Philip Thomas

Mae'r garreg fedd sy'n nodi man claddu Philip Thomas heddiw yn sefyll ym Mynwent Glyn-taf. Fodd bynnag, mae carreg fedd oedd wedi ei bwriadu ar ei gyfer yn sefyll ar Gomin Pontypridd. Mae'r stori y tu ôl i'r garreg sy'n edrych allan dros ei weithle ar y comin wedi dod yn rhan o lên gwerin Pontypridd.

Pan fu Thomas farw yn 1840, newydd gael ei chodi oedd Eglwys Glyn-taf ac ef oedd y cyntaf i gael ei gladdu yno. Roedd y ffaith nad oedd carreg ar ei fedd yn ofid i Francis Crawshay, preswylydd enwog Forest House a rheolwr Gwaith Tunplat Trefforest. Felly, aeth ati ar ei liwt ei hun i godi carreg fedd yn Eglwys Glyn-taf; ond nid oedd amwysedd y beddargraff yn plesio teulu Thomas. Yn wir, roeddynt mor ddig fel yr aethant ati i wneud twll ym mur y fynwent, symud y garreg, a'i gadael yn gorwedd mewn cae gerllaw. Daeth yr ecsentrig Dr William Price ar draws y garreg, a gyda chymorth Crawshay, trefnodd iddi gael ei gosod yn ei safle presennol gerllaw cylch yr orsedd. Mae'r enw, Philip Thomas, wedi ei ddileu.

Mae'r llun hwn yn dangos y garreg sydd ar Gomin Pontypridd

Mae'r garreg yn darllen fel hyn:

STRANGER HALT
I am placed here to commemorate
the virtue and abilities of
who after managing the chain work
on my right hand side for the space of
21 years much to the benefit of all
mankind died and was buried herein
1840
Aged 69