Wrth edrych ar stadau tai cyngor y 1960au a chwrs golff Cwm Rhondda sy'n tra-arglwyddiaethu ar fryniau Pen-rhys heddiw, mae'n anodd credu bod chwedlau a hanes cyfoethog yn perthyn i'r ardal hon – hanes heb ei debyg i unrhyw ran arall o Gwm Rhondda. Mae rhai o arwyddion y dreftadaeth gyfoethog hon i'w gweld o hyd yn yr adeilad brics bach sy'n gartref i Ffynnon Mair ac yng ngherflun y Forwyn Fair sy'n sefyll uwchben Cwm Rhondda Fawr. Er hynny, mae olion yr hen fynachlog a'r adeiladau canoloesol oedd mor flaenllaw ar ben y bryn ar un adeg, bron wedi diflannu'n llwyr. Roedd rhywfaint o'r hen fynachlog yno o hyd yn y 1840au, er ei bod yn rhan o adeiladau fferm ar y safle. Defnyddiwyd deunyddiau'r hen fynachlog i godi'r adeiladau fferm. Wrth gloddio drwy sgubor y fferm ym 1912, darganfuwyd trawst 30 troedfedd wedi'i gerfio'n gelfydd oedd yn deillio o adeilad go bwysig ar un adeg.
Chwedlau a Thraddodiadau Pen-Rhys
Mae chwedlau cynnar yn cyfeirio at fynachlog Ffransisgaidd ym Mhen-rhys, a adeiladwyd fel cofeb i'r Tywysog Rhys ap Tewdwr a ddienyddiwyd ar y safle yn ôl y sôn. Yn ôl y chwedl, bu Rhys yn rhyfela yn erbyn Iestyn ap Gwrgant a gefnogwyd gan y Normaniaid. Ar ôl cael ei drechu, fe ddihangodd Rhys cyn cael ei ddal a'i garcharu a'i ddienyddio maes o law. Yn ddiweddarach, dywedir i'w wŷr, Robert o Gaerloyw, noddwr abatai Margam a Chastell-nedd, sefydlu mynachlog ym Mhen-rhys er cof am Rhys, yn ystod teyrnasiad Harri'r Cyntaf rhwng 1130 a 1132. Mae haneswyr diweddar yn amau hyn, gan honni nad ym Mhen-rhys y bu farw Rhys mewn gwirionedd. Yn ogystal, pan fu farw'r Cwnsel Robert nid oedd yr Urdd Ffransisgaidd yn bodoli. Mae'n debyg mai mynachod Sistersaidd o Abaty Llantarnam, Sir Fynwy, oedd biau mynachlog Pen-rhys mewn gwirionedd.
Beth bynnag am hanes ei sefydlu, fe wyddom i'r fynachlog fodoli a ffynnu am y 300 mlynedd nesaf a bod tafarn ar yr ystâd hyd yn oed, ar gyfer y pererinion mwy na thebyg. Dywedir i'r fynachlog gael ei diddymu, ac i Harri'r V werthu holl eiddo'r fynachlog fel cosb am gefnogi ymgyrch Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif. Yn ôl yr hanes, bu Owain yn llywydd eisteddfod ar y safle ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os felly, mae'n rhaid fod y safle wedi'i adfer fel man addoli a phererindod yn fuan wedyn. Ym 1583, yn ystod cyfnod diddymu'r mynachlogydd, cyfeiriodd y Canghellor Thomas Cromwell yn benodol at gerflun y Forwyn Fair ym Mhen-rhys fel un i'w dinistrio, yn ogystal â llawer o gerfluniau crefyddol pwysig eraill fel cerflun Walshingham.
Ffynon Mair
O dan grib mynydd Pen-rhys, saif cwt carreg bach, di-nod, o'r enw Ffynnon Mair. Dyma gartre'r ffynnon sydd wedi bod yn rhan ganolog o fywyd crefyddol Pen-rhys, sy'n deillio'n ôl i ddyddiau Cristnogaeth gynnar yng Nghwm Rhondda. Mae dŵr y ffynnon hon wedi bod yn gysylltiedig â grymoedd gwella gwyrthiol, dwyfol, gydol ei hanes. Mae ymchwil yn dangos bod hanes y ffynnon fel canolbwynt addoli a gwellhad yn perthyn i'r cyfnod cyn Cristnogaeth, gyda gwreiddiau paganaidd mewn gwirionedd. Fel llawer o ffynhonnau tebyg, roedd y paganiaid yn credu eu bod yn lleoedd dwyfol â grymoedd cyfriniol. Ar ôl i'r cenhadon Cristnogol ddarganfod bod ofergoelion ynghlwm wrth ffynhonnau fel Pen-rhys, aethant ati i'w tanseilio ar unwaith gan bwysleisio mai rhywbeth Cristnogol oedd y ‘pwerau cyfriniol' hyn.
Felly, cafodd y ffynnon ei chysegru i'r Forwyn Fair a phwysleisiwyd mai rhodd gan Dduw i'r rhai cyfiawn oedd ei nodweddion iachaol. Roedd y ffynnon yn effeithiol iawn i wella sawl anhwylder yn ôl y sôn, gan gynnwys y gwynegon, ‘haint y Brenin' a namau ar y llygaid yn arbennig. Hefyd, defnyddiwyd dŵr y ffynnon am flynyddoedd lawer i fedyddio plant yn eglwys y plwyf. Roedd ffynnon Pen-rhys yn cael ei hadnabod fel ‘pin well' ar lafar gwlad, gan y byddai'r sawl oedd yn gobeithio cael iachâd o'i dŵr yn taflu pin i mewn iddi wedyn. Os oedd y pin yn colli'i liw, yna roedd hynny'n arwydd y byddai eu dymuniad yn cael ei ateb. Daethpwyd o hyd i lwythi o binnau bach yn y ffynnon yn ystod yr ugeinfed ganrif hyd yn oed.
Ffynnon Mair c.1900
Cerflun y Forwyn Fair ym Mhen-Rhys
Morwyn Pen-rhys c.1997
Roedd y cerflun gwreiddiol ym Mhen-rhys yn arbennig o hardd yn ôl y sôn, ac yn dangos Mair yn cusanu'r Iesu. Roedd yn dipyn llai o faint na'r cerflun presennol, a chredir ei bod yn sefyll mewn cilfach yng nghapel y ffynnon fach. Rhodd o'r nefoedd oedd y cerflun gwreiddiol yn ôl y chwedl, a ymddangosodd yn wyrthiol ar ganghennau coeden dderwen ar y safle. Llwyddodd y cerflun i wrthsefyll pob ymdrech i'w symud - ni allai hyd yn oed wyth ych ei dynnu o frigau'r coed. Dim ond ar ôl adeiladu allor a chapel bach y symudodd y cerflun o'r goeden. Parhaodd y cerflun gwreiddiol ym Mhen-rhys tan y 1500au, yn sgil ymgyrch Harri VIII i ddiddymu'r mynachlogydd. Ar y pryd, ysgrifennodd yr Esgob Latimer lythyr at Oliver Cromwell yn awgrymu y dylai nifer o allorau'r forwyn Fair gael eu dinistrio, gan gredu eu bod yn gyfrwng eilunaddoliaeth ac felly'n offeryn y diafol. Mae'n amlwg bod cerflun Pen-rhys yn un go bwysig ar y pryd, gan fod y llythyr yn cyfeirio ato a cherfluniau eraill yn Wasingham ac Ipswich er enghraifft.
Felly, symudwyd y cerflun o'r allor gefn liw nos er mwyn osgoi unrhyw helynt yn lleol. Dywedir i'r cerflun gael ei symud i gartref Thomas Cromwell yn Llundain, ac ar ôl i'r Esgor Latimer ei daflu drwy ffenestr orllewinol Eglwys Gadeiriol Sant Paul, fe'i llosgwyd yn gyhoeddus gyda llawer o ddelweddau eraill o'r Forwyn Fair.
Pan adeiladwyd eglwys Glynrhedynog, prynodd Miss M.M. Davies o Lantrisant gopi o'r cerflun gwreiddiol yn sefyll mewn boncyff coeden, wedi'i naddu mewn pren derw, fel rhodd i'r eglwys newydd. Codwyd y cerflun presennol ar fryniau Pen-rhys ym 1953, a chafodd ei fendithio gan yr Archesgob McGrath ar 2 Gorffennaf y flwyddyn honno. Naddwyd y cerflun o garreg Portland, ac fe'i cynlluniwyd mor driw i'r gwreiddiol â phosib gan ddefnyddio disgrifiad ohono a gafwyd mewn cerddi Cymraeg canoloesol.
Pilgrimages to Penrhys
Mae'r traddodiad o bererindota yn gannoedd o flynyddoedd oed, ac roeddynt yn ddiwydiant pwysig iawn yn yr oesoedd canol. Daeth Pen-rhys yn gyrchfan pererindod a defosiwn crefyddol o bwys, yn sgil enwogrwydd y ffynnon iachaol. Yn ôl rhai, dim ond Tyddewi oedd yn bwysicach o ran arwyddocâd crefyddol. Oherwydd poblogrwydd y lle, ehangwyd yr adeiladau gwreiddiol er mwyn gwasanaethu'r holl bererinion, a chodwyd tafarn ar y safle. Y werin yn bennaf oedd pererinion Pen-rhys, er bod rhai o bob tras a chefndir yn ymweld â'r lle. Mae un o feirdd canoloesol enwocaf Cymru, Gwilym Tew, yn disgrifio'r ‘lines of upturned faces…as the priest administered holy communion' . Roedd hi'n beth cyffredin i'r pererinion adael rhoddion gwerthfawr wrth yr allor, ac addurno'r cerflun gyda thlysau ac eurblat. Y rhoddion defosiynol mwyaf poblogaidd fodd bynnag oedd taprau neu ganhwyllau tal. Mae llawer o gerddi canoloesol wedi goroesi hyd heddiw sy'n cyfeirio at y pererindodau a'r allor ym Mhen-rhys, a'r llu o gleifion o bob cefndir oedd yn tyrru yno.
Er gwaethaf diddymu'r mynachlogydd, ac er gwaethaf olion prin yr allor a'r adeilad gwreiddiol, mae cofnodion yn dangos bod Pen-rhys yn dal i ddenu pererinion ffyddlon hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ar raddfa dipyn llai na chynt).
Pan ddaeth y Parchedig P. J. O'Relliy Gibbons i fod yn offeiriad plwyf yng Nglynrhedynog ym 1936, aeth ati i adfer traddodiad y bererindod i Ben-rhys. Ar ôl codi'r cerflun newydd ym 1953, amcangyfrifir i 20,000-25,000 o bobl ymuno â'r bererindod gyntaf yno. Trefnodd Eglwys Loegr ei phererindod gyntaf i Ben-rhys ym mis Mai 1976. Yna, ym mis Mai 1977, cymerodd 2,000 o bobl ran yn y bererindod gyntaf o gleifion i Ben-rhys ers y diwygiad. Felly, mae traddodiad crefyddol hyd at 800 mlynedd oed yn dal yn fyw yng Nghwm Rhondda heddiw.
Ysbyty'r Frech Wen, Pen-Rhys
Pan drodd Cwm Rhondda yn gwm diwydiannol fel sy'n gyfarwydd inni heddiw, roedd yr amodau iechyd a glanweithdra yn warthus a dweud y lleiaf. Roedd pobl yn marw'n gynnar, llawer o fabanod yn marw, a'r amodau byw gorlawn ac afiach yn golygu bod heintiau'n ymledu'n hawdd o un i'r llall. Felly ym 1904, nododd Swyddog Iechyd Meddygol Cwm Rhondda yn ei adroddiad blynyddol, bod gwir angen ysbyty ar wahân i drin y frech wen ar fyrder, er gwaetha'r ffaith fod ysbyty'r dwymyn eisoes yn Ystradyfodwg. Y frech wen oedd un o'r clefydau ymledol mwyaf ffyrnig ar y pryd. Cyn yr adroddiad hwn ym 1906, dewisodd y cyngor lleol safle ym Mhen-rhys ar gyfer yr ysbyty newydd dan sylw, a phrynodd Pwyllgor Iechyd Cyngor Trefol y Rhondda dair erw o dir gan fferm Pen-rhys Isaf. Dewiswyd y safle hwn gan ei fod yr un mor gyfleus i Gwm Rhondda Fach a Chwm Rhondda Fawr, ar ochr y mynydd rhwng y ddau le. Hefyd, roedd ei lecyn unig yn ddelfrydol ar gyfer ysbyty arunig/heintiau, a safai o leiaf 400 llath o'r adeiladau agosaf, sef ffermydd Pen-rhys Uchaf a Phen-rhys Isaf. Yn ôl adroddiad blynyddol y Swyddog Meddygol, byddai'r ysbyty yn costio tua £35,000 i'w adeiladu - gan gynnwys tir, sylfeini, gwaith draenio, adeiladau, y celfi a'r ffitiadau, cyflenwad dŵr, a'r ffens o'i gwmpas. Erbyn diwedd y flwyddyn ganlynol, roedd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.
Bu'r ysbyty'n gwasanaethu cymunedau Cwm Rhondda i ddechrau, a'r De i gyd wedyn, am dros 60 mlynedd. Pan nad oedd defnydd pellach i'r adeilad yn y 1970au, cafodd ei losgi'n llwyr gan Wasanaeth Tân De Cymru ym 1971, er mwyn difa unrhyw firws oedd yn llechu yno.