Camlas Aberdâr ger Aberpennar
Fel cymaint o bentrefi eraill y De, roedd datblygiad Aberpennar yn gysylltiedig yn uniongyrchol â datblygiad diwydiannol cymoedd y De. Yn sgil hyn, gweddnewidiwyd Aberpennar o fod yn ardal wledig i un hynod o ddiwydiannol. Fodd bynnag, yn wahanol i Ferthyr neu Aberdâr, ni chyrhaeddodd y chwyldro diwydiannol Aberpennar tan 1850. Yn wahanol i Ferthyr Tudful ac Aberdâr, roedd Aberpennar heb ei gyffwrdd gan y chwyldro diwydiannol hyd 1850. Yn wir, roedd y diwydiant dur yn gwbl newydd yno a chloddio am lo ar raddfa fechan.
Cyn hyn, yr unig beth i darfu ar lonyddwch gwledig yr ardal fu'r gwaith o adeiladu camlas rhwng Abercynon ac Aberdâr a gwblhawyd ym 1812. Camlas Aberdâr oedd enw'r gamlas chwe milltir a thri chwarter hon, ac roedd ar waith tan ddechrau'r ugeinfed ganrif pan gaeodd oherwydd cystadleuaeth gref gan y rheilffyrdd. Agorwyd llinellau yn yr ardal gan y Taff Vale Railway ym 1846 a'r Great Western Railway ym 1864. Llenwyd y gamlas er mwyn adeiladu ffordd, sef y New Cardiff Road, a agorodd yn swyddogol ym 1933.
O ganlyniad i agor y glofeydd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynyddodd poblogaeth Aberpennar o 1,614 ym 1841 i 11,463 ym 1871. Yn sgil y cynnydd hwn, roedd angen llawer o dai newydd ac amwynderau cyhoeddus. Adeiladwyd llawer o dai, a sefydlwyd adeiladau masnachol, addysgol a chrefyddol. Cofnodwyd rhai o'r strydoedd cyntaf ar gyfrifiad 1851, gan gynnwys Duffryn Street a Navigation Street. Erbyn 1859 roedd yna 12 tafarn, ac ymhlith y rhai cyntaf oedd y Bruce Arms, y Junction Inn a'r New Inn. Agorodd llawer o siopau, ac roedd yn bosibl prynu nwyddau a chynnyrch cyffredinol yn ddidrafferth. Erbyn 1920 roedd mwy na 200 o fusnesau yn y pentref yn ôl Cyfeirlyfr Masnach Kelly.
Yn y llun hwn i’r dde, mae D. Coleman yn hysbysebu ei siop yn 54 Commercial Street a oedd yn gwerthu popeth o esgidiau i winoedd, arfer cymharol gyffredin yn y cyfnod hwnnw.
Neuadd Gyhoeddus Aberpennar
Ymhlith yr adeiladau pwysig eraill a godwyd yn ystod y cyfnod cynnar hwn o ddatblygu oedd Neuadd y Dref (1904), dau ysbyty (1892 ac 1894), gorsaf heddlu (1865), a Sefydliad y Gweithwyr, Llyfrgell a Neuadd Gyhoeddus Nixon (1899). Adeiladwyd y Pafiliwn ym 1901, ac yno y cynhaliwyd Gŵyl y Tri Chwm a ddechreuodd ym 1930. Duffryn House oedd cartref Arglwydd Aberdâr.
Tŷ Dyffryn oedd cartref yr Arglwydd Aberdâr. Roedd unwaith yn gartref teuluol i Henry Austin Bruce, Arglwydd cyntaf Aberdâr, wedi i genedlaethau cynharach yn y teulu brynu Ystâd Dyffryn ym 1747. Ym 1926, prynodd Awdurdod Addysg Morgannwg y tŷ a’i droi’n Ysgol Ramadeg Sirol, rhan o Ysgol Gyfun Aberpennar (Uwch) yn ddiweddarach. Hyd at 1983, roedd y tŷ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal gwersi hyd nes iddo gael ei bennu’n anniogel a’i ddymchwel.
Duffryn
Eglwys Santes Margaret
Fe aeth llawer o enwadau crefyddol ati i godi addoldai yn Aberpennar, ac ymhlith y cyntaf oedd y Bedyddwyr a adeiladodd Gapel Rhos ym 1855 a Chapel Nasareth ym 1866. Cysegrwyd eglwys Santes Margaret fel eglwys ganolog y plwyf newydd ar 14 Awst 1862, ac adeiladwyd yr Eglwys Gatholig ym 1899.
NOS GALAN
Dechreuodd rasys Aberpennar ym 1958, a rhoddwyd yr enw Rasys Nos Galan arnynt gan fod y cystadleuwyr yn rhedeg ar drothwy'r flwyddyn newydd. Yn y flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd ras 100 llath ar hyd Oxford Street ynghyd â ras 4 milltir. Enillwyd y ras 100 llath gan Peter Radford a'r ras 4 milltir gan Stan Eldon. Roedd natur unigryw'r rasys a chroeso'r bobl leol wedi denu'r ddau redwr Olympaidd, a heidiodd y cyfryngau i'w gweld yn rhedeg ar hyd strydoedd tref lofaol am hanner nos ar Nos Galan.
Ar ei anterth yn y 1960au, roedd y digwyddiad yn denu dros fil o redwyr, gan gael ei ffilmio gan BBC Grandstand. Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog, y Rhedwr Dirgel, yn gosod torch ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno. Wedyn mae'n rhedeg i Aberpennar yn cludo ffagl, gan gynnau Coelcerth Nos Galan wrth gyrraedd y dref er mwyn dechrau'r prif rasys. Tom Richards, enillydd medal arian yn y gemau Olympaidd, oedd y rhedwr dirgel cyntaf ym 1958, ac ers hynny mae llu o enwogion y byd chwaraeon wedi cael y fraint, gan gynnwys Ann Packer (y fenyw gyntaf i gario'r ffagl ym 1965), David Hemery, David Bedford, Kirsty Wade, a Jamie Baulch.
Peter Gabbett yn ennill y ras 100 llath
RHEDWYR DIRGEL Y GORFFENNOL - RHESTR O REDWYR DIRGEL RASYS NOS GALAN RHWNG 1958 A 2023
1958 | Tom Richards | 1996 | Robbie Regan |
1959 | Ken Norris | 1997 | Iwan Thomas |
1960 | Derek Ibbotson | 1998 | Jamie Baulch a Ron Jones |
1961 | John Merriman | 1999 | Garin Jenkins a Dai Young |
1962 | Martin Hyman | 2000 | Christian Malcolm |
1963 | Bruce Tulloh | 2001 | Darren Campbell |
1964 | Stan Eldon | 2002 | Matt Elias |
1965 | Ann Packer(Brightwell) | 2003 | Stephen Jones |
1966 | Mary Rand | 2004 | Nicole Cooke |
1967 | Ron Jones | 2005 | Gethin Jenkins, Martyn Williams a Rhys Thomas |
1968 | Lyn Davies | 2006 | Rhys Williams |
1969 | Lillian Board | 2007 | Kevin Morgan |
1970 | John Whetton | 2008 | Linford Christie OBE |
1971 | David Bedford | 2009 | James Hook a Jamie Roberts |
1972 | David Hemery | 2010 | John Hartson a Mark Taylor |
1973 | Berwyn Price | 2011 | Shane Williams a Ian Evans |
1984 | Steve Jones, David Bedford a Lisa Hopkins | 2012 | Dai Greene a Samantha Bowen |
1985 | Unknown | 2013 | Alun Wyn Jones |
1986 | Kirsty Wade | 2014 | Adam Jones |
1987 | Tony Simmons | 2015 | Colin Jackson CBE |
1988 | Tim Hutchings | 2016 | Chris Coleman OBE |
1989 | Bernard Plain | 2017 | Nathan Cleverly a Colin Charvis |
1990 | Phillip Snoddy | 2018 | David Bedford OBE, Sam Warburton OBE a Rhys Jones |
1991 | Dennis Fowles | 2019 | Nigel Owens MBE |
1992 | Guto Eames a Tremayne Rutherford | 2020 | CHAFODD Y RAS DDIM EI GYNNAL O GANLYNIAD I BANDEMIG COVID-19 |
1993 | Simon Mugglestone | 2021 | Y Fonesig Tanni Grey-Thompson |
1994 | Steve Robinson | 2022 | George North |
1995 | Neil Jenkins | 2023 | Gareth Thomas a Laura McAllister |
Er gwaethaf poblogrwydd y rasys, daethant i ben ym 1973 yn dilyn pryderon gan yr heddlu eu bod yn oedi'r drafnidiaeth yn ormodol.
Cyn Redwyr Dirgel wrth fedd Guto Nyth Brân yn Eglwys Llanwynno
O'r chwith i'r dde: Berwyn Price (1973), Kirsty Wade (1986), Derek Ibbotson (1960), Ron Jones (1967), John Merriman (1961), Stan Eldon (1964)
Ailddechreuodd y rasys ym 1984, a'r tro hwn cyfyngwyd nifer y rhedwyr i 14 a chynhaliwyd un ras milltir o hyd. Am y tro cyntaf y flwyddyn honno, cludwyd y ffagl Nos Galan gan dri rhedwr dirgel, yn cynrychioli presennol, gorffennol, a dyfodol athletau. Bu newidiadau pellach i'r ras dros y blynyddoedd, gyda rasys o hyd amrywiol yn cael eu rhedeg. Fodd bynnag, mae'r ysbryd cymunedol a'r croeso lleol a fu'n nodwedd o'r ras o'r cychwyn cyntaf yn parhau hyd heddiw.
Dyma raglen y drydedd Ras Nos Galan ym 1960 pan oedd y digwyddiad ar ei anterth a strydoedd Aberpennar dan eu sang â phobl tan oriau mân Ddydd Calan.
Cerflun o Griffith Morgan, neu 'Guto Nyth Brân' fel mae nifer yn ei adnabod, yn Stryd Rhydychen, Aberpennar
Enwyd Griffith Morgan, neu Guto Nyth Brân, ar ôl Fferm Nyth Brân lle'r oedd yn byw, ger y Porth yng Nghwm Rhondda. Roedd yn rhedwr rhagorol, ac mae straeon di-rif yn sôn am ei allu. Gallai redeg i Bontypridd ac yn ôl, pellter o tua saith milltir, cyn i'r tegell ferwi, a gallai redeg ar ôl sgwarnogod hefyd. Roedd Guto yn enwog am ennill llawer o rasys, ac yn ôl pob sôn, daeth ei ffrind gorau, Siân y Siop, yn fenyw gyfoethog ar ôl betio ar gampau rhedeg Guto. Pan oedd yn 37 oed, rasiodd Guto am y tro olaf yn erbyn Sais o'r enw Prince mewn ras 12 milltir o Gasnewydd i Eglwys Bedwas. Enillodd Guto yn hawdd, a phan groesodd y llinell â'i wynt yn ei ddwrn brysiodd Siân y Siop ato i'w longyfarch, gan ei daro'n go galed ar ei gefn wrth wneud. Ond roedd Guto wedi blino cymaint ar ôl rhedeg y ras nes i'r ergyd effeithio ar ei galon, a syrthiodd i'r ddaear yn farw. Cludwyd ei gorff gyda chryn alar i Eglwys Sant Gwynno, ac mae ei fedd yno hyd heddiw.
MOUNTAIN ASH COAL INDUSTRY
Yn wahanol i ardaloedd eraill ymhellach i'r gogledd, ni chynhyrchodd Aberpennar lo ar raddfa eang tan 1850. Er bod ychydig o byllau wedi agor yn yr ardal cyn y flwyddyn honno, roedd y rhain wedi methu a heb ddylanwadu fawr ddim ar yr ardaloedd cyfagos. Y glofeydd gyda siafftau dwfn, yn cloddio'r wythïen 4 troedfedd, a ddaeth yn ganolbwynt y pentref maes o law.
GLOFA DEEP DUFFRYN
Dyma'r lofa bwysig gyntaf i'w sefydlu ym mhen isaf Cwm Cynon, ac fe'i hagorwyd gan David Williams ym 1850. Roedd y gwaith o agor y pwll yn beryglus a drud oherwydd natur feddal a thywodlyd y pridd, a chymerodd bum mlynedd i gyrraedd yr wythïen bedair troedfedd ar ddyfnder o 849 troedfedd. Gwerthwyd y lofa ym 1856 i John Nixon, ac aeth ati i osod awyrydd ac injans weindio newydd, gan wella'r amodau gwaith yn y lofa a chynhyrchu mwy o lo. Nixon’s Navigation Company oedd perchnogion y lofa tan 1930 pan unodd gyda'r Welsh Associated Collieries Limited. Prynwyd y lofa gan Powell Duffryn Associated Collieries ym 1935, a'r cwmni hwn oedd yn berchen arni nes i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947. Cafodd Glofa Deep Duffryn ei chau ym 1979 gan Fwrdd Glo Prydain am nad oedd yn gwneud elw.
Glofa Lower Duffryn
PWLL GLO DYFFRYN ISAF (SYDD HEFYD YN CAEL EI ALW'N BWLL CWMPENNAR)
Dechreuodd Thomas Powell and Sons weithio'r lofa hon ym 1850, a chynhyrchwyd glo am y tro cyntaf ym 1854. Gwerthwyd y lofa ym 1864 i'r Powell Duffryn Steam Coal Company, a oedd yn berchen ar y lofa nes iddi gau ym 1927.
GLOFA NAVIGATION NIXON
Agorwyd y lofa hon gan John Nixon ym 1855, ond roedd rhaid aros tan 1860 cyn iddi ddechrau cynhyrchu glo. Bu bron i'r holl fenter wneud John Nixon yn fethdalwr. Yn ôl pob sôn, hon oedd y lofa ddyfnaf yng Nghymru pan gafodd ei hagor gyntaf, gan gyrraedd dyfnder o 1350 troedfedd. Erbyn 1930, roedd y lofa yn nwylo Welsh Associated Collieries a oedd yn berchen arni tan 1935. Powell Duffryn Associated Collieries oedd perchnogion y lofa pan gafodd ei chau ym 1940.
Glofa Navigation Nixon
Glofa Cwmcynon
CWMCYNON COLLIERY
Yn dilyn ei lwyddiant gyda Glofa Navigation, fe aeth John Nixon ati i agor glofeydd eraill yn ardal Aberpennar. Un o'r rhain oedd Glofa Cwmcynon a agorwyd ym 1889 gan Nixon Navigation Co. Ltd. Roedd y lofa hon ym mhen deheuol y dref, ac erbyn 1911 roedd yn cyflogi 1,000 o ddynion. Aed ati maes o law i gysylltu'r lofa hon o dan y ddaear â Glofa Navigation a Glofa Deep Duffryn. Bu'r lofa'n eiddo i sawl cwmni cyn i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947, sef Llewellyn-Nixon Collieries Co. Ltd (1929), Welsh Associated Collieries Ltd. (1930), a Powell Duffryn Associated Collieries (1935). Caewyd Glofa Cwmcynon gan Fwrdd Glo Prydain ym 1949.
GŴYL Y TRI CHWM
Dr Malcolm Sargent yng Ngŵyl y Tri Chwm, 1932
Syniad Syr Walford Davies oedd dod â chorau Cymoedd Merthyr, Cynon, a Rhondda at ei gilydd i greu gŵyl o gerddoriaeth gorawl a cherddorfaol. Roedd am wneud rhywbeth dros bobl ddi-waith y cymoedd, gyda'r gobaith o greu gŵyl i'r bobl. Er mwyn ceisio cyflawni'r nod hwn, cynhaliwyd yr ŵyl mewn canolfan fawr, roedd y pris mynediad yn hynod o resymol, a threfnwyd bod gwasanaeth trên hwyr a rhad ar gael. Parodd yr ŵyl gyntaf am wythnos gyfan, ac fe'i cynhaliwyd ym Mhafiliwn Aberpennar yn ystod mis Mai 1930. Parodd cysylltiad yr ŵyl â Phafiliwn Aberpennar gydol ei hoes, er i'r patrwm newid pan newidiodd yn ŵyl dridiau ym 1932. Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu rhai o gantorion ac arweinyddion enwocaf y byd cerddorol. Ymddangosodd tri arweinydd arbennig yn yr ŵyl gyntaf, sef Syr Henry J. Wood, Dr. Malcolm Sargent a Dr. W. Gillies Whittaker. Dros y blynyddoedd nesaf byddai'r ŵyl yn dod yn gysylltiedig â'r arweinydd Dr. Malcolm Sargent, a fu'n arweinydd gwadd ar ddim llai na saith achlysur. Salwch oedd yn gyfrifol am ei absenoldeb yn ystod y blynyddoedd eraill.
Swyddogion a Phwyllgor Gwaith Gŵyl y Tri Chwm, 1932
Cynhaliwyd yr Ŵyl yn llwyddiannus ym Mhafiliwn Aberpennar tan ddechrau'r rhyfel ym 1939. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, cynhaliwyd sawl gŵyl ranbarthol mewn canolfannau amrywiol yn y De, gan helpu i gadw'r traddodiad yn fyw a rhannu ysbryd yr ŵyl â chanolfannau eraill. Dychwelodd yr ŵyl i Bafiliwn Aberpennar ym 1947 yn dilyn bwlch o saith mlynedd, ond dyna'r tro olaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn Aberpennar.