Tonypandy

Stryd Dunraven c.1920

Yn ei waith ‘The Rhondda Valleys', mae E. D. Lewis yn crynhoi hanes pandy, neu felin bannu, a roddodd ei enw i dref Tonypandy. Dyma'r disgrifiad ohono, ‘The woollen manufacturing and the pandy or fulling mill were situated on Nant Clydach, near the confluence of the Clydach brook and the River Rhondda Fawr at Tonypandy'.

Mae'n mynd ymlaen i adrodd hanes sefydlu'r pandy gan Harri David ym 1738, cyn i David Martin gymryd yr awenau yn ail hanner y ddeunawfed ganrif.

Prif orchwyl y pandy yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd cannu cynnyrch ffermydd yn ardal Tonypandy. Dirywiodd gwaith y pandy ar ôl i gwmni Taff Vale Railway gyrraedd Tonypandy gan ei gwneud hi'n haws i gludo tecstilau rhatach o ogledd Lloegr yno. Caeodd y pandy maes o law, ac ym 1914 bu ymgais aflwyddiannus i symud yr olwyn a'r ffrâm wehyddu i'r Amgueddfa Genedlaethol.

Mae map degwm 1847 yn dangos nifer o fythynnod a siop yn ogystal â'r ffermydd gwasgaredig arferol, sy'n profi pwysigrwydd y pandy fel canolfan i'r ffermwyr lleol. Agorwyd pyllau glo yr ardal, fel Nantgwyn ar y bryniau uwchben Tonypandy ym 1892, a Gellifaelog a agorwyd gan Walter Coffin ym 1845. Er hynny, datblygodd Tonypandy'n lle pwysig fel canolfan fasnachol a diwylliannol ar gyfer y pentrefi cyfagos.

Agorwyd llyfrgell gyhoeddus gyntaf Cwm Rhondda yn Nhonypandy, uwchben siop ddodrefn yn Dunraven Street, ac roedd theatrau fel yr Empire Theatre of Varieties a'r Theatre Royal yn ffynnu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Hefyd, roedd neuadd enfawr y Methodist Central Hall yn y dref yn adeilad sylweddol a thrawiadol am flynyddoedd. Neuadd y Wesleaid oedd hi'n wreiddiol pan y'i hadeiladwyd ym 1923 ar gost o £27,000, ac roedd yn cynnwys y brif neuadd â lle i 1,000, ynghyd ag ystafelloedd a neuadd lai â 500 o seddi.

Codwyd ysgol uwchradd y dref ym 1915 a ddaeth yn ysgol ramadeg wedyn, ynghyd ag Eglwys Babyddol ac ysgol elfennol, a phencadlys yr heddlu oedd yn cynnwys tri sarjant a deg o gwnstabliaid ym 1926.

Roedd ffownten a chafn dŵr ‘The Lady with the Lamp', fel yr oedd yn cael ei hadnabod ar lafar gwlad, yn harddu sgwâr Tonypandy am flynyddoedd. Codwyd y ffownten a'r cerflun ym 1909 gydag arian dros ben o gronfa cerflun coffa Archibald Hood, peiriannydd enwog o'r Alban a pherchennog gwaith glo lleol.

Mae Tonypandy fwyaf enwog am Derfysgoedd 1910, pan ddaeth heddlu Metropolitan Llundain a milwyr i Gwm Rhondda oherwydd y gwrthdaro yn sgil anghydfod Glofa'r Cambrian.

ANGHYDFOD GLOFA'R CAMBRIAN (TERFYSGOEDD TONYPANDY)

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, y Cambrian Combine oedd un o rymoedd mawr y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng grym y perchnogion glo (y cwmnïau glo cyfunol, neu'r ‘Combine’) a'r gweithwyr (sef aelodau Cyfrinfa Cambrian, Ffederasiwn Glowyr De Cymru), at yr anghydfod mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y De. Penllanw hyn oedd digwyddiad a ddaeth yn enwog ymhlith haneswyr fel ‘Terfysgoedd Tonypandy'.

Dechreuodd yr anghydfod ym mhwll glo Ely ym Mhenygraig, oedd yn eiddo i'r Naval Colliery Company, ac roedd yn ymwneud â phenderfyniad y rheolwyr i agor gwythïen newydd, y wythïen bum troedfedd neu wythïen Bute. Cyn agor gwythïen newydd, byddai rhan o'r wythïen yn cael ei chloddio am gyfnod prawf i weld faint o gynnyrch oedd yno, a phris yn cael ei bennu am bob tunnell i'r glowyr fyddai'n cloddio'r wythïen. Yn ystod cyfnod prawf yn y wythïen hon ym 1909, roedd y rheolwyr yn cyhuddo'r glowyr o weithio'n arafach na'r arfer er mwyn codi pris fesul tunnell y wythïen pan fyddai'n cael ei gweithio go iawn. Ymatebodd y glowyr drwy fynnu ei bod hi'n anodd iawn cloddio drwy'r wythïen arbennig, annormal, hon. Yn y diwedd, cynigiodd y rheolwyr 1s.9d y dunnell i lowyr y wythïen. Ond nid oedd hyn wrth fodd y glowyr, gan ddweud na fyddent yn gallu cloddio digon o lo i sicrhau digon o gyflog. Roedd y glowyr eisiau 2s.9d y dunnell.

Pwyllgor Caledi'r Clwb Democrataidd 1910

Nid oedd y naill ochr na'r llall am ildio, ac ar 1 Awst 1910, anfonodd perchnogion y lofa hysbysiadau ‘cloi allan' - nid yn unig at yr 80 o ddynion oedd wedi'u heffeithio gan helynt yr wythïen, ond at bob un o'r 800 o weithwyr yn y lofa. Dechreuodd hyn ar 1 Medi 1910. Ar 5 Medi, trodd gweithwyr eraill pyllau'r Naval allan i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr pwll glo Ely, ac ar 7 Medi, pleidleisiodd gweithwyr glofa'r Cambrian a'r Glamorgan i'w cefnogi wythnos yn ddiweddarach. Ar yr un pryd, ceisiodd William Abraham AS (Mabon) eu hannog i beidio â gwneud hyn, gan addo trefnu cynhadledd y meysydd glo i fynd i'r afael â'r anghydfod.

Dyma oedd argymhelliad Cyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar 16 Medi: 'to agree that the whole of the workmen employed at the Cambrian Combine be given permission to tender their notices upon the 1st of October next, to terminate their contracts and that a weekly levy be made upon all members of the Federation to provide necessary financial support'.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn Neuadd Cory y diwrnod canlynol, gyda thros 248 o swyddogion yn cynrychioli 147,000 o ddynion, a phenderfynwyd cynnal pleidlais ar y mater – a ddylid derbyn yr argymhellion hyn neu a ddylai holl aelodau'r Ffederasiwn fynd ar streic i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr y Cambrian. Cyflwynodd holl lowyr y Cambrian Combine eu bwriad i adael eu swyddi tra'r oedd ymdrechion funud olaf i geisio atal streic. Sicrhaodd Mabon gynnig uwch o 2s.1.3d y dunnell, ond gwrthodwyd hyn gan Gyfrinfa'r Cambrian. Ar yr un pryd, bu D.A. Thomas, pennaeth y Combine, mewn cyfarfod â Chymdeithas y Perchnogion Glo grymus yng Nghaerdydd, lle addawodd y perchnogion ddigolledu perchnogion y glofeydd oedd wedi'u heffeithio a pheidio byth â chyflogi glowyr ar streic yn unrhyw ran arall o'r meysydd glo.

Heddlu Bangor yng Nghwm Clydach 1910/11

Felly, gyda'r frwydr ar fin dechrau a'r naill ochr a'r llall yn styfnigo, dechreuodd y streic yn swyddogol ar 1 Tachwedd 1910. Aeth y perchnogion glo ati ar unwaith i drefnu gweithwyr newydd o'r tu allan i'r meysydd glo, a gofyn i Brif Gwnstabl Morgannwg, y Capten Lionel Arthur Lindsay, am fwy o heddlu i'w hamddiffyn. Derbyniwyd y cais, a daeth heddlu o Abertawe, Caerdydd, a Bryste i gadw'r heddwch. O safbwynt y glowyr, roedd Deddf Anghydfod Llafur 1906 yn rhoi hawl iddynt bicedu'n heddychlon, ac mewn cyfarfod ar 7 Tachwedd, dywedodd y glowyr eu bod am atal unrhyw swyddog o Mr Llewellyn i lawr rhag mynd i mewn i iard y lofa. O ystyried y gymysgedd beryglus o filoedd o streicwyr, y bygythiad o gludo glowyr o'r tu allan, mwy o heddlu yn y gymuned, a'r chwerwedd oedd yno eisoes yn sgil cau allan a'r streic, roedd helynt yn anorfod. Yn wir, hydref 1910 oedd un o'r cyfnodau mwyaf tanllyd a welodd y diwydiant glo hyd yn hyn - gyda streiciau eisoes ar waith yn rhannau eraill o'r meysydd glo, fel Aberdâr, ac erbyn mis Tachwedd roedd bron un o bob chwech o lowyr y De ar streic.

Sgwâr Tonypandy ar ôl terfysgoedd 1910

Penderfynodd y glowyr y dylai pawb oedd ar streic wrthdystio ger eu pyllau eu hunain am 5.00am, ar 7 Tachwedd. Yn fuan ar ôl 5.00am, roedd Noah Rees, ysgrifennydd Cyfrinfa'r Cambrian, W.H. Mainwaring, a thrwmpedwr yn cerdded hyd y strydoedd yn galw'r glowyr i weithredu. Dechreuodd y streicwyr ymgynnull ger mynedfeydd y pyllau ac ym mhob stryd a ffordd oedd yn arwain i'r pyllau, er mwyn atal rhai rhag mynd i weithio y diwrnod hwnnw.

By 10.30pm that evening, the one working pit of the Cambrian Combine, Llwynypia, was surrounded by striking miners, inside was Leonard Llewellyn, and around sixty officials and draughtsmen of the colliery keeping the machinery of the pit working and the mine free from water. Rumours outside had it that Llewellyn had imported stokers from Cardiff who were acting as 'blackleg' labour. In addition to the workers manning the colliery, the premises also contained Captain Lindsay and over one hundred policemen. This concentration of manpower at Glamorgan Colliery is a testament to the importance of the site to both sides of the dispute, containing as it did the electric generator and pumping station that kept the mines free from water. It was at this power station that the strikers had their first brush with the law, and the events that were subsequently known as the Tonypandy Riots really began. Although the crowd, by now numbering in the thousands on the most part listened to their leader, Will John, and his appeal for calm. A small percentage of the crowd lining the embankment above the power station began stoning the building below and some of the wooden fencing surrounding the colliery was pulled down. Serious disorder ensued with the police and strikers involved in hand-to-hand fighting, finally the police after repeated baton charges succeeded in driving the crowd away from the colliery site towards Tonypandy just after midnight. At Tonypandy square, between 1.00am and 2.00am, fifty constables from Cardiff used truncheons to further disperse the crowds that had subsequently gathered there.

At 1.00am on the morning of 8 November, Captain Lindsay, fearing the scale of the disorder and the possibility of losing control of the situation, telegraphed for army reinforcements. Tidworth barracks replied saying that contingents of cavalry and infantry would arrive at Tonypandy at 9.00am that morning. When they didn't arrive, he telegraphed Winston Churchill, the then Home Secretary and stated:

'All the Cambrian collieries menaced last night. The Llwynypia Colliery savagely attacked by large crowds of strikers causing many casualties on both sides. Am expecting two companies of infantry and 200 cavalry today.' Unbeknownst to him however, Churchill on finding out about the unapproved troop movements had already stopped the reinforcements at Swindon, fearing some said a repeat of the incidents of 'Bloody Sunday, when in 1887 at Trafalgar Square, troops with fixed bayonets faced rioters. He sent a telegram to Lindsay stating, 'infantry should not be used until all other methods have failed'. Instead of the military, he sent 70 mounted and 200 other constables of the Metropolitan Police Force as reinforcements to the authorities already in the area. Cavalry were also offered, to be sent into the district as a precautionary measure under the control of General MacReady. Lindsay, on hearing of the contingent of Metropolitan Police being sent to his aid, refused the use of the cavalry saying the police reinforcements should be sufficient, as such the cavalry were halted at Cardiff.

On Tuesday 8 November, the workmen on strike were paid-off by the companies of the Cambrian Combine and proceeded to the Tonypandy Athletic Ground for a mass meeting. The local stipendiary magistrate Lleufer Thomas spoke to the men and read out a message from the Home Secretary who maintained his intent to hold back the soldiers and send only police in to maintain the peace. The tone was conciliatory and was well received by the strikers, promising as it did to arrange meetings with the Board of Trade to resolve the dispute. The miners then formed an orderly procession and proceeded once again to the Glamorgan Colliery, arriving at about 4.00pm. Within the hour however, what was described as 'serious rioting' had once again occurred. Mounted police attempted to disperse the strikers and hand to hand combat between strikers and the police took place lasting over two hours. Finally, the police managed to split the strikers into separate groups, some being driven up the valley towards Llwynypia and others down the valley towards Tonypandy. Hundreds of police and rioters were left injured. It was what happened next that has gone down in history as the Tonypandy Riots. Strikers on being driven to Tonypandy proceeded to smash the shop windows of the town, and also those of a number of private dwellings. Contemporary reports state that of all the shopping district only two shops retained their windows and were not looted by the rioters, one a jewellers which had roller shutters, and the other a chemist owned by a former Welsh rugby international. The five constables on duty in Tonypandy at the time, together with a dozen reinforcements from the Colliery, finally managed to clear the streets. Due to the seriousness of this continued rioting, Churchill telegrammed General MacReady stating, 'As the situation appears to have become more serious you should if the Chief Constable or Local Authority desire it move all the cavalry into the district without delay'.

Churchill also spoke to Lindsay and MacReady and agreed to send another contingent of 200 Metropolitan policemen leaving London on Wednesday 9 November at 3.00am. However, by the time that 150 police arrived at Tonypandy Square at 11.00pm on Tuesday 8 November, the disturbances were over. Although no authentic record exists of casualties of these disturbances, as many of the miners would have refused treatment in fear of being prosecuted for their part in the riots, nearly 80 policemen were injured and over 500 other persons, one Samuel Rhys later dying of his injuries.

Controversy has dogged the history of the Tonypandy Riots with many on the miners’ side blaming the press, who were seen as being sympathetic to the owners’ cause, for exaggerating the extent and numbers involved. Indeed, Keir Hardy in a parliamentary debate following the riots claimed that the 'window smashing' was the work of less than a hundred, of the thousands of striking miners. He also ascertained that had the police not all been guarding the mine owners' property the disturbance would very quickly have been stamped out.

In the days that followed the riot, local shopkeepers took to closing early in case of a repetition of the troubles of that night, and troops in the shape of the 18th Hussars arrived to take up station at the Llwynypia Colliery. Despite the numbers involved, only thirteen miners from Gilfach Goch were prosecuted for their part in the events of the 7th and 8th of November 1910. Their trial was held on 14 December, for 'intimidating a colliery official,' at Pontypridd. Fearing a repeat of the rioting, the authorities had reinforced the town with 400 policemen, two troops of infantry and a squadron of the 18th Hussars. For the six days of the trial up to 10,000 men, including drum and fife bands, marched in procession from the Valley to Pontypridd in support of their colleagues in the dock. Being prevented from entering the town they held mass meetings at the Rocking stone on the Common. On the final day of the trial only 600 men marched to Pontypridd for the verdicts and sentencing. Many staying away to avoid the possibility of being caught up in mass rioting and fighting with the authorities. Of the accused, some were sent to Cardiff Prison via a special train for periods ranging from two to six weeks, whilst the others were either fined or discharged.

Although this marked the end of the 'Tonypandy Riots' sporadic violent skirmishes erupted throughout the remaining period of the strike. Thus, in April 1911, The Rhondda Leader reported 'Blaenclydach Terror' and relates a number of incidents of strikers intimidating 'blacklegs', stoning the police, and the looting of a number of shops as well as the burning down of a local slaughterhouse. The strike finally ended in August 1911, with the workers forced to accept the 2s.1.3d. negotiated by William Abraham MP prior to the strike beginning. The workers returned to work on the first Monday in September. This has been only a brief outline of the events surrounding what has become known as 'The Tonypandy Riots', for a more detailed description of these events, recommended reading is 'The Tonypandy Riots' by G. Evans and D. Maddox, and 'South Wales Miners, A History of the South Wales Miners’ Dederation 1898-1914' by R. Page Arnot.

NEUADD GANOLOG Y METHODISTIAID, TONYPANDY

Neuadd Ganolog y Methodistiaid oedd y prif adeilad mwyaf amlwg yn rhan Tonypandy am dros 60 mlynedd, o'i hagoriad ym 1923 tan iddi gael ei dymchwel ym 1985. Nod y neuaddau hyn oedd bod yn ganolfannau cymdeithasol ac addysgol i'w cymunedau yn ogystal â diwallu anghenion ysbrydol y boblogaeth.

Hon oedd neuadd brydferthaf Cymru yn ôl y Glamorgan Free Press a'r Rhondda Leader pan agorwyd y neuadd newydd ddydd Gwener 29 Mehefin 1923. Mae'r erthyglau papur newydd yn rhoi ychydig o hanes y neuadd inni. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Mr Arthur Brocklehurst, a'i hadeiladu gan y Laing a'i Feibion, ar gost o £30,000, a chafodd ei hagor yn swyddogol gan y Fonesig Nicholas o'r Garth, Trealaw, yng nghwmni ei gŵr, Syr Walter Nicholas. Daeth cymaint o bobl i'r agoriad swyddogol fel y bu rhaid stopio'r traffig ar y ffyrdd am y tro.

Ar ôl i'r Parchedig J.E. Wakerley, Llywydd y Wesleaid, arwain y gwasanaeth cysegru, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym mhrif neuadd yr adeilad dan law Mr Joseph Rank o Hull, a gyfrannodd £10,000 i gronfa'r adeilad.

Roedd yr achos Methodistiaid wedi hen ennill ei blwyf yn yr ardal cyn agor y Neuadd Ganolog. Dechreuodd yr achos yn y ‘Siop Fawr' ym mhentref Dinas cyn symud i Ben-y-graig, lle cynhaliwyd gwasanaethau a'r Ysgol Sul yn un o ystafelloedd gwesty'r White Hart. Yna, prynwyd darn o dir fferm Gellifaelog, Tonypandy, ym 1866 er mwyn adeiladu'r capel cyntaf. Ond gyda dim ond lle i 80 o addolwyr, roedd y capel yn rhy fach o lawer i anghenion y Methodistiaid lleol. Felly, codwyd capel mwy o faint ar y safle ym 1873, ychwanegwyd estyniad ym 1899, a chodwyd oriel newydd ym 1910. Cafodd y capel hwn ei ddymchwel ym 1922 i wneud lle i'r Neuadd Ganolog newydd, a gymerodd flwyddyn i'w hadeiladu. Wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, cynhaliodd yr addolwyr wasanaethau yn Judges Hall a festrïoedd Capel Seion a Chapel Ebenezer, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddi yn ystafell ffrynt tŷ'r gofalwr hefyd.

Neuadd Ganolog y Wesleaid oedd enw gwreiddiol yr adeilad newydd sbon, gyda neuadd fawr â lle i 1,000 o bobl, llwyfan y côr a allai ddal 100 o gantorion, a neuadd llai arall, â lle i 400 o bobl. Roedd yno ‘adran gynradd' hefyd â lle i 150 o blant, a phump neu chwe ystafell ddosbarth, ynghyd ag ystafell gemau gyda dau fwrdd biliards, llyfrgell, a lle i ddarllen ac ysgrifennu.

Fel y nodwyd mewn llyfryn i ddathlu pen-blwydd y Neuadd yn 25 oed, roedd y Neuadd, dan arweiniad y Parchedig R.J. Barker a'r Parchedig C.E. Gwyther wedyn, megis goleuni yn y tywyllwch yn ystod blynyddoedd llwm y dirwasgiad yn y cymoedd. Bu'n achubiaeth i'r di-waith, gyda gweithdai gwaith coed a chynhyrchu esgidiau, ystafelloedd darllen, gwasg argraffu a thafarn laeth. Cynhyrchwyd miloedd o deganau i'w dosbarthu i blant lleol, dosbarthwyd dillad, a gwerthwyd ‘prydau dwy geiniog' yn y ffreutur. Roedd y Neuadd hefyd yn lle pwysig fel canolfan seibiant i faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Fel llawer o gapeli'r cymoedd, dirywio fu hanes y Neuadd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyda'r gynulleidfa'n prinhau, fe'i gorfodwyd i gau ym 1980. Yn ôl y Rhondda Leader ar ddydd Gwener 6 Mehefin 1980, canwyd yr emyn olaf yn y Neuadd Ganolog a chaeodd un arall o gapeli Cwm Rhondda. Yn ôl llefarydd y Neuadd, roedd yn rhan hynod ddylanwadol o'r gymuned hyd at ddeng mlynedd yn ôl, cyn i ddirywiad y diwydiant glo a'r diffyg diddordeb mewn crefydd arwain at lai o gynulleidfa. Ymunodd 80 o ffyddloniaid y Neuadd Fawr â chapeli Methodistaidd eraill y cylch, a daeth Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Mr George Thomas (Iarll Tonypandy yn ddiweddarach) i'r gwasanaeth olaf. Ar ôl sefyll yn wag a chael ei fandaleiddio am flynyddoedd, cafodd y Neuadd Fawr ei dymchwel ym 1985 er mwyn gwneud lle i archfarchnad newydd.