Fel llawer o bentrefi glofaol y cyfnod, roedd gan Drehafod ei heglwys ei hun, Eglwys Sant Barnabas (Cenhadfa Bryn Eirw yn wreiddiol), a llu o gapeli gan gynnwys Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Capel Calfinaidd, Capel y Wesleaid, a Chapel Cymraeg yr Annibynwyr. Roedd Trehafod yn dref siopa digon bywiog, a chyda tref ffyniannus Pontypridd gerllaw, roedd digon o gyfleusterau diwylliannol, addysgol, crefyddol ac ati i blesio'r trigolion lleol. Ym mis Gorffennaf 1889, daeth Trehafod yn derfynfa ar gyfer lein reilffordd newydd cwmni ‘Barry Railway and Docks' rhwng Cwm Rhondda â Dociau'r Barri, fel rhan o ymgais perchnogion glo'r Rhondda i gystadlu yn erbyn monopoli cwmni Taff Vale Railway a dociau Bute Caerdydd wrth allforio glo i bedwar ban byd.