Pentre

Er y gall pentref olygu 'tyddyn' yn y Gymraeg, yn achos Pentre, Cwm Rhondda, mae'n cyfeirio'n benodol at yr hen ffermdy oedd yn arfer bod yma, a'i adeiladau. Roedd fferm sylweddol ‘Y Pentref' yn bodoli yma ymhell cyn i'r pentref go iawn ddatblygu yn sgil y diwydiant glo.

Fel oedd yn gyffredin yng Nghwm Rhondda cyn yr oes ddiwydiannol, roedd nifer o ffermydd ar hyd a lled y fro fel ‘Pentref' a'r ‘Maendy' yn cael eu ffermio gan denantiaid gyda landlordiaid absennol.

Er hynny, daeth mentrwyr busnes i bob rhan o Gwm Rhondda gyda'r holl alw cynyddol am lo a'r holl elw posibl yn sgil hynny. Ym 1857, prydlesodd Edward Curteis o Landaf hawliau mwynol Tir y Pentre gan Griffith Llewellyn o Faglan, ac agorwyd lefelau'r Pentre a Church yn fuan wedyn. Erbyn dechrau 1864, roedd y ‘Pentre Coal Company' wedi agor siafftiau glo â'u cysylltu â'r gwythiennau glo dyfnach, ac agorwyd ail bwll yn y Pentre. Ar y pryd, Glofa'r Pentre oedd un o'r mwyaf a'r fwyaf proffidiol yn y cymoedd. Dyma pryd y datblygodd y pentref go iawn.

Erbyn dechrau'r 1900au, roedd y Pentre'n lle prysur dros ben ac yn un o'r prif ardaloedd siopa ar gyfer rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr, gyda chwe siop gadwyn a dwy siop y Co-op ymhlith eraill. Fe'i disodlwyd gan Dreorci yn ddiweddarach ar ôl i Lofa'r Pentre gau. Y Pentre oedd canolbwynt llywodraeth leol Cwm Rhondda ar ôl agor swyddfeydd y cyngor yn Stryd Llewellyn ym 1882. Mae'r Pentre hefyd yn ymfalchïo yn ‘Eglwys Gadeiriol Cwm Rhondda', sef Eglwys San Pedr a gysegrwyd ym 1890, ac mae ei thŵr ysblennydd yn amlwg ymhob cwr o'r ardal.

Dyma gartref cwmni Pentre Breweries, a sefydlwyd ym 1875, am flynyddoedd lawer hefyd, a gwerthwyd cwrw'r cwmni yn nhafarndai cymoedd y de. Ym mis Hydref 1916, cafodd nifer a siopau a llawr sglefrio eu claddu gan dirlithriad, gan fygwth yr unig ffordd oedd yn mynd drwy Gwm Rhondda Fawr. Yn sgil hyn, cafodd y cyngor eu sbarduno i godi ail ffordd rhwng Ton Pentre a Chwmparc.

Cubitt and Llewellyn's Foundry which was established by Griffith Llewellyn of Baglan and William Cubitt.

Ar wahân i'r pyllau glo, prif fusnes arall y Pentre oedd y Rhondda Engine Works dan reolaeth y Meistri Llewellyn a Cubitt, cwmni o beirianwyr a thoddwyr haearn a phres. Am hanner canrif, bu'r cwmni hwn yn cyflenwi rhai o'r offer glofaol gorau a'r mwyaf dibynadwy i fusnesau glo ledled y de. Sefydlwyd y cwmni ym 1847 gan Griffith Llewellyn o Faglan, a oedd yn berchen ar lawer o dir yng Nghwm Rhondda, a William Cubitt o Lundain. Roedd eu gweithdai'n cynnwys tŷ injan, ffowndri haearn a phres, siop y boeler a gefail - oll ar ran o Ystâd Baglan, chwarter milltir o orsaf drenau'r Taff Vale. Ar droad y ganrif, roedd dros 100 o grefftwyr medrus yn gweithio yma. Cyn i'r gweithdai gael eu dymchwel ym 1915, roedd cwmni Llewellyn a Cubitt wedi cyflenwi fframiau pen pwll dur, caetsys y pyllau a llawer o offer hanfodol eraill i'r diwydiant glo am ddeugain mlynedd i'r rhan fwyaf o lofeydd Cwm Rhondda.