Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Ynglŷn â Phrosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Yn lleisiau’r bobl, stori syfrdanol Cwm a fu’n tanio’r byd.

Hanesion glowyr un-fraich, y blitz yng Nghwm-parc, sut i adeiladu gambo, sut gwnaethon nhw achub Theatr y Parc a’r Dâr, yr het a achubodd forwr, y fam-gu a frwydrodd am faddonau pen pwll, cyfeillgarwch dan ddaear, a gwartheg hudolus danddwr…

Mae’n fetropolis glofaol llawn cymeriad a lliw.

Angerdd a cherdd, arwyr chwaraeon, llyfrgelloedd a chorau heb eu hail, beiblau sy’n cuddio holl hanes teuluol, cŵn sy’n ehangu gorwelion y teulu, y croeso i ffoaduriaid, y creadur o 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a dyddiadur anghofiedig streic glowyr Canol y Rhondda…

Dyma ddathlu cymuned sydd wedi gweld dyddiau du a chaledi dybryd, ond sydd wedi byw trwy’r cyfan â’i hysbryd, ei hiwmor a’i dymuniad am chwarae teg heb bylu.

Y lle ar y blaned Mawrth wedi’i enwi ar ôl tref yn y Rhondda, yr athro o Dreorci a gododd Gwpan Rygbi'r Byd, Tom Jones a’i ddyled o bunt i siopwr lleol, crocodeil Ystrad, y gantores a briododd James Bond a’r canwr a syrthiodd mewn cariad â mynydd…

Mae hyn i gyd – a llawer mwy – wedi’i gasglu ac ar gael i chi yma. Mwynhewch!

Pori Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Mwy am Brosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae’r Prosiect yn ffrwyth grant sylweddol oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i Rhondda Radio, gorsaf radio gymunedol y Cwm.

Mae gan y Prosiect dair haenen ryng-gysylltiol:

  • Llwybr Treftadaeth yn ailgyfuno’r gymuned lofaol eiconig â’i gorffennol, llwybr wedi’i drefnu’n thematig gyda ‘Gorsafoedd Treftadaeth’ mewn lleoliadau hanesyddol ledled y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach
  • gweithdai adrodd straeon yn uwchsgilio gwirfoddolwyr i gydnabod a chofnodi tystiolaeth lafar yn ymwneud â hanes y Rhondda
  • a ‘gŵyl’ blwyddyn o hyd o Raglenni Treftadaeth gan Rhondda Radio i’w darlledu yn 2024, ac sydd ar gael ar-lein am byth.

Cynhaliwyd y gweithdai adrodd straeon, â chroeso i bawb, yng Nghlwb Rygbi Treorci yn hydref 2023. Bu gweithdai hefyd yn Ysgol Nantgwyn, Tonypandy; yng Ngholeg y Cymoedd; ac yn y Ffatri yn y Porth gydag aelodau o Radio Platfform, yr unig orsaf radio dan arweiniad pobl ifainc yng Nghymru. Bu’r cyfranogwyr yn recordio eu straeon – gan amla’ – ar eu ffonau symudol eu hunain. Ers hynny, mae Radio Rhondda wedi darlledu’r straeon ac maen nhw bellach ar gael yma.

Ymddiriedolaeth nid-er-elw yw Rhondda Radio gyda gwirfoddolwyr yn ei darparu. Mae’n darlledu gwasanaeth newyddion a gwybodaeth, adloniant a rhaglenni nodwedd drwy’r dydd ar y radio yn y Cwm a ledled y byd ar-lein.

Cyflwynwyd Prosiect Treftadaeth y Rhondda o dan gyfarwyddyd creadigol John Geraint, un o gynhyrchwyr rhaglenni dogfen mwyaf profiadol Cymru, ac awdur Up The Rhondda! a The Great Welsh Auntie Novel, dau lyfr am ei dreftadaeth yn y Rhondda.

Am ragor o wybodaeth am Rhondda Radio, eich gorsaf gymunedol: http://www.rhonddaradio.com/

Gallwch wrando ar benodau o Awr Treftadaeth y Rhondda ar alw yma: http://www.mixcloud.com/RhonddaRadio123