Margaret Davies ac Irene Williams: Y Teulu Williams o Ffynnon Taf

This item is active and ready to use
Margaret Davies ac Irene Williams: Y Teulu Williams o Ffynnon Taf

Manylion

Manylion

Mae'r cyfweliad hwn yn ehangu ar sylwebaeth Margaret Davies ar 'Ffilmiau Cartref y Teulu Williams o Ffynnon Taf'.

RHYBUDD: Ar 00:01:38 mae term oedd yn arfer cael ei ddefnyddio'n hanesyddol i ddisgrifio pobl anabl, sydd nawr yn cael ei ystyried yn derm sarhaus, yn cael ei ddefnyddio.

Trawsgrifiad

00:00:01 Cyflwyniad

00:00:41 Ganwyd Margaret ym Mhorthcawl (1942). Manylion trefniadau teuluol ar ôl ei genedigaeth.

00:02:14 Ganwyd Irene ym Mhort Talbot (1934). Manylion y cysylltiad teuluol rhwng Irene a Margaret.

00:02:48 Atgofion Irene o’r deulu Williams o Ffynnon Taf a'r pentref ei hun – traphont, camlas, gwylio’r ffilm Disney, ‘Snow White and the Seven Dwarfs’.

00:07:03 Atgofion cynnar Margaret o fywyd teuluol yn Ffynnon Taf. Tripiau dydd digymell a gychwynnwyd gan ei thad.

00:09:24 Manylion magwraeth tad Margaret yn Nhaibach a'i chymuned glos. Treuliodd Margaret wyliau yn Nhaibach a Scunthorpe lle'r oedd ei modryb wedi ymgartrefu.

00:11:56 Byddai tad Margaret, Evan Foulkes Williams, yn dangos ffilmiau ar gyfer cymuned Ffynnon Taf yng ngarej y teulu ar Heol Caerdydd, ac mewn neuaddau pentref mewn cymunedau cyfagos, diddordeb a drosglwyddwyd gan ei dad a oedd â Magic Lantern (taflunydd cynnar).

00:16:14 Roedd gan y teulu Williams garej ar Heol Caerdydd, Ffynnon Taf, a dyna’r rheswm y symudon nhw i'r pentref. Mae Margaret yn cofio gweithio yn Halfway Garage y teulu. Manylion cartref y teulu yn 87 Heol Caerdydd.

00:18:47 Atgofion o barc Ffynnon Taf a'r baddonau.

00:23:08 Gwirfoddolodd tad Margaret ar gyfer yr Ail Ryfel Byd. Atgofion a theimladau Irene o amser y rhyfel gan gynnwys byw gyda faciwîs yn nhŷ ei hewythr yn Gilfach Goch, a gafodd ei fomio, a gweld Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

00:28:42 Dogni – prynu melysion gyda chwponau gan gynnwys ‘Spanish root’ a licorys.

00:32:39 Atgofion ar ôl y rhyfel gan gynnwys Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, dringo mynydd y Garth.

00:34:24 Trip teuluol i'r Alban yn y 1950au (sy'n ymddangos yn ffilmiau cartref y teulu Williams).

00:37:00 Manylion cymdogion a thrigolion cofiadwy Ffynnon Taf ac ysbryd y gymuned (e.e. cludwyd Margaret i'r ysbyty gyda Polio tybiedig, yng nghwmni ‘Modryb Mullins’).

00:39:34 Atgofion chwaer hŷn Margaret, Betty, a sut y gwnaeth hi a'r teulu ymdopi â'i hanabledd.

00:41:31 Atgofion am Rolls Royce y teulu Williams a oedd unwaith yn eiddo i David Lloyd George.

00:44:30 Y cysylltiad rhwng Ffynnon Taf, y teulu Williams a’r ffilm ‘The Englishman Who Went Up a Hill But Came down a Mountain’.

00:46:35 Diweddglo

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Margaret Davies & Irene Williams
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Hannah Buckmaster
Dyddiad y cyfweliad
26/08/2025

Labelau