SYLWEBAETH
Mae pererindod wych wedi ymuno â’r beirdd i Barc Aberdâr, yng nghefn gwlad hyfryd Morgannwg, ar gyfer cam cychwynnol Seremoni’r Orsedd. Hwn yw’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yma ers saith deg mlynedd
Yn dilyn y ffanffer â thrympedi, mae’r Archdderwydd, y Parchedig Dyfnallt Owen, yn agor sesiwn yr Orsedd yn ffurfiol.
Mae’r Archdderwydd, gyda chleddyf mawreddog, yn gweiddi “Ai heddwch?”, a’r ymateb yw “Heddwch”.
Yr Archdderwydd: “Y Gwir yn erbyn y Byd, a oes Heddwch?”
Cynulleidfa: “Heddwch.”
Yr Archdderwydd: “Llef uwch Adlef, a oes Heddwch?”
Cynulleidfa: “Heddwch.”
Yna daw’r Corn Hirlas, arwydd o groeso gan Aberdâr i’r Eisteddfod.
Yna daw Dawns y Blodau, gan symboleiddio awydd plant Cymru i gyflwyno blodyn eu dawn i’r ŵyl genedlaethol.
Cyflwyno’r ysgub o ŷd, symbol o ffrwythau’r ddaear, i’r Archdderwydd.
Y Forwyn: “Hybarch Archdderwydd. Yn enw morwynion Aberdâr, a holl blant y fro, atolwg i ti dderbyn yr aberthged hon o ŷd a blodau’r maes.”
Yr Archdderwydd: “Ti, Arglwydd, sydd yn ymweled â’r ddaear ac yn ei dyfrhau hi”
Uchafbwynt y ddefod drawiadol yma yw cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
“Gwir yn erbyn y Byd, Duw a phob daioni.” (Trympedi’n chwarae)