Yn ôl yr hanes, canlyniad cynigion William Edwards i gael pont ar draws Afon Taf oedd ei adael â dyledion sylweddol. Sylw Malkin ar y pryd oedd nad oedd arno unrhyw ddyled o ran gwaith adeiladu ac eithrio i'w ‘ddiwydrwydd a'i gyflog ef ei hun'. Ond, yn ôl ei gyfoeswr Thomas Morgan, erbyn y daeth hi'n godi'r pedwaredd pont ‘…roedd gyda'r saer maen ddyledion sylweddol ac roedd e wedi digalonni. Ond roedd gyda'r Arglwyddi Talbot a Windsor, sy'n berchnogion ar ystadau sylweddol yn y gymdogaeth, gydymdeimlad â'i achos, ac, a hwythau'n barod i roi anogaeth i'r fath athrylith blaengar, aethon nhw ati i drefnu cronfa dysteb ymhlith bonedd y parthau hynny'.
Ar ôl iddo lwyddo ym Mhontypridd, daliodd William Edwards a'i feibion i godi pontydd hwnt ac yma, nifer ohonyn nhw ac iddyn nhw fwâu hir a cheudodau crwn, fel ym Mhontypridd. Serch hynny, yng ngoleuni'r profiad ym Mhontypridd, roedd i'r ymdrechion diweddarach esgynfannau yn arwain at y pontydd a'r rheiny'n codi'n raddol. Mae'r ysgrif coffa, yn ‘Gentleman's Magazine’ 1789, yn arwydd o'r enwogrwydd a'r bri a ddaeth i ran William Edwards, a hynny i raddau helaeth yn sgîl yr hyn a gyflawnodd e ym Mhontypridd:
‘Yn ei gartref ger Caerffili, William Edwards, pensaer ac adeiladydd pontydd, neu'r Parchedig William Edwards – roedd e'n arfer cynnal y naill gymeriad a'r llall â'r un dyfalwch a galluoedd… Y gŵr anghyffredin yma a gododd y bont enwog dros Afon Taf – Pont y tŷ pridd –, gerllaw'r New Bridge Saesneg. Lledaenodd ei enwogrwydd ar draws y deyrnas a byddai pobl yn troi ato am gymorth pryd bynnag byddai anhawster ynglyn â chodi pont. Cadwodd ei frwdfrydedd dros weithgareddau crefyddol a chynnal cynulleidfa fawr, gymysg – Methodistiaid yn bennaf – a dal i godi pontydd tan oedd yn 72 mlwydd oed pan fuodd e farw ar ôl brwydro yn erbyn afiechyd hir ag amynedd oedd yn esiampl i bawb.' Mae llechfaen efydd yng Nghapel Groes-wen yr Annibynwyr, lle buodd William Edwards yn weinidog am ddeugain mlynedd, sy'n nodi, ‘Adeiladydd i'r Ddeufyd'.