Mae map y degwm 1841, ar gyfer plwyf Eglwysilan, yn dangos mai ffermydd bach a llond llaw o fythynnod oedd yn Rhydfelen. Enw un o'r ffermydd sydd ar y map yw Ynys Rhydfelen, a gallai hyn fod yn dystiolaeth yn y ddadl yngylch tarddiad yr enw Rhydfelen neu Rhydyfelin. Mae'r enw Rhydyfelin yn awgrymu bod melin neu ryd wedi bod yno unwaith. Mae eraill yn dadlau, fodd bynnag, mae Rhydfelen yw'r enw cywir, cyfeiriad at liw'r clai. Roedd rhai o'r farn anghywir mai llygriad o Rhydyfelin oedd Rhydfelen, ac fe gafodd hyn ddylanwad ar yr Arolwg Ordnans ym 1885; fe nodwyd yr enw Rhydyfelin ar y pentref. Mae'n debygol bod hyn o ganlyniad i wybodaeth anghywir, gan nad oes unrhyw gofnod bod melin wedi bod yno.
Dwy ddyfrffordd oedd yn gyfrifol am ddatblygiad cynnar Rhydyfelin, y Glamorganshire Canal a'r Doctor's Canal. Rhedent fwy na heb yn gyfochrog â'i gilydd drwy'r pentref tua'r de ddwyrain cyn ymuno yn Dynea. Roedd y Glamorganshire Canal yn mynd o Ferthyr i Gaerdydd tra'r oedd y Doctor's Canal, milltir o hyd, yn cysylltu pen draw'r dramffordd â'r brif gamlas. Fel mae'r enw'n awgrymu, meddyg cymwysedig o'r enw Richard Griffiths a agorodd y Doctor's Canal ym 1813. Byddai Griffiths yn aml yn esgeuluso ei ddyletswyddau meddygol am fod y datblygiad yn y diwydiant glo o fwy o ddiddordeb iddo.