Mair Lewis: Neges Heddwch Yr Urdd

This item is active and ready to use
Mair Lewis: Neges Heddwch Yr Urdd

Manylion

Manylion

Gwelwch yr arddangosfa Yma O Hyd - YGG Aberdâr a gwyliwch y ffilm 'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o YGG Aberdâr

Trawsgrifiad

O gof, ar y pryd, am wn i ma' nhw dal yn wneud, o'dd yr Urdd yn danfon neges heddwch i bob plentyn o'dd yn gallu derbyn y neges trw'r byd. A o gof, o’dd yr unarddeg ohonon ni wedi cael ein dewis i weud, i gyhoeddi’r neges ar ôl dynnwyd y llun hyn, gyda ni’n amlwg yn edrych ar y byd ‘i hunan. ‘Wi ddim yn cofio yn gwmws ond mae’n hyfryd i weld y llun a i gofio’r rhai o’dd yn y llun. A, o’dd e’n atgof, o’n ni’n wneud pethe, o'dd e'n bwysig, ddim i’r ysgol ond yn gyffredinol, o’dd e’n bwysig i Idwal Rees, bo ni'n ehangu'n profiad ni gymaint o'n ni'n gallu. A ma' hwn yn dangos taw, 'na beth o'dd hwn. O'n ni'n blant ar ôl y rhyfel, a o'dd e'n bwysig wy'n credu, yn enwedig i Idwal Rees i gofio taw heddwch o'dd yn bwysig a dim byd arall.

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Mair Lewis
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Hannah Buckmaster
Dyddiad y cyfweliad
25/11/2024

Labelau