Pontyclun

Mae map degwm 1841-42 o ardal Pont-y-clun/Meisgyn yn dangos rhyw 30 o ffermydd rhwng 20 a 200 erw o faint, melin flawd, a bythynnod bach ar safle River Row. Erbyn heddiw, yn yr un ardal, nid oes ond 5 o ffermydd sy'n parhau i gael eu hamaethu. Dim ond ers 1893 y mae'r enw Pont-y-clun wedi cael ei ddefnyddio'n swyddogol; cyn hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Pont Clown neu Bont-y-clown oedd, mae'n debyg, yn dangos bod yr afon wedi'i gorchuddio gan goed a phrysgwydd. Mae cofnodion cynharach yn cynnwys amrywiaeth o enwau, gan gynnwys 'Cloune' a 'Clune'. Enw'r afon Clun, sy'n ymddolennu o gwmpas yr ardal, sydd o bosib yn gyfrifol am y rhain.

Ffordd y Bont-faen, Pont-y-clun c.1900

Mewnlifiad gweithwyr i'r diwydiant glo a mwyn haearn, ynghyd â dyfodiad y rheilffordd yn ystod y 1850au oedd yn gyfrifol am newid yr ardal am byth. Glofa Coedcae (a restrir am y tro cyntaf ym 1856) a gwaith mwyn haearn Bute (a agorodd ym mis Hydref 1852) sbardunodd y twf yn y boblogaeth. Erbyn 1871, mae'r ffurflenni cyfrifiad yn cofnodi mewnlifiad o fwynwyr o Gernyw a oedd wedi dioddef oherwydd methiant y diwydiant mwyn copr yng Nghernyw.

Cafodd y twf mawr hwn o siaradwyr Saesneg yn yr ardal gryn effaith ar y boblogaeth leol o siaradwyr Cymraeg, a bu'n gyfrifol am ‘ladd' Cymraeg fel iaith dros gyfnod cymharol fyr. Erbyn 1870, ehangwyd diwydiannau'r ardal drwy ddyfodiad yr Ely Tin Plate Works, y Gwaith Peipiau, a'r Steam Joinery Company. Er mwyn diwallu anghenion y gweithlu adeiladwyd Stryd yr Ysgol a Ffordd Llantrisant, rhai o dai cynharaf yr ardal, ynghyd â‘r National School a adeiladwyd yn Stryd yr Ysgol tua 1878, Bethel Capel y Bedyddwyr (tua 1876), a thafarndai fel y Bute Hotel a'r Windsor Arms.

Gweithwyr ifanc yn y Gwaith Tunplat c.1904

I gyfoethogi bywyd diwylliannol a chymdeithasol y boblogaeth a oedd yn tyfu, yn gynnar yn yr 20fed ganrif aed ati i adeiladu Institiwt Pont-y-clun (1910). Erbyn y 1950au hwyr roedd yr Institiwt wedi gweld dyddiau gwell a phenderfynwyd rhoi iddo enw newydd, Clwb Athletau Pont-y-clun, fyddai'n diwallu anghenion pêl-droed, rygbi, a chriced yr ardal. Mae Pont-y-clun yn dal i ffynnu er gwaetha cau'r pyllau a'r gweithfeydd mwyn, a gafodd effaith andwyol ar yr ardal. Daeth yr ardaloedd siopa y tu allan i'r dref â bywyd newydd i Bont-y-clun, a busnesau manwerthu yw'r prif gyflogwyr bellach. Mae Pont-y-clun hefyd yn lleoliad addas ar gyfer cymudo i Gaerdydd a'r Fro, ac mae rhagor o dai wedi eu codi yn sgil hynny.

BRAGDY'R CROWN, PONT-Y-CLUN

Prynodd y South Wales & Monmouth United Clubs Brewery Co. Ltd. y bragdy bach teuluol o eiddo D & T Davies ym 1919. Roedd y Cwmni hwn wedi ei ffurfio i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o Glybiau Gweithwyr a oedd yn cael anhawster i gael digon o gwrw gan y nifer sylweddol o fragdai lleol ledled yr ardal. Roedd Deddf Cau'r Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 wedi hybu'r twf yn nifer y clybiau, gan nad oedd yn rhaid iddyn nhw, yn wahanol i'r tafarndai, gau ar y Sul. Codwyd cyfalaf ar gyfer y fenter drwy gynnig cyfrannau, a phrynwyd y bragdy am £25,000. Yn y flwyddyn gyntaf, roedd y bragdy yn cynhyrchu 200 casgen o ‘Club Pale Ale ' yr wythnos. Pennaeth y bragdy bryd hynny oedd Capten Rogers a oedd wedi gwasanaethu fel swyddog gyda'r marchoglu yn ystod Rhyfel De Affrica.

Erbyn 1936, roedd y bragdy yn cynhyrchu 500 casgen yr wythnos, a chynyddodd i 900 ym 1938. Pan dorrodd y rhyfel allan ym 1939, peidiodd y cynnydd, ond pan ddaeth y rhyfel i ben ym 1945 ail-ddechreuodd eto. Erbyn 1954, roedd yr hen fragdy wedi cael ei ddisodli gan fragdy newydd sbon a oedd yn ddigon mawr i gynhyrchu'r 1200 casgen yr wythnos yr oedd y clybiau yn gofyn amdanynt bryd hynny. Ym 1984, Bob Smith oedd prif fragwr y cwmni, dim ond y pumed yn y 65 mlynedd y bu'r cwmni'n marchnata. Ym 1988, cyfunwyd y Crown â bragdy hynaf Cymru, Buckley's of Llanelli, i ffurfio‘r Crown Buckley Brewery, ond wedi 80 mlynedd o fasnachu, caeodd y bragdy yn ystod Gwanwyn 1999.

Bragdy'r Crown