Ynys-hir

Fel llawer o bentrefi Cwm Rhondda, mae Ynys-hir wedi'i henwi ar ôl fferm leol oedd yno cyn dyfodiad diwydiant. Mae modd dehongli'r enw fel 'dolydd glan yr afon hir'. Ceir cyfeiriad at bentref glofaol bach yn Ynys-hir mor gynnar â'r 1840au. Roedd safle Ynys-hir yn arbennig o ddeniadol i fentrwyr cloddio. Gyda'r pentref brin filltir o'r Porth, roedd cludiant yn haws ac roedd ei dolydd eang yn dipyn o fendith o gymharu â llawer o gwm cul Rhondda Fawr.

Ym 1845 y dechreuodd y diwydiant glo go iawn yn Ynys-hir, ar ôl agor pwll glo'r Meistri Shepherd ac Evans, Ynyshir Coal Company. Prynwyd ac ehangwyd y pwll hwn maes o law gan Francis Crawshay ym 1856, er mwyn cyflenwi glo i Waith Haearn Crawshay yn Nhrefforest. Dechreuwyd cloddio glo ager yn y cylch ar ôl i James Thomas, prif bartner Troedyrhiw Colliery Company, brydlesu hawliau mwynol ar ddarn o dir yn Ynys-hir. Agorodd Glofeydd Standard ar y safle – pwll rhif un ym 1875, a phwll rhif dau yn y flwyddyn ganlynol. Darganfuwyd gwythïen lo 4 troedfedd y Rhondda yn y pyllau hyn, y naill ym 1877 a'r llall ym 1878.

Glofa Lady Lewis c.1900

Roedd glo Ynys-hir yn arbennig o boblogaidd gan y Morlys a'r marchnadoedd allforio hynod broffidiol, yn enwedig Ffrainc. Ym 1914, unodd cwmni Standard gyda'r United National Collieries Limited. Ym 1904, agorwyd Glofa Lady Lewis gan Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited, a'i chysylltu dan ddaear â phyllau eraill y cwmni, Glofeydd yr Hafod, ymhellach i lawr y cwm.

Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906 yn cyfeirio at Ynys-hir fel tref ar lan afon Rhondda Fach, gyda gorsaf ar gangen y Rhondda Fach o gwmni rheilffordd Caerdydd, Pontypridd a Merthyr. Ym 1849, y daeth cwmni rheilffordd Taff Vale i Ynys-hir ac agor gorsaf yno. Ym 1926, roedd yno eglwys y plwyf (Santes Anne, a godwyd ym 1880) ynghyd â nifer o gapeli gan gynnwys: Capel i'r Methodistiaid Wesleaidd (Cymraeg a Saesneg), Capel y Bedyddwyr Saesneg a adeiladwyd ym 1885 â lle i 350 o bobl, Capel y Bedyddwyr Cymraeg (1884) â lle i 800 o bobl, a Chapel yr Annibynwyr Cymraeg (1885) â lle i 800 o bobl.

Glofa Jones c.1905

Sefydliad Ynys-hir c.1910

Fel llawer o bentrefi glofaol y cyfnod, sefydliad y glowyr oedd canolbwynt bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol Ynys-hir. Agorodd Ynyshir Standard Colliery Workmen's Hall and Institute ym 1905 ar gost o £8,000. Roedd y Sefydliad yn cynnwys neuadd â lle i 1,500 o bobl, llyfrgell ac ystafell ddarllen, pwyllgor darllen, dau fwrdd biliards a champfa. Rhestrir enwau prif berchnogion tir yr ardal ar y pryd, sef yr Arglwydd Colum, E. Crichton-Stuart, y Cyrnol John Picton Turbevill, Priordy Ewenni, Iarll Plymouth, Theophilus R. Hamlen-Williams ac ymddiriedolwyr Ystad Bailey.

Roedd dwy ysgol elfennol yn y cylch hefyd. Adeiladwyd ysgol y bechgyn ym 1882 a'i hailwampio ym 1905, a chodwyd ysgol y merched a'r babanod ym 1903 ar gost o £13,500.