Roedd Prydain 1926 yng nghanol argyfwng diwydiannol, a bu galw am Streic Gyffredinol o blaid y glowyr ym mis Mai. Gohiriwyd y streic naw diwrnod yn ddiweddarach, ond parhaodd miloedd o lowyr i streicio yn erbyn cyflogau is. Trafodwyd y sefyllfa yng nghyfarfod Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr) ym Manceinion y flwyddyn honno, a phenderfynwyd anfon cynrychiolwyr i'r ardaloedd glo. Gorchwyl y cynrychiolwyr oedd casglu gwybodaeth o lygad y ffynnon am gyflwr yr ardaloedd hyn, a nodi anghenion y bobl mewn argyfwng. Roedd Emma Noble, un o aelodau'r Gymdeithas, yn y cyfarfod, a phenderfynodd fynd i Gwm Rhondda.

Cyrhaeddodd Donypandy ym 1926, ac ar ôl cael llety mewn ty glöwr yn y dref, penderfynodd aros am 3 wythnos i asesu'r sefyllfa yn yr ardal. Daeth yn gyfeillgar â gwragedd y glowyr, gan drafod y problemau o fyw mewn ardal ag un diwydiant mawr lle'r oedd bron pawb yn ddi-waith. Ar ôl treulio wythnos yn yr ardal, roedd hi'n argyhoeddedig fod angen cymorth materol a chydymdeimlad cariadus ar y bobl hyn. Egwyddor sylfaenol Emma a'r gwirfoddolwyr eraill a ddaeth i Gwm Rhondda oedd mai ‘hunangymorth yw'r cymorth gorau'. Sylweddolodd Emma fod angen dillad ar fenywod, plant, a phobl ifanc yr ardal, ac felly sefydlwyd Clybiau Gwnïo i Fenywod. Roedd y grwpiau hyn yn trwsio, darnio ac ail-wnïo sypiau mawr o ddillad wedi'u hanfon gan Bencadlys Cymdeithas y Cyfeillion yn Llundain a chan gymwynaswyr ledled Prydain. Yn sgil hyn, ymunodd y glowyr di-waith â ‘chlybiau trwsio esgidiau', gyda llawer ohonynt yn gysylltiedig ag ysgolion lleol. Cyflenwyd lledr ac offer drwy Gymdeithas y Cyfeillion a'r Bwrdd Gwarcheidwaid lleol, ac roedd glowyr di-waith yn treulio oriau maith yn trwsio esgidiau plant - tua 82,000 o barau i gyd.