Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd poblogaeth Tonyrefail wedi cynyddu i dros 2,200 yn ôl cyfrifiad 1901, a thua 500 yn gweithio yn y pyllau glo. Er i rai o byllau glo dwfn y pentref gau yn ystod degawd cynta'r ugeinfed ganrif, cynyddodd nifer y glowyr yn sgil agor Glofa Coed-Ely ym 1901. Roedd y lofa hon rhyw ddwy filltir i'r de o'r pentref, ac roedd 1,700 o lowyr yn gweithio yno erbyn 1919. Dyma un o lofeydd mwya'r ardal ar y pryd, ac roedd yn cynnwys ffyrnau golosg a gwaith isgynnyrch cyflawn. Yn naturiol, parhaodd Tonyrefail i ehangu yn ystod y degawd cyntaf wrth i strydoedd newydd fel Pretoria Road, The Avenue, a Prichard Street ymddangos. Roedd hwn yn gyfnod o foderneiddio a datblygu busnesau newydd hefyd. Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906 yn rhestru busnesau fel ‘Tonyrefail & Gilfach Goch Electric Light Co. Lim.', oedd yn gyfrifol am osod ceblau trydan, a Richard Lewis, rheolwr o gangen Banc Lloyd. Agorodd atyniad hamdden cyffrous uwchben Sgwâr y pentref ym 1914, sef sinema (Picture Theatre) ac mae i'w weld ar drydydd rhifyn map Ordnans a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn.