Archif Lluniau
Archif Lluniau
Croeso i Archif Lluniau Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Yma ceir mwy na 20,000 llun digidol o blith ein casgliadau hanes lleol. Mae yma ddelweddau o bobl wrth eu gwaith ac yn ymlacio; o adeiladau; lleoedd; ac achlysuron, mae'r rhain yn helpu i roi darlun o bob agwedd ar fywyd yn RhCT ers oddeutu 1880 hyd at heddiw.
Nodwch fod y rhan fwyaf o fanylion a disgrifiadau ffotograffau’r Archif ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydyn ni wrthi'n sicrhau bod yr holl fanylion a disgrifiadau yma ar gael yn Gymraeg. Yn y cyfamser, mae modd gwneud cais am gopi Cymraeg o gofnodion unigol.