Amcanion y clwb oedd codi arian trwy dâl mynediad, tâl aelodaeth, dirwyon, rhoddion a llog ar gyfalaf, er mwyn helpu'r aelodau yn ystod salwch neu henaint, ac er mwyn sicrhau swm o arian i'w dalu ar ôl marwolaeth aelod neu wraig yr aelod. Ffermwyr, masnachwyr a chrefftwyr y fro oedd yr aelodau gwreiddiol yn Ystradyfodwg, cyn i gyfansoddiad y clwb newid ar ôl i'r pyllau glo gyrraedd yr ardal.Mae llyfryn a gyhoeddwyd ym 1886, ‘Rules of the Lily of the Valley Lodge', yn rhoi cipolwg diddorol ar hynt a helynt y Gyfrinfa yn Ystradyfodwg ar y pryd. Er mwyn ymuno â'r Gyfrinfa, byddai aelod presennol yn gorfod derbyn eich cais a'i gymeradwyo gan ddwy ran o dair o aelodau'r Gyfrinfa. Mae hefyd yn nodi, ‘No person afflicted with rupture or loss of sight or limb, or who (or his wife) is of unsound mind, or if he leads an intemperate or dissolute life, shall upon any pretence be admitted a member of this Lodge'. Doedd dim hawl i rai dan bymtheg oed neu dros 35 oed ymuno â'r Gyfrinfa ac eithrio fel aelodau anrhydeddus, ac ni allent hawlio cymorth ariannol gan y Gyfrinfa heblaw am gostau cynhebrwng. Roedd rheolau ymddygiad yr aelodau yn llym iawn o gymharu â safonau heddiw. Gallant wynebu hyd at bum swllt o ddirwy am beidio ag ufuddhau gorchymyn un o swyddogion y Gyfrinfa, a hyd at swllt o ddirwy i unrhyw aelod oedd yn trafod neu'n cyflwyno gwleidyddiaeth i'r Gyfrinfa. Roedd dirwyon hefyd am gamymddwyn neu ddefnyddio iaith anweddus, a gallai unrhyw aelod oedd wedi bod yn ymladd (heblaw amddiffyn ei hun) gael ei ddirwyo neu ei ddiarddel o'r Gyfrinfa. Os oedd rhywun yn methu gweithio oherwydd anafiadau yn sgil cwffio neu feddwi, yna ni fyddant yn gallu hawlio budd-daliadau gan y Gyfrinfa. Roedd y Gyfrinfa'n rhoi cymorth ariannol gwerthfawr iawn i'r aelodau yn eu henaint (70 oed a throsodd) ac ar ôl damwain, ond roedd pawb oedd yn cael nawdd meddygol o gronfa'r Gyfrinfa yn gorfod dilyn rheolau ymddygiad llym iawn. Dywed y Llyfr Rheolau, ‘No member on sick list shall do any kind of work (except give verbal orders, sign receipts etc.)’, ac os oeddynt yn mynd am dro er lles eu hiechyd, roedd rhaid iddynt adael nodyn yn eu cartref i ddweud ble roeddynt yn mynd. Roedd rhaid iddynt fod yn y tŷ erbyn 8 o'r gloch y nos rhwng 25 Medi a 25 Mawrth, neu erbyn 9 o'r gloch y nos yn y misoedd eraill. Os nad oeddynt yn cydymffurfio â hynny, gallent wynebu dirwyon cynyddol neu beidio â derbyn budd-daliadau am chwe mis am droseddu am y trydydd tro.