Arthur Horace Cowlin - Rhan 1

This item is active and ready to use
Arthur Horace Cowlin - Rhan 1

Manylion

Teitl
Arthur Horace Cowlin - Rhan 1

Trawsgrifiad

TRAWSGRIFIAD CRYNO A RHANNOL

Dyddiad geni: 17/06/1922, ganed yn Kingston St Mary, Gwlad yr Haf

Cafodd ei addysg gynnar yng Ngwlad yr Haf, roedd ei dad yn y Môr-filwyr Brenhinol. Ymddeolodd ar ôl 21 mlynedd ac ymuno â heddlu'r Môr-filwyr Brenhinol, wedi'i leoli yn y Morlys yn Devonport, yna symud i'r Alban, arfogaeth y Llynges Frenhinol, pan oedd Arthur yn 12 oed. Roedd ysgolion yr Alban ‘filltiroedd ar y blaen’ ac roedd yn anodd iawn i ddechrau, roedd ganddo lawer o waith dal i fyny. Cafodd ei fwlio, oherwydd ei acen wahanol ac oherwydd bod ganddo esgidiau. Doedd gan y rhan fwyaf o’r plant ddim gan ei fod yn bentref glofaol bychan y tu allan i Stirling. Roedden nhw’n eiddigeddus bod ei rieni’n cael eu talu’n well, yn well eu byd. Roedd dipyn o ddrwgdeimlad, ond roedd yn iawn, oherwydd, gydag amser, ‘fe wnaethon nhw fy nerbyn i’n llawn.’

Roedd yn un o bump. Bu farw Jack, yr hynaf, yn ystod y rhyfel, ar gludwr awyrennau, a gollwyd gyda'r holl griw yn ystod glaniadau Gogledd Affrica. Roedd ei frawd arall yn y llynges hefyd, ar yr Ark Royal.

05:00 SIARAD AM WAITH – Wedi gadael yr ysgol 1936 yn 14 oed, yn ‘ddigon ffodus i fod yn brentis’. Roedd llawer o ferched y felin yn teithio ar y trên, yn arfer tynnu coesau ef a’i ffrind, a oedd yn gymydog. Byddai'n ceisio cael cerbyd gwag i'w hosgoi. Roedd y merched yn gweithio mewn distyllfa wisgi. Roedden nhw tua 15/16 oed. Roedd yn ennill 12 swllt a chwe cheiniog yr wythnos, ac o hyn roedd chwe swllt ac wyth ceiniog yn mynd ar docyn trên. ‘Roeddwn i’n arfer cael un pecyn o 'Woodbines' yr wythnos.’ [CHWERTHIN].

06:30 Roedd yn rhaid iddo godi'n gynnar i weithio, am 5.30 i gael y trên, a chyrraedd adref tua 7pm, bum diwrnod yr wythnos.

Roedd yn byw yn y wlad, felly bywyd yn dawel - roedd yn arfer helpu ar fferm gyfagos, yn gwneud gwair.

07:00 Roedd wedi symud i Plymouth, dioddefodd y dref yn wael iawn yn ystod y rhyfel, ‘dinistrwyd fy stryd gyfan, cafodd ei bomio ym 1941.’ Gwnaeth y penderfyniad hwnnw iddo ymuno, yn 17 oed. ‘Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cael dial… ac es i fel criw awyr.’

Hyfforddwyd ef yn Blackpool. Roedd 75,000 o awyrenwyr yno bryd hynny, yn hyfforddi, ond dim ond yn hyfforddi'n rhan amser oherwydd roedden nhw'n ceisio rhoi cymaint o bobl drwodd ar frys.

‘Roeddwn i’n gadét awyr pan oeddwn i’n ifanc a chawsom ni nifer o anturiaethau bryd hynny.’

09:00 Doedd ddim yn ffansïo ymuno â'r llynges fel ei dad, dywedodd 'dim ond unwaith bob cwpl o flynyddoedd roedden ni'n ei weld. Roedden nhw'n arfer mynd i ffwrdd ar gomisiynau ... byddai'r llongau'n hwylio am ddwy flynedd a hanner yn y dwyrain pell'. Roedd rhai o'r dynion oedd yn mynd allan i'r anialwch yno am ddwy neu dair blynedd ar y tro.

Bu'n hyfforddi yn Blackpool am chwech neu saith wythnos, yn dysgu côd Morse yn yr ysgol hyfforddi yn yr hen siediau tramffordd. Roedd y cwrs yn gywasgedig iawn; ‘Os doeddech chi ddim yn gallu gwneud pedwar gair y funud erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roeddech chi allan.’ Roedden nhw'n cymryd nifer fawr i mewn gyda'r disgwyliad o gael dim ond ychydig allan, roedd recriwtiaid bob chwe wythnos. Roedd Arthur yn aflwyddiannus, oherwydd problem feddygol gyda'i olwg, roedd yn dioddef o stigmatedd. Roedd wedi bod yn hyfforddi i fod yn saethwr awyr. Mae'n ystyried ei hun yn ffodus heddiw, gan roedd hyn yn golygu ei fod wedi byw drwy'r rhyfel. ‘Roedd disgwyliad oes o ddeg wythnos’. Roedd yn siomedig ar y pryd ‘dych chi byth yn meddwl mai chi sy'n mynd i farw – y dyn arall fydd e bob amser.’

11:30 Cafodd ei anfon i lawr i Regents Park am bedair wythnos ‘i geisio fy achub’ ond doedd dim modd datrys ei broblem llygaid felly arhosodd yn ‘griw awyr posibl’ trwy gydol y rhyfel. Cafodd ‘hyfforddiant llygaid’ i geisio gwella’r stigmatedd yn ei lygaid de. Roedd yn rhaid iddo edrych trwy binocwlars ac addasu’r golygfeydd i symud ‘y parot i’r cawell… pob math o bethau gwirion.’

Wnaethon nhw ddim ei dderbyn fel criw awyr ond fe'i cadwodd wrth gefn, felly doedd dim modd iddo ymuno ag unedau eraill. Fe'i rhoddwyd yn heddlu milwrol am chwe wythnos. Roedd yn rhaid iddo gasglu'r rhai oedd wedi aros yn hirach na'u gwyliau. Doedd ddim yn ei hoffi, roedd yn teimlo ei fod yn mynd ar ôl 'ei ffrindiau'. Yna cafodd ei anfon i Enfield yn weithiwr yn helpu i osod traciau ar gyfer meysydd awyr brys. Roedd yn rhaid iddo ddysgu gyrru tarw dur i osod rhwydi weiren fawr ar roliwr, 'trawst enfawr', a'i 'sefydlu i lawr i'r llawr gyda pholion hir, i awyrennau lanio ar faes awyr brys!'

‘Symudais o gwmpas ar y swydd honno,’ cafodd ei anfon i Duxford. Roedd ei gyflog tua swllt y dydd ac roedd yn cael bwyd a dillad a phopeth wedi ei ddarparu. Roedd ganddo gymrodoriaeth dda. ‘Fe wnes i fwynhau fy rhyfel. Es ymlaen i weithio ar radar a dyna pryd y cwrddais i â fy ngwraig.’

15:20 – SUT Y CYFARFU Â'I WRAIG 'Es i i Yatesbury ar gwrs radar am chwe wythnos,' yna cafodd ei anfon i orsaf radar gydag offer hollol wahanol i'r hyn y cafodd ei hyfforddi arno, 'ar y Lizard Point yng Nghernyw, y rhan fwyaf deheuol yn y DU… Roeddwn ni'n arfer dilyn awyrennau Spitfire rhagchwilio, 'blue Spits', yr holl ffordd i'w cyrchfan a'r holl ffordd yn ôl'. Roedd yn gallu eu holrhain dros 200 milltir. Arweiniodd at ‘ddigwyddiad annymunol’ ar ddyletswydd nos un noson, pan ffoniodd swyddog technegol.

16:30 LLOFRUDDIAETH 'Roedd y Prif Swyddog wedi llofruddio corporal yn Awyrlu Ategol y Menywod (WAAF). Roedd hi'n dod o Borthcawl, ei henw oedd Joan Lewis. Roedd wedi ei saethu mewn cytundeb hunanladdiad ac yna roedd wedi methu a saethu ei hun. Ym 1944, mae’n siŵr, yn ystod yr haf, mis Mehefin neu Orffennaf. Rydw i'n cofio hyn mor dda oherwydd roeddwn i'n gludwr arch yn ei hangladd. Roeddwn i'n un o chwech o bobl a ddewiswyd i gludo ei harch, roeddwn i wedi bod ar ei gwyliadwriaeth, hi oedd yng ngofal ein gwyliadwriaeth, hi oedd y corporal â gofal.'

'Roedd y swyddog WAFF yn yr orsaf … wedi gwrthwynebu'r berthynas yma ac wedi trefnu i anfon y fenyw i ffwrdd, a dyma ei noson olaf yn yr uned ... felly penderfynodd y bydden nhw'n cyflawni hunanladdiad ond ni aeth ymlaen â'i ran e. Fe’i saethodd hi ac yna ni gyflawnodd ei ran ef, a bu hi farw'n syth bin… ac roedd yn sgandal… Daeth peth anhygoel allan o hyn… roedd y swyddog WAFF yn chwilio am ddifyrrwch gan roedd pawb yn ddigalon… ac roeddwn i’n ystyried priodi … felly fe wnaethon nhw beth mawr o'n priodas ni… Mae gen i luniau ohonom ni yma...cawsom ni osgordd er anrhydedd... gyda chleddyfau wedi'u croesi... ac roedd yn sblash mawr.' ER MWYN TYNNU MEDDWL PAWB O'R TRASIEDI.

19:00 Priododd 4 Rhagfyr 1944 ‘mewn eglwys fach hardd … Roedd hi o Penzance, merch o Gernyw.’

Cofio mynd i’r sinema yn Penzance yn ystod ei amser i ffwrdd a chael ei enw wedi fflachio ar y sgrin i ddychwelyd i’w uned yn syth bin … Darganfu ar ôl cyrraedd yn ôl ei fod wedi cael ei bostio, wedi gorfod mynd i Lerpwl i gael llong fordaith i’r Andes, 'Fe dorron ni'r record am gyflymdra i Seland Newydd, dau ddiwrnod ar hugain ... Fe wnaethon ni stopio yn Seland Newydd am wythnos gyda thrafferth injan, yna ymlaen i Awstralia. Cefais fy anfon i Archerfield ger Brisbane.'

21:00 ‘Roedd y rhyfel yn Ewrop newydd orffen ac aethon ni allan i gymryd rhan’ yn y rhyfel yn erbyn y Japaneaid. Aeth â lori o'r orsaf, a chan yr oedd yn gyrru'n rhy gyflym llithrodd drosodd trwy ffens a malu awyren. Dywedodd roedd ‘maes cyfan o awyrennau… roedd gyda ni rai wrth gefn… Grumman Martlet oedd hwn ac fe wnes i ei ddinistrio’ [CHWERTHIN YSGAFN].

‘Cefais fy rhoi ar gyhuddiad yn syth bin... Canlyniad hyn oedd y cefais fy anfon i fyny i’r ynysoedd, de Borneo lle doedd neb yn byw. Hwn oedd y peth gwaethaf a allai fod wedi digwydd.’

'Roedd gyda ni faes awyr yno ac roedden nhw eisiau personél i reoli'r maes awyr, roedd yn llain lanio brys... Roedd y rhyfel newydd ddod i ben bryd hynny ac roedd gyda ni'r gwaith o ddod â'r cythreuliaid truenus hynny allan o Changi... roedd yn dorcalonnus' TEITHIO'N ÔL AC YMLAEN.

‘Ofnadwy… Doedden ni methu dod â nhw adref gan eu bod yn rhy sâl. Fe wnaethon nhw wella yn Awstralia. Roedd gennym ni garcharorion rhyfel Japaneaidd yno… Roedd gyda ni ddyn yr un ym mhob pabell, roedd gyda ni ein gwas personol ein hunain. Tomeso oedd enw fy nghymrawd bach a dim ond tua un ar bymtheg oed oedd e! Roedd o'n arfer edmygu fy ngwisg las na wnes i erioed ei gwisgo allan yna oherwydd ei bod yn rhy boeth. Roeddwn i'n gwisgo siorts a chrys caci. Roedd y dyn bach yma'n arfer bod yn eithaf cyfeillgar. Byddai’n dweud ‘pan mae'r llong fawr yn dod a chi'n mynd adref, gaf i ddod gyda chi?’ [CHWERTHIN].

C – SUT OEDDECH ​​CHI'N TEIMLO AMDANYN NHW?

‘O, iawn i ddweud y gwir. Fe newidion nhw’n sydyn, pan ildion nhw. Dywedodd eu hymerawdwr wrthyn nhw am ddod allan, rhoi’r gorau i’w harfau a chydweithio ym mhob ffordd bosib… Wnaeth un neu ddau ddim, arhoson nhw yn y jyngl a saethu atom ni.’

Roedd yn cofio dod adref o’r sinema mewn jeep o ffilm awyr agored a rhywun yn saethu atyn nhw. ‘Roedd ganddyn nhw wersyll, eu gwersyll eu hunain ac roedden nhw'n arfer dod i'n gwersyll ni bob dydd i wneud gwaith. Roedd gen i darw dur roeddwn i’n arfer ei yrru ar draws y traeth,’ roedd yn rhaid gwneud hyn gan doedd dim ffordd, o safle B lle’r oedden nhw’n byw i safle A lle'r oedd y llain awyr. Tarodd ei darw dur mewn ffrwydryn tir a chwythodd ei drac i ffwrdd yn llwyr, gan frifo ei gefn, roedd yn 21.

26:30 Daeth i dde Cymru trwy ei waith gyda chwmni o'r enw Gibbard oedd â 47 o siopau ledled y DU a chymerodd gadwyn arall o siopau yn Ne Cymru drosodd. Roedd wedi bod i’r gogledd i Fanceinion ac ati i wneud rhagchwiliad, ac ar y ffordd yn ôl, yn 1947, yn ystod gaeaf ofnadwy. ‘Des i lawr yr unig draffordd oedd gyda ni, y llain fer honno rhwng Birmingham a Watford – roedd yn erchyll. Cyrhaeddais i Fryste a phicio i mewn i brif swyddfa Kingswood’. Cafodd wybod ei fod yn cael ei anfon i Dde Cymru, aeth ar drên i Bontypridd, ac arhosodd mewn gwesty.

Roedd ganddyn nhw 'bencadlys moethus ym Mhorth'.

DIWEDD

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Arthur Horace Cowlin
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
21/10/2005

Labelau