Diwygio Delweddau
Prosiect Treftadaeth Nigeria
Yn ddiweddar, estynnodd Diwygio Delweddau wahoddiad at Grewyr Cynnwys y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid RhCT i weithio gyda’r gwneuthurwr ffilmiau, Hugh Griffiths, i gynnal cyfweliadau hanes llafar gydag aelodau o gymuned RhCT o Nigeria. Yn ystod y prosiect, datblygodd y bobl ifainc sgiliau cyfweld allweddol wrth ymchwilio i dreftadaeth a diwylliant amrywiol Nigeria.
Cynhaliodd y bobl ifainc y cyfweliadau yng Nghanolfan Calon Taf ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Roedd y cyfweliadau'n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau diddorol, o fywyd yng nghefn gwlad Nigeria, i ddillad, bwyd, cerddoriaeth, dathliadau a’r 'drwm siarad' traddodiadol.
Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau gwrando ar y cyfweliadau a dysgu am dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Nigeria.
Cynhaliwyd yr holl gyfweliadau gan Harry Davies, Khandi Jarvis a Kye Powell, gyda chymorth Hannah Buckmaster, Hugh Griffiths, Allyn Jones a Louisa Walters.