Treorci

Mae pentref Treorci wedi'i enwi ar ôl nant sy'n llifo o'r mynydd uwchben y pentref cyn ymuno â'r afon Rhondda. Mae map Ordnans 1875 yn cyfeirio at y nant hon fel ‘Nant Orky', ac mae'r pentref wedi'i sillafu fel ‘Treorky'. Mae'r hen enw Cymraeg ‘Gorchwy' yn awgrymu nant ar y ffin. Cyn dyddiau diwydiant, mae mapiau degwm yn dangos ardal brin ei phoblogaeth o ffermydd gwasgaredig, fel Abergorchwy, Tyle-du, a Glyn Coli. Dolydd, porfeydd a choetiroedd oedd yma'n bennaf, gyda ffermwyr-denantiaid yn cynnwys Walter Edwards, Llewellyn Lewis a Mary Evans. Roedd rhan fwyaf o diroedd Cwm Rhondda yn eiddo i bendefigion Morgannwg ar y pryd, a'r rhan fwyaf o Dreorci yn rhan o Ystâd Marcwis Bute.

Golygfa Gyffredinol o Dreorci Isaf

Er hynny, dechreuodd natur yr ardal newid yn y 1850au wrth i wyr busnes fentro ar wythiennau glo pen uchaf Cwm Rhondda. Dechreuodd y broses hon ym 1855 gydag agor Glofa Tylacoch, yna lefelau Abergorchy (1859), a Glyncoli (1860), a Glofa Abergorchy ym 1865. Ar ôl i lofeydd ‘Parc' a'r ‘Dare' agor ym mhentref cyfagos Cwm-parc, datblygodd Treorci'n ddirfawr wrth i filoedd o fewnfudwyr lifo i'r ardal i chwilio am waith.

Adeiladwyd cannoedd o dai newydd i ateb y galw, ynghyd â chapeli, siopau a thafarndai. Erbyn y 1900au, roedd Treorci yn ganolfan siopa a chymdeithasol o bwys yng Nghwm Rhondda. Roedd Treorci'n enwog fel canolbwynt y bywyd diwylliannol o'r dyddiau cynnar hefyd, ac mae'n gartref i Gôr Meibion Treorci byd-enwog hyd heddiw, yn ogystal â Theatr y Parc a'r Dâr sy'n llwyfannu nifer o ddramâu, sioeau cerdd ac operâu gan berfformwyr amatur y cylch yn ogystal â rhai proffesiynol o bedwar ban byd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref ym 1928 – yr unig dro iddi ymweld â Chwm Rhondda.

Roedd Treorci mewn sefyllfa tipyn iachach na llawer o bentrefi eraill Cwm Rhondda yn sgil tranc y diwydiant glo yn yr ugeinfed ganrif. Roedd sawl diwydiant arall yn Nhreorci ar y pryd, gan gynnwys ffatrïoedd cwmnïau fel Polikoff (cynhyrchwyr dillad), y cwmni corfforaethol mawr EMI, a ffatri cynhyrchu dur T.C. Jones (rhan o'r 600 Group). Felly, llwyddodd Treorci i osgoi'r cyni a'r tlodi mawr a welwyd mewn pentrefi eraill ar ôl i'r pyllau glo gau.

Treorci Uchaf

NEUADD Y GWEITHWYR A THEATR Y PARC A'R DÂR

Agorodd yr adeilad mawreddog hwn ym mis Mawrth 1895, am £4,000, fel Llyfrgell a Sefydliad y Gweithwyr yn wreiddiol. Fe'i hadeiladwyd gyda chymorth ariannol gweithwyr y glofeydd lleol ‘The Parc' a ‘The Dare', trwy gyfrwng Cymdeithas y Glowyr. Roedd y glowyr yn cyfrannu ceiniog o bob punt o'u cyflog tuag at adeiladu a chynnal a chadw'r adeilad - sy'n dipyn o aberth o gofio mai dim ond llai na £2 yr wythnos ar gyfartaledd oedd eu cyflog.

Ym 1913, ehangwyd yr adeilad gwreiddiol i gynnwys Theatr y Parc a'r Dâr, a gynlluniwyd gan y pensaer o Ferthyr Tudful, Jacob Rees. Y bwriad gwreiddiol oedd cael canolfan theatr gerdd o fri. Ond erbyn cwblhau'r gwaith adeiladu, roedd hi'n amlwg bod oes aur y theatr gerdd ar ben, a phenderfynodd y pwyllgor rheoli mai ‘lluniau symudol' oedd y dyfodol. Felly, agorwyd Theatr y Parc a'r Dâr fel sinema i ddechrau yn ogystal â llwyfannu perfformiadau byw gan gwmnïau drama lleol, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y theatr yn rhan hollbwysig o fywyd diwylliannol y gymuned leol.

Cafodd streic gyffredinol 1926 effaith ddifrifol ar Theatr y Parc a'r Dâr. Nid oedd gan y glowyr unrhyw incwm i gefnogi'r neuadd, ac roedd cael bwyd ar y bwrdd yn bwysicach na diwylliant ac adloniant. Felly, roedd perygl i'r neuadd fynd i'r wal a chafodd y glowyr eu gorfodi i werthu 99% o'u cyfranddaliadau i'r Ocean Coal Company.

Ym 1930, dangoswyd y ffilm lafar gyntaf, ‘Broadway Melody' yn y Theatr, a thyrrodd pobl o bell ac agos i weld y rhyfeddod newydd hwn.

Ar ôl gwladoli, aeth Cyfrinfa'r Parc a'r Dâr Undeb Cenedlaethol y Glowyr ati i ail-brynu'r neuadd am £35,000. Ond gyda phoblogrwydd y teledu a dirywiad y diwydiant glo, fe aeth Theatr y Parc a'r Dâr trwy gyfnod anodd iawn ac roedd mewn perygl o gau. Er hynny, cyflwynodd y rheolwyr y neuadd i'r awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref y Rhondda, ym 1975. Ers hynny, mae'r awdurdod lleol wedi gwario llawer o arian ar droi'r lle yn sinema, theatr a neuadd gyngerdd ffyniannus, gan sicrhau bod Theatr y Parc a'r Dâr yn rhan anhepgor o fywyd diwylliannol y cymoedd.