Roedd y gamlas yn creu gwaith i gychwyr, ceidwaid lociau a seiri coed. Roedd rhai'n gweithio yng nglofeydd bychain y fro fel Glofa Groes-wen neu Lofa Maes-mawr ar ochr arall afon Taf, eraill yn gweithio yn ffowndri haearn Melin-gorwg, neu yn y felin flawd neu ar ffermydd. Roedd y rhan fwyaf o'r pentrefwyr yn byw mewn tai teras o boptu heol Caerdydd, sef Williams Place yn ddiweddarach. Ac yng nghanol y tai teras dwyreiniol, roedd Capel Carmel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg a adeiladwyd ym 1839.