Bu farw'r plentyn yn sydyn ar 10 Ionawr 1884, a chludodd Price y corff i fryn Caerlan a'i amlosgi mewn casgennaid o baraffin. Roedd 'y weithred gableddus greulon yma' wedi arwain at derfysgoedd yn y dref, a gwnaeth torfeydd o bobl wedi'u harwain gan ddiaconiaid y capel, dynnu'r corff allan o'r fflamau ac arestio'r 'cablwr'. Bu cryn ddiddordeb yn yr achos llys a wnaeth ddilyn, nid yn unig yn Lloegr, ond dros y byd i gyd.
Fis Mawrth, amddiffynnodd Dr Price ei hun yn athrylithgar yn Llys y Goron Caerdydd yn ystod ei achos dros amlosgi corff ei fab, yn ddyn sioe nodweddiadol yn chwarae'r galeri lawn, gan ddweud ar goedd 'dyw hi ddim yn iawn bod corff yn cael ei adael i bydru ac i fadru fel hyn. Y canlyniad yw gwastraffu tir da, llygru'r ddaear, dwr ac aer, ac mae'n berygl parhaus i bob creadur byw.' Ar ôl y gwrandawiad, gadawodd yr Ustus Stephens, i Dr Price i fynd â'i draed yn rhydd, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Deddf Amlosgi 1902.