir mai ‘New Mill' oedd enw'r pentref bach.
Erbyn cyfrifiad 1861 roedd New Mill wedi tyfu'n bentref. Roedd ei boblogaeth wedi cynyddu i 83 mewn 17 cartref. Yn ogystal â'r ffermwr, y melinydd, y crydd, a'r labrwr, roedd yna 17 o fwyngloddwyr haearn yn byw yn y pentref hefyd. Mae'n amlwg, felly, fod agor gweithfeydd mwyn haearn Bute a Mwyndy yn ystod y 1850au, wedi cael effaith drawiadol a pharhaol ar ddatblygiad New Mill. Gweithiwyd y gweithfeydd mwyn haearn fel chwareli brig yn ystod datblygiad cynnar y diwydiant.