Mae papur newydd y Rhondda Chronicle yn disgrifio sut y daeth Cwm Rhondda yn ganolbwynt tristwch a thrychineb unwaith eto, ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r danchwa ddiwethaf mewn pwll glo yn yr ardal. Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio, ‘the Angel of Death had been at his dread task mowing down the colliers who were finishing their nights work in the Tylorstown colliery'. Mae'r adroddiad yn sôn am y miloedd o bobl o ardal Merthyr Tudful, Aberdâr a Chwm Rhondda oedd ar bigau'r drain wrth ben y pwll, yn disgwyl am newyddion am y glowyr druan yn nyfnderoedd y ddaear. Mae'r papur newydd hefyd yn disgrifio'r angladdau niferus a'r holl bobl a ddaeth i dalu teyrnged ym mynwentydd y cylch (Mynwent Llethr-ddu, Mynwent y Maerdy a mynwent Eglwys Llanwynno) a'r cyrff a gludwyd ar drenau i'w claddu yn Aberystwyth, Sanclêr, Cheltenham a'r Trallwng.
Tua 5.30 y bore y bu'r danchwa yn Tylorstown, pan oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr shifft nos yn cyrraedd y brig ar ôl gorffen eu gwaith, a chyn i'r gweithwyr shifft dydd fynd o dan y ddaear. Felly, byddai llawer mwy na 57 o weithwyr wedi'u lladd pe bai'r ffrwydrad wedi digwydd yn ystod y shifft lawn pan fyddai dros 300 o weithwyr o dan y ddaear.
Cynhaliwyd cwest i'r danchwa rhwng 18 a 25 Chwefror, a dyma ddyfarniad y rheithgor, ‘…the cause of the explosion was the firing of a shot in gas in Daniel Williams’ stall in No.8 pit and that the air passing through the faces was charged with gas… and the explosion was accelerated by coal dust. Also that no one now living was responsible for the explosion'.
Ysgrifennodd Robert Woodfall a J.T. Robson, Arolygwyr pyllau glo ardal De Cymru, adroddiad am y ffrwydrad. Roeddynt yn disgrifio'r pwll, a oedd yn eiddo i D. Davies and Sons Ltd. (rhan o'r Ferndale Coal Company), fel un sych a llychlyd, gan feirniadu effeithiolrwydd dyfrio'r pwll. Disgrifiwyd y pwll fel lle ‘tanllyd' a bod angen polisi lampau ar glo heb unrhyw fflam agored heblaw yn y sied lampau, ac na chaniatawyd unrhyw danio yn ystod shifft. Er bod cryn dipyn o nwy yn y pyllau, ni adawyd i nwy grynhoi yno. Mewn gwirionedd, cafodd nwy ei ganfod a'i wasgaru yn ffas lo Daniel Williams, lle y credir i'r ffrwydrad ddechrau, mor ddiweddar â 10 Ionawr. Wrth grynhoi, dywedodd yr Arolygwyr mai taniwr esgeulus a daniodd ergyd yn ffas lo Daniel Williams a achosodd y danchwa, ac y dylai fod yn gwybod fod nwy yn y ffas lo a'r cyffiniau.