Yn y diwedd, lladdwyd 39 o fechgyn a dynion a chafodd chwech arall eu hanafu'n ddifrifol. Dyma ddyfarniad y rheithgor mewn cwest ym mis Mawrth wedi'r trychineb;
‘That an explosion of gas occurred at the National Colliery, in the parish of Llanwonno at 6.40p.m. on February 18th 1887, whereby Gareth Griffiths and others lost their lives, and they cannot in consequence of the lack of evidence find out the cause of the explosion or where it started'. Er hynny, roedd y rheithgor yn gwbl unfrydol bod rheolwyr y lofa wedi bod braidd yn esgeulus, ac nad oeddynt mor ofalus â'r hyn oedd yn ofynnol yn yr achos hwn. Mae adroddiad yr Ysgrifennydd Cartref, F.A. Bosanquet yn sôn yn fwy penodol am achos y danchwa. Ynddo, mae'n nodi union leoliad a tharddiad y danchwa yn ei farn ef. Mae'n disgrifio'r lofa fel lle sych a llychlyd, yn nodweddiadol o byllau Cwm Rhondda, gyda ffrwydriadau cyson o losgnwy. Digwyddodd y danchwa ei hun yn rhan ogleddol y pwll, lle na ddaeth neb allan yn fyw.
Mae'n canmol perchnogion y pwll am osod yr offer diogelwch gorau oedd ar gael ar y pryd. Roedd dwy wyntyll neu ffan ar gyfer awyru'r pwll (un ychwanegol ar gyfer unrhyw argyfwng), roedd y lampau diogelwch yn rhai gwych a drud, a defnyddiwyd cetris dŵr i danio.
Er hynny, mae'n feirniadol o reolwyr y pwll ar nifer o bethau, yn enwedig diffyg ffordd effeithiol o ddyfrio'r pwll a chael gwared ar yr holl lwch oedd yno. Mae hefyd yn beirniadu'r ffaith nad oedd y defnydd o lampau a ffrwydron yn y pwll yn cael ei fonitro'n iawn. Roedd yn credu mai ergyd a daniwyd yn rhan Cwm Nedd o'r pwll a achosodd y ffrwydrad, a bod glöwr o'r enw John Jones wedi dweud bod nwy gwaeth nag erioed yn ei ffas lo ar ddiwrnod y danchwa. Felly, roedd digon o nwy wedi crynhoi i greu ‘cap' yn y lamp ddiogelwch rhyw 33 llath i ffwrdd o gyffordd llwybr y ffas lo â hedin Rhisga. Credai mai dyma'r lle y cafodd ergyd ei danio adeg y danchwa. Yn ei adroddiad, roedd Mr Bosanquet yn credu bod tanio'r ergyd adeg y shifft ‘wyth awr' yn torri Deddfau Rheoliadau Pyllau Glo 1872, ac felly, roedd yn argymell dwyn achos yn erbyn Mr Watts yr asiant a Mr Williams y rheolwr am dorri'r rheolau hyn.