Am 5.50am ar 27 Awst 1909, siglwyd pwll glo'r Ely (un o dri phwll Naval Colliery Company) i'w seiliau wrth i 28 o lowyr fynd o dan ddaear i ddechrau gweithio. Lladdwyd saith o lowyr ac anafwyd 21 ohonynt yn y man. Roedd y caets yr oedd y dynion yn teithio ynddo wedi cyflymu yn lle arafu wrth gyrraedd pen y daith, gan daro'n galed yn erbyn llawr y siafft. Oherwydd hyn, saethodd y caets gwag arall i ben y pwll, torrodd y rhaff, a disgynnodd y caets gwag yn ôl i'r gwaelodion cyn glanio ar y caets arall a lladd rhai o'r dynion oedd ynddo. Dyma ddisgrifiad papur newydd y Rhondda Leader o'r digwyddiad erchyll: ‘Five of those in the upper deck (of the cage) being instantaneously killed, while the more seriously injured died soon after they were released. Two of the killed were severely mangled, whilst another was almost decapitated. Those in the lower bond fared better than their unfortunate comrades, and all of these escaped with their lives though some were badly injured sustaining fractures of limbs and body.'
Aeth tîm achub dan arweiniad Mr Trevor Price y rheolwr cynorthwyol cyffredinol (roedd y rheolwr cyffredinol, Mr Leonard Llewellyn, ar wyliau yn yr Alban ar y pryd), a'r Doctor Llewellyn a Doctor Weichart, o dan ddaear er mwyn trin y rhai oedd wedi'u hanafu. Roedd rhaid defnyddio Pwll y Pandy (pwll glo cyfagos arall y cwmni) i gyrraedd y trueiniaid. Gan fod yr offer weindio wedi difrodi'n llwyr, roedd rhaid cludo'r meirw a'r clwyfus ar hyd y talcenni glo ac i fyny Pwll y Pandy. Lledodd y newyddion fel tân gwyllt drwy'r ardal, ac ymgasglodd cannoedd o bobl ar ben y pwll i ddisgwyl am hanes eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
Mae'r papur newydd yn cynnwys disgrifiadau byw gan rai a lwyddodd i oroesi'r drychineb. Un ohonynt oedd Phillip Pascoe, a oedd wedi'i hyfforddi fel dyn ambiwlans ac a gafodd ei ganmol i'r cymylau am helpu dioddefwyr eraill er iddo gael mân anafiadau ei hun. Mae'n disgrifio i'r caets ddod i stop yn sydyn cyn disgyn ar wib i'r gwaelod. Ar ôl taro'r llawr, y cwbl a glywai yn y tywyllwch dudew oedd dynion yn griddfan mewn poen a malurion yn disgyn i lawr y siafft a sŵn y caets gwag yn hyrddio heibio. Mae'n dweud eu bod yn gaeth o dan y ddaear am ryw awr cyn i'r tîm achub lwyddo i basio lampau trwy dwll bach yn y planciau i'r caets. Llwyddodd Pascoe i helpu bachgen o'r enw Fry i fynd drwy'r twll hwnnw, cyn ymdrechu i gael Noah Matthews, oedd wedi torri'i goes, ar ei ôl. Pan holodd gohebydd y papur newydd a fyddai Pascoe wedi gallu dianc yn yr un modd, atebodd y byddai wedi gallu gwneud hynny, ond iddo benderfynu aros yn y fan a'r lle er mwyn helpu eraill pan oedd mewn poen ofnadwy. O'r diwedd, llwyddwyd i ryddhau gweddill y dynion o'r caets, diolch i gymorth arwrol James Vaughan ac eraill, gan gynnwys Tom Rowlands, Edward Hodge ac Idris Roberts, Trealaw, David Lewis, Stephen Davies a Tom Connel, Pen-y-graig. Pascoe oedd yr olaf i adael y caets, a dim ond wrth gerdded adref y sylweddolodd ei fod wedi cael briw ac wedi sigo/troi ei goes a'i glun. Un arall a ganmolwyd am ei ddewrder oedd James Vaughan, bachwr/harneisiwr oedd ar ddyletswydd ar lawr y pwll pan ddigwyddodd y ddamwain. Yn syth ar ôl y ddamwain, aeth i chwilio am olau i ryddhau'r dynion o'r caets. Yna, aeth ati i ryddhau'r rhai oedd ar ddec ucha'r caets cyn helpu'r rhai o'r dec isaf. I wneud hyn, roedd yn gorfod symud y planciau coed o'r swmp yn y siafft agored er gwaethaf perygl y malurion yn disgyn arno. Dyma glod y papur ohono: ‘He..set about his work without thought of himself, and assisted by others he eventually managed to release all the men in the lower bond, who were handed to him by Pascoe through the aperture made by removing the planks.'
Cafwyd hanes yr angladdau yn yr un papur newydd yr wythnos ganlynol:
‘The funeral of the victims of the Ely Pit disaster took place on Tuesday last, the remains of T.H. Brown, Alf Watkins, Morgan Evans, and the boy Reginald Jenkins being interred at Llethrddu Cemetery, Trealaw whilst those of Gideon Chapman found a last resting place at Tonyrefail. The new arrangements under the Eight Hours Act enabled the workmen of various pits to attend the final obsequies in large numbers. Contrary to the usual practice in Welsh funerals, there was no singing, the cortege being headed by the Salvation Army Band playing the ‘Dead March' in Saul. The whole locality showed signs of mourning, all business premises being closed as the cortege passed. Short services were held at the private homes of the deceased, conducted by the Revs. H. Parry, J. Richards Pugh, G. Evans and Emrys Jones who also officiated at the graveside. Amongst the mourners were Mr. Leonard Llewellyn general manager of the Cambrian Trust, representing the directors Mr. Trevor Price, sub agent, and Mr. Hollister, manager of the Naval Pits with Drs. Llewellyn and Weichart. The coffins were covered with beautiful flowers sent by sympathetic relatives and friends. Large crowds lined the route as the long procession filed by.'
Mewn cwest i'r drychineb, barnwyd mai sbaner tu chwith mecanwaith y caets oedd wedi achosi'r ddamwain. Roedd y sbaner dan sylw wedi hollti eisoes, ond fe'i hatgyweiriwyd yn hytrach na gosod un newydd yn ei le.