I ddathlu pen-blwydd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn 75 oed, mae gyda ni gasgliad o luniau o flynyddoedd cynnar yr ysgol sy'n cynnwys athrawon a disgyblion cyntaf yr ysgol, gan gynnwys ei phennaeth uchel ei barch, Mr Idwal Rees; casgliad o glipiau sain sy'n cynnwys cyn-ddisgyblion yn trafod eu hatgofion o'r ysgol; a ffilm sy'n cyfuno'r lluniau, clipiau sain a gwaith celf gwreiddiol gan ddisgyblion presennol YGG Aberdâr.
Agorwyd drysau'r ysgol am y tro cyntaf ar 6 Medi 1949. Cafodd ei galw'n 'arbrawf' gan y Merthyr Express a'r Aberdare Leader gan mai hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghwm Cynon, ac yn Rhondda Cynon Taf, a fyddai'n addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.


Deddf Addysg 1944 – "Children shall be educated in accordance with the wishes of their parents."
Roedd Deddf Addysg 1944 wedi galluogi'r 'arbrawf' yma, gan iddi roi'r hawl i rieni ddewis y math o addysg a ddarperir i'w plant. O ganlyniad i'r cymal yma a gweithredu diflino rhieni a chymunedau lleol, dechreuodd ysgolion cyfrwng Cymraeg agor ledled Cymru. Dyma cyn-ddisgybl, a chyn-athrawes a brifathrawes YGG Aberdâr, Valmai Higgins, yn sôn am yr ymgyrch yng Nghwm Cynon.
TRAWSGRIFIAD - Ar ôl Deddf Addysg 1944, o’dd rhieni yn gallu dewis pa fath o addysg o’n nhw moen i’r plant, a beth digwyddodd, wy ddim yn gwbod pwy daeth at eu gilydd, ond o’dd pobl mewn pob ardal yn y cwm yn mynd o amgylch yn siarad â pobl o’dd â plant oedran ysgol i weud os bydde ysgol Gymraeg yn agor bydden (nhw’n mynd) ti’n gwbod. So, wy’n cofio hwnna a fi'n cofio menyw o’r enw Mrs Davies yn dod, cofio clywed mam yn siarad ond ife, chi’n gwbod. Chi’n gwbod, ar yr adeg o’dd rhieni ddim yn siarad o blaen y plant, o’n nhw? Chi’n gwbod, o’ch chi ddim yn gwbod beth o’dd yn digwydd, ond, daeth Mrs Davies rownd a rhoiodd mam ‘y’n enw i lawr ond ife chi’n gwbod, a nifer o’n ffrindiau yn yr ysgol, ysgol Saesneg o’n i’n mynychu ar y pryd. Ond, cymerodd hi amser i gael trefniadau i agor ysgol. Wi ddim yn gwbod os taw blwyddyn neu dwy flynedd neu rhywbeth, cyn bod yr ysgol actually yn agor ond ife. Erbyn ‘ny roedd lot o nhw wedi newid eu meddwl ond ife, achos o’dd y plant yn tyfu, achos o’n i erbyn hyn, o’n i’n un o’r babanod ar y dechrau, ond o’n i’n mynd mewn i’r ysgol iau i ddechrau’r ysgol, so o’dd nifer fawr wedi newid ‘u meddwl, a felly, dim ond 26 ohonon ni o’dd yn dechrau, y diwrnod cynta. Ond dyw hwnna ddim cweit yn iawn ydyw e, 26 o top y cwm, o’dd hwnna ddim yn cynnwys y plant o’dd yn dod yr wythnos ar ôl ‘ny, o’r dre, Abercwmboi, Cwmaman, Aberaman, Cwmbach, chi’n gwbod, o nhw ‘da’r cynta hefyd, ond ddim y diwrnod cynta achos pobl Hirwaun, Cwmdâr, Trecynon, Llwydcoed, Penywaun o’dd y diwrnod cynta.
Y DIWRNOD CYNTAF
Ar fore cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr, croesawodd tri athro - y Pennaeth, Mr Idwal Rees, gyda Miss Ray Griffiths a Mrs Ann Walters - 26 o blant o bentrefi yng Nghwm Cynon uchaf, gan gynnwys Cwmdâr, Trecynon a Llwydcoed; roedd darpar bennaeth yr ysgol, Mrs Valmai Higgins (née Morgan), yn eu plith. Yn yr ail wythnos, daeth 10 disgybl arall o bentrefi yng Nghwm Cynon isaf, gan gynnwys Cwmaman, Aberaman ac Abercwmboi. Heddiw, mae gan yr ysgol fwy na 400 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae ei dalgylch eang yn cynnwys pentrefi o Hirwaun i Aberpennar.

Disgyblion cyntaf yr ysgol gyda'r Pennaeth, Mr Idwal Rees (y pellaf ar y chwith), Miss Ray Griffiths (yr ail o'r chwith), a Mrs Ann Walters (y pellaf ar y dde). Mae darpar bennaeth yr ysgol, Mrs Valmai Higgins (née Morgan), yn sefyll yn yr ail res, yr ail o'r chwith.
Ond, roedd yr ymgyrch i agor yr ysgol yn un galed, a gafodd wrthwynebiad gan y gymuned leol fel y dywedwyd gan Valmai Higgins.
TRAWSGRIFIAD - Mae rheswm arall o’dd nifer o rhieni wedi newid ‘u meddwl achos o’dd gwrthwynebiad yn dod wrth pobl Cymry, yn aml, athrawon, chi’n gwbod, pobl o’dd yn dweud, beth am y Saesneg, allen nhw ddim cael addysg dim ond yn Gymraeg. Wel, ysgolion dwyieithog ‘y ni beth bynnag ond ife, mae plant yn dysgu Saesneg yn ogystal a Gymraeg, ond iaith yr ysgol yw’r Gymraeg. A traddodiadau Cymraeg yn cael eu dysgu ond ife, chi’n gwbod, fel wedais i ar y dechrau, lot o ganu, dawnsio gwerin, a dysgu hanes Cymru ond ife, chi’n gwbod, achos ar y pryd o’dd hwnna ddim yn digwydd mewn ysgolion. So, ydw, fi'n cofio gwrthwynebiad, pobl yn gweud wrth mam, “you’ll be sorry, she won’t get on,” chi’n gwbod, a mam yn gwrthwynebu hwnna ond ife.
Dyma Cliff Hewitt a Mair Lewis (née Howells) o Gwmdâr, yn cofio'r brotest a gynhaliwyd y tu allan i gatiau'r ysgol y bore cyntaf. Recordiwyd y clip hwn y tu allan i'r union gatiau hynny 75 mlynedd yn ddiweddarach.
TRAWSGRIFIAD - CLIFF HEWITT: O’dd rhan helaeth mawr o’r bobl ‘ma o’dd yn gwrthwynebu yn erbyn yr Ysgol, o’n nhw’n siarad Cymraeg eu hun. Ddim jest pobl di-Gymraeg yn erbyn pobl Cymraeg o’dd e, o’dd rhai o bobl o’dd yn siarad Cymraeg yn blaenllaw yn y protest yn erbyn e. A o’dd y mamau fan hyn, braich ym mraich, yn trio stopid plant i fynd mewn, a o’dd tipyn bach o ‘Mexican stand-off’ wy’n meddwl, o’dd neb yn gwybod beth o’dd yn mynd i ddigwydd. A wnes i ddim weld hwn fy hun, ond o’dd un dynes, Mrs Davies o’dd ‘i enw hi, a o’dd ‘i plentyn hi i ddod i’r ysgol ‘ma, wnaeth hi colli amynedd efo’r pobl jest yn edrych ar eu gilydd, wnaeth hi dala yn ei phlentyn a jest marcho reit trwy’r llinell ‘na o menywod, a dyna fo wedyn, wnaeth y protest ‘physical’ gorffen pryd ‘ny a wnaeth pawb jest cerdded mewn. Ond, licsen ni dweud un peth ar yr amser hyn, o’dd lot o gwrthwynebiad yn erbyn yr Ysgol fel o’n i’n gweud, yn y pentre, ond pob clod i staff y ddoi ysgol, Mr Davies yn yr ysgol Saesneg a Idwal Rees yn yr ysgol Cymraeg, wnaeth y casineb ‘na ddim dod trwodd i ni yn yr ysgol, a wnaeth y ddoi ysgol gweithio yn galed iawn ac yn agos iawn at eu gilydd i wneud llwyddiant i’r ddoi ysgol, so mae rhaid rhoi y parch i staff yr ysgol Saesneg o’dd yn helpu y staff yn yr ysgol Gymraeg, yn enwedig yn yr wythnosau cynta ‘na.
MAIR LEWIS: Ie, yn bendant. Rhaid cofio hefyd, o’dd y frwydr i gael yr ysgol, y rhieni yn cael gweld yr adeilad a’r cynghorwyr yn gweud bod, ‘na’r adeilad, mae celfi i gael lawr yn rhyw warws rhywle, a mae rhaid i chi ffeindio’r prifathro, a i ffeindio’r athrawes gynta. So o’dd y frwydr wedi bod yn frwydr mawr, a wedyn, ar y bore cynta, i gael y gwrthwynebiad o bobl o’dd yn mynd i’r capel gyda nhw ‘na’r peth, ‘na’r peth gwaetha, o’n nhw’n rhannu’r capel ar y dydd Sul a wedyn dod lawr ar y dydd Llun, a gweld y gwrthwynebiad, o’dd e’n eitha brawychus i weld hwnna, o’dd e’n ofnadw.
CLIFF HEWITT: Wy’n cofio, wy ddim yn cofio y ‘details’ o’r trafodaeth ond wy’n cofio’n nhad yn sefyll tu allan i’r drws ffrynt efo hanner dwsin o dynion eraill, o’r capel a ddim o’r capel, wrth ‘i gwmpas, o’dd e’n reit amlwg bod nhw’n siarad am yr ysgol Gymraeg, a o’dd un brawddeg, y brawddeg ola o’r sgwrs ‘ma sy’ ‘da fi yn fy meddwl i hyd at nawr, fel o’n nhw’n mynd i ffwrdd, mae rhywun yn troi rownd at fy nhad a gweud, ‘byddet ti’n difaru’. A mae falch ‘da fi i weud wnaeth e ddim difaru. A dwi’n prowd iawn o’n nheulu bach i, so, wedi gweithio mor galed i cael yr Ysgol, efo cymaint o bobl eraill wnaeth gweithio’n galed iawn i sefydlu yr Ysgol.
Unwaith i'r protestwyr wasgaru a'r plant fynd i mewn i'r ysgol, dyma beth mae Valmai Higgins yn ei gofio am y diwrnod cyntaf.
TRAWSGRIFIAD - Dwy’n cofio lot o bobl bythdi’r lle, dwy ddim yn gwbod llawer amdano fe, ond dwy’n cofio eistedd mewn ystafell ddosbarth, Mr Rees yn gwrdd â ni, a wedyn eistedd mewn i’r ystafell ddosbarth gyda plant eraill o’n i ddim yn nabod ond ife, o’n i ddim yn nabod neb. A wedyn eistedd yn nes at y ferch fach hyn a ddaeth yn ffrind i fi. A wy’n cofio Mrs Walters, yr athrawes, yn y ffrynt, pob un yn y desgiau, dwy mewn desg neu dau mewn desg, bechgyn a merched, a Mrs Walters ar ddesg enfawr yn y ffrynt.
DOSBARTHIADAU

Uchod: Dosbarth Babanod cyntaf gyda Mr Idwal Rees a Miss R. Griffiths
Dyma Gwyn Hughes Jones, oedd yn un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol ac sydd i'w weld uchod (yn sefyll yn y canol mewn siaced), yn siarad am 'deulu' yr ysgol a'r rhieni a frwydrodd i'w sefydlu.
TRAWSGRIFIAD - O’dd yr awyrgylch, mae’n dweud yn rhywle, mae pawb yn defnyddio’r term o’n ni’n ‘deulu’, wel, yn sicr, mi oedd Ysgol Gymraeg Cwmdâr, neu Aberdâr, yn deulu cyfan. A chi’n profi hynny heddi wrth bo chi’n cofio enwau eich brodyr a chwiorydd ac yn y blaen, mae e’n rhyfeddol a mae rhaid i hwn bara. Y rhieni yna, y pwyllgorwyr yna, ‘ddari brwydro yn galed, galed, i sefydlu’r Ysgol yma, ac y brwydrodd am flynyddoedd cyn y flwyddyn honno yn 1949. Ie, o’n i’n bump y diwrnod ar ôl i’r Ysgol agor ar Medi’r 7fed, ac o’n i jest yn ddarllen mai o Gwmdâr a rhan ucha’r cwm o’dd y plant yr wythnos gynta, dyna pam o’dd y rhifau fel ‘na, ac yna o’dd plant rhan isa’r cwm, neu, rhan arall y cwm lle o’n i’n byw yn Aberaman, dyna pryd gawson ni ddod i’r Ysgol. Ond tu cefn i ni gyd, mae ‘na lu o bobl, nad ‘y ni’n gwybod eu henwau nhw, mae ‘na rhai ‘y ni yn gwybod eu henwau nhw, os gai enwi fy nhad, o’dd yn Parch Glannant Jones, o’dd yn un o’r rhai fu’n brwydro yn galed, galed, ac o’dd yn ysgrifennydd y Pwyllgor Rhieni. Ond mae ‘na rhai eraill ‘na fydden ni, na dydw i yn gwybod eu henwau nhw, ond nhw yw’r cwmwl tystion sydd yn gwneud yr Ysgol, a wnaeth yr Ysgol yma yn bosib, a plîs, mae rhaid iddi gadw ymlaen, mae rhaid iddi bod yr un mor falch ag oedden ni a gyda ni o’n Cymreictod. Ymlaen Ysgol Gymraeg Aberdâr.







Uchod: Pumed Penblwydd yr Ysgol - Babanod a Meithrin









ATHRAWON

Uchod - YN EISTEDD: Mrs A. Walters ('Siop y Parc'), Mr Idwal Rees, Miss S. Lewis. YN SEFYLL: Miss M. Davies - 1953
Mae David Leslie Davies a Hywel Davies yn edrych yn ôl ar ddylanwad pennaeth cyntaf yr ysgol, Idwal Rees.
TRAWSGRIFIAD - DAVID LESLIE DAVIES: O’dd penodi Idwal Rees ym 1949 yn benodiad gwbl, gwbl, gwbl allweddol. Achos, nid ond mod gyda e’r natur a’r naws personol i greu awyrgylch naturiol, gofalgar, ond ife am blant, ond o’dd e’n ddyn o’dd yn enyn parch, nid dim ond o fewn ond oddi mas hefyd, i fath o’r cylch Cymraeg, achos o’dd e wedi treulio oes cyn bod e’n mynd yn brifathro yr ysgol Gymraeg, fel athro Cymraeg a cerddoriaeth yn Ynyslwyd, a wedi bod yn weithgar gyda cangen Aberdâr, cangen Cwm Cynon, y League of Nations Union er enghraifft, yn trio hyrwyddo heddwch rhwng bobl rhwng y ddoi rhyfel ond ife. A wedyn ar ôl y rhyfel, 1945 tan 1949, o’dd e ymysg y bobl gynta o’dd yn trio trefnu gwyliau i blant o dramor, yn enwedig o Denmarc a’r Iseldiroedd i ddod draw i Aberdâr, i Gymru, i brofi siwt i ail-adeiladu cysylltiadau rhyngwladol heddychlon, pobl o fan hyn yn mynd draw i Ddenmarc a Ffrainc wedyn i wneud yr un peth acw. Hynny yw, o’dd ‘na eangfrydedd ynddo fe o’dd pawb yn gwerthfawrogi. O’dd e’n frwd dros y Gymraeg, ond hefyd o’dd e yn eangfrydig iawn ‘i feddwl ac yn agored i’r byd, ti’n gwbod, a o ddarllen hanes ei benodiad e, mae’n dyfynnu ar adeg ‘i benodi ar ôl y cyfweliad, y pennill bach yma, mae’n gweud, “Dante – dos i'w ddilyn, Shakespeare – tro i'w fyd, ond cofia di Bantycelyn yr un pryd."
HYWEL DAVIES: O’dd sefydlu ysgol Gymraeg yn weithred arwrol wi’n credu, yn yr oes honno, a mae lot o’r llwyddiant yn dibynnu ar arweinyddiaeth Mr Rees. Oni bai amdano fe dwi ddim yn credu fyddai’r ysgol wedi gael ei sefydlu yn y lle cynta. Gweledigaeth, a phendantrwydd. Y polisi o’dd gyda Mr Rees yn wreiddiol o’dd bod rhaid i un o’r rhieni fod yn gallu siarad Cymraeg. ‘Na’r polisi swyddogol ar y cychwyn, ond bod un o’r rhieni, o’ chi’n cael mynediad. O’dd e’n aberth hyd yn oed pryd hynny, o’dd dad gyda’n nheulu i er enghraifft, o’dd e ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl, a o’dd e methu helpu wedyn gyda gwaith cartref na dim byd, so o’dd e’n aberth i rhieni di-Gymraeg.

Uchod - YN EISTEDD: Mrs Eirlys Hatton, Mr Idwal Rees, Mrs S. Edwards. YN SEFYLL: Miss M. Palmer, Mr Gordon Evans, Miss M. Davies - 1950au

Uchod - YN EISTEDD: Miss M. Davies, Mr Idwal Rees, Mrs S. Edwards. YN SEFYLL: Mrs Thomas, Miss M. Palmer, Mr Gordon Evans, Mrs Eirlys Hatton, Miss M. Jones - 1962

Athrawon yr ysgol gyda'r bardd, Elfed, a ysgrifennodd gân yr ysgol, 'Yn y Cwm'
Gwrandewch ar gyn-ddisgybl a'r gantores enwog, Susan Dennis-Gabriel, yn canu cân yr ysgol.
TRAWSGRIFIAD: O’dd y geiriau wedi’u ysgrifennu gan bardd, Elfed, o’dd Mr Rees yn nabod e siŵr o fod, so o’n ni’n canu pob bore, ‘Yn y Cwm ac ar y Mynydd’. "Yn y cwm ac ar y mynydd / Golau'r nef a lonno'n gwlad, / Caru'r gwir fo'n gorchwyl beunydd / Byw'n garedig, ein mwynhad; / Cymru lân, ddiwahân, / Cadwn Gymru'n wlad y gân." So o’n i’n canu hwnna pob bore am pedwar blynedd.
YN Y DOSBARTH


Uchod: Dysgu gwau yn yr ysgol - 1950au
Dyma Menna Cravos, Hywel Davies, Anne Hughes ac Ewan Thomas yn siarad am y gwersi gwau.
TRAWSGRIFIAD - Wel, be’ ‘wi’n cofio yw ishte drws nesa i Cliff Hewitt, a wnaethon ni gymysgu’r gwlân, gwlân pinc i fi, gwlân brown ‘da fe, aeth e’n glymau i gyd a dreulion ni wythnosau yn trio datod y clymau ‘ma, neb yn sylwi ein bod ddim wedi wneud [Lwcus bod ti ddim wedi cael y gansen!]. Ond o’dd e’n flaengar iawn, dysgu’r bechgyn siwt i wau. [O’dd wir, bendant].

Uchod: Y plant yn danfon Neges Heddwch Yr Urdd - Tua 1958
Dyma Mair Lewis (née Howells), sy'n eistedd ar y chwith, yn siarad am ei hatgofion o'r llun.
TRAWSGRIFIAD: O gof, ar y pryd, am wn i ma' nhw dal yn wneud, o'dd yr Urdd yn danfon neges heddwch i bob plentyn o'dd yn gallu derbyn y neges trw'r byd. A o gof, o’dd yr unarddeg ohonon ni wedi cael ein dewis i weud, i gyhoeddi’r neges ar ôl dynnwyd y llun hyn, gyda ni’n amlwg yn edrych ar y byd ‘i hunan. ‘Wi ddim yn cofio yn gwmws ond mae’n hyfryd i weld y llun a i gofio’r rhai o’dd yn y llun. A, o’dd e’n atgof, o’n ni’n wneud pethe, o'dd e'n bwysig, ddim i’r ysgol ond yn gyffredinol, o’dd e’n bwysig i Idwal Rees, bo ni'n ehangu'n profiad ni gymaint o'n ni'n gallu. A ma' hwn yn dangos taw, 'na beth o'dd hwn. O'n ni'n blant ar ôl y rhyfel, a o'dd e'n bwysig wy'n credu, yn enwedig i Idwal Rees i gofio taw heddwch o'dd yn bwysig a dim byd arall.
Côr yr Ysgol

Roedd y côr yn fuddugol yng ngystadleuaeth parti unsain (o dan 12 a hanner) yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr ym 1956

Y côr fuddugol ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr ym 1956

Dyma Susan Dennis-Gabriel yn siarad am ei hatgofion o'r ŵyl a sut y gwnaeth y profiad o ganu ar y llwyfan fel plentyn ei hysbrydoli i ddod yn gantores broffesiynol.
TRAWSGRIFIAD: Wel, wy’n cofio’r Eisteddfod ar y maes yn y parc, ac rwy’n cofio blwyddyn cyn ‘ny o'dd y ‘proclamation’, a o’dd rhaid i ni marcho lan o’r dre i’r parc ar ddydd, wy’n credu taw dydd poethaf yr holl ganrif oedden ni wedi dewis i wneud hwnna, achos o’n ni gyd wedi gwisgo mewn Welsh costume a het mawr a flannel chi’n gwbod, o’n i’n chwysu fel dim byd. A wedyn blwyddyn ar ôl ‘ny o’dd yr Eisteddfod, a o’dd hwnna’n cymryd lot o amser yn yr ysgol wrth gwrs, achos o’n i’n canu yn y côr yn cystadlu yn yr Eisteddfod, o’n i’n canu unawd yn yr Eisteddfod, a wedyn o’n i’n canu yng nghyngerdd y plant a o’dd lot i ddysgu am hwnna. So, o’dd y misoedd cyn yr Eisteddfod yn fisi iawn i ni yn yr ysgol, ac yn hynod o fisi i Mr Rees, o’dd e’n gofalu am y cyfan. O’dd y côr yn ennill y wobr gynta, a wy’n cofio’n gywir beth o’n ni’n canu, achos can gyntaf dysgais i gan Schubert o’dd hwnna, a o’n i’n enwog am ganu Schubert blynyddoedd ar ôl ‘ny. Schubert ‘An die Musik’ wnaethon ni ganu, ‘Ddigymar Ddawn’, a geson ni’r wobr gyntaf, so o’n ni’n gwylltio amser ‘ny, chi’n gwbod, o’n ni’n dawnsio bythdi’r lle a gweiddi bod ni wedi ennill a popeth. Dechreuodd ‘y ngyrfa i yn yr ysgol Gymraeg achos, ti’n gwbod, ble chi gallu mynd yn wyth mlwydd oed a canu o flaen gynulleidfa ond yn yr Eisteddfod? A ‘na beth wnaethoi, a geso i blas arno fe, o’n i’n lico e, yn sefyll a canu i bobl, so, 'na’n job i wedyn. Ond dechreuodd e fyna wrth gwrs, ‘se ni ‘di wedi mynd i ysgol arall o’dd dim o’r canu a’r miwsig yn mynd ‘mlaen yn bwysig fel o’dd e gyda Mr Rees, chi’n gwbod, so ‘na fe, allai bod yn wastod yn ddiolchgar iddo fe am ddechrau fi off.
Sbort a Sbri

Uchod: Tîm pêl-droed Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr - 1957/58
Gwrandewch ar atgofion Wyn Rees o'r tîm pêl-droed.
TRAWSGRIFIAD - Dyma’r tîm pêl-droed, mae’n dweud 1957-8, ‘first eleven’, doedd dim ‘second eleven’ i gael ‘da ni, ac rwy’n amau mai hwn oedd y tîm pêl-droed cynta yr ysgol Gymraeg. Eto, yn y cefn mae Idwal Rees y prifathro, ac yr ochr arall Gordon Evans oedd ein hyfforddwr ac yn dewis y tîm. Ac o’r rhes gefn, Roger Ellis Humphreys, fel dwi’n sôn, Gwynfor Davies, Wynford Williams, David Pollard o Gwmbach, John Davies, Anthony James, Ian James o Gwmdâr. Rhes ganol, fi [Wyn Rees], Gared Richards Abercwmboi, Anthony Taylor, Philip Dennis o Gwmbach, a Martin Evans o Drecynon. Ac yn y blaen, Martin Wigley o Abernant a Howard Davies o Gwmaman. Dwy ond yn cofio i ni chwarae yn erbyn Abernant, Abercwmboi a’r ysgol Saesneg [Cwmdâr], ac enillon ni yr un gêm. Wy’n cofio sgorio gôl yn erbyn Abercwmboi, a sgorio gôl yn erbyn Abernant, a dyna pam falle rwy’n cofio’r gemau hynny achos os y’ chi ‘di sgorio gôl chi’n cofio’r gemau. Ond beth bynnag, doedden ni ddim wedi cael blwyddyn neu tymor llewyrchus iawn, a gollon ni, fel o’n i’n dweud, pob gêm. Ond beth bynnag, o’dd e’n hwyl, a dwi’n cofio ar gyfer y llun yma, roedden ni’n gwisgo ein gwisg pêl-droed ni dros ein gwisg ysgol, dyna pam allwch chi weld gwaelod trowseri pobl o dan y shorts.

Uchod: Yn chwarae criced ar iard yr ysgol - 1950

Uchod: Yn chwarae rownderi ar iard yr ysgol - Tua 1958

Uchod: Taith ysgol i Borthcawl - 1950au








Uchod: Gwasanaeth Heddwch, Capel Siloa - 1954


Athrawes, Miss Ray Griffiths, gyda disgyblion ar ddiwrnod ei phriodas

Uchod: Parti Nadolig - 1950au
Diolch i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr am rannu eu harchif gyda ni.
Prosiect Hanes Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr

Ym mis Hydref 2024, dechreuodd prosiect i gasglu atgofion gan gyn-ddisgyblion a fynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, gyda’r nod o warchod hanes a threftadaeth yr ysgol. Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar gofnodi atgofion cynharaf yr ysgol gan y disgyblion oedd yno ar y dechrau ym 1949 a'r 1950au.
Cynhaliwyd sesiynau recordio grŵp yn Llyfrgell Aberdâr, yn ogystal â chyfweliadau unigol a gynhaliwyd wyneb yn wyneb ac ar-lein, ble rhannodd y cyn-ddisgyblion straeon ac atgofion o'u dyddiau ysgol cynnar. Mae clipiau o'r recordiadau hyn i'w gweld yn yr arddangosfa ar-lein hon. Hefyd, ymwelodd y cyn-ddisgyblion â safle gwreiddiol yr ysgol, sef Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr bellach, i weld sut roedd yr adeilad wedi newid, neu mewn rhai agweddau, wedi aros yr un fath, ac i siarad am eu hatgofion o’r ysgol gyda’i gilydd, a chyda disgyblion Blwyddyn 6 presennol Cwmdâr.
Yna, cynhaliwyd gweithdai yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, lle bu’r disgyblion presennol yn dehongli’r recordiadau sain drwy luniau lliwgar a gwreiddiol, ac yn rhannu eu hatgofion o’r ysgol gan gynnwys y gemau maen nhw’n chwarae, tripiau ysgol a’u ffrindiau.
Mae'r holl elfennau hyn yn rhan o ffilm gymunedol arbennig sy'n dathlu 75 mlynedd o YGG Aberdâr. Yn y ffilm, mae atgofion byw'r cyn-ddisgyblion wedi’u cyfuno â lluniau o archif yr ysgol a’r gwaith celf gan y ddisgyblion presennol. Mae'r ffilm a lluniau'r prosiect i'w gweld isod.

Uchod: Yn hel atgofion yn Llyfrgell Aberdâr
O'r chwith i'r dde: David Leslie Davies, Wyn Rees, Mair Lewis, Gwyn Hughes Jones a Cliff Hewitt.


O'r chwith i'r dde: Hywel Davies, Menna Cravos, Ewan Thomas ac Anne Hughes. Sam Vaughan a Julie Gibbs, gwirfoddolwyr y prosiect, sy'n recordio'r sgwrs.


Yr ymweliad i Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr - 2 Rhagfyr 2024




Y cyn-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr
Y rhes gefn o'r chwith: John Davies, Gwyn Morgan, Wyn Rees, Gwynfor Davies, Ewan Thomas, Wynford Williams, Gwyn Hughes Jones a Cliff Hewitt.
Y rhes flaen o'r chwith: Pauline Jones (Cadeirydd y Llywodraethwyr), Paul Morgan (Pennaeth Gweithredol), Menna Cravos, Janet Bevan (née Davies), Mair Lewis (née Howells) ac Anne Hughes (née Roderick).

Y cyn-ddisgyblion yn ateb cwestiynau disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr


Disgyblion YGG Aberdâr yn dysgu sgiliau ffilmio gyda Hugh Griffiths o Lilypad Films

Uchod ac isod: Disgyblion YGG Aberdâr yn recordio eu hatgofion o'r ysgol

'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o YGG Aberdâr