00:09
Wrth weld dechrau hyn, mae'n fy atgoffa i o'r cyffro pan fyddai fy nhad yn arfer dangos y ffilmiau oherwydd doedd dim setiau teledu yn y dyddiau hynny. Dyma fy mam ym Mharc Ffynnon Taf dwi'n credu. Ie, dyna Barc Ffynnon Taf fel yr oeddwn i'n ei adnabod pan oeddwn i'n blentyn. Roedd hyn cyn i mi gael fy ngeni ym 1942. Dyma fy mam yn rhoi fy chwaer ar y siglen. Roedd fy chwaer yn anabl o pan roedd hi'n fabi, oherwydd byddai hi wedi bod yn un o efeilliaid. Bu’n rhaid iddi fynd i Great Ormond Street ac fe wnaethon nhw dynnu un o’i harennau i gael gwared â'r tyfiant a fyddai wedi tyfu'n efaill ac yn anffodus fe wnaethon nhw dorri llinyn yr asgwrn cefn. Roedd fy mam yn crio ar ôl iddyn nhw ddweud wrthi na fyddai fy chwaer byth yn cerdded, ac roedd y meddyg yn finiog iawn gyda hi gan ddweud, “Mam, stopiwch grio. Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor ffodus ydych chi i gael plentyn mor ddeallus?” Ac roedd hi yn Great Ormond Street am chwe wythnos dw i'n meddwl, amser hir iawn. Na, chwe mis, dyna sy'n gywir. Roedden nhw'n arfer mynd i fyny, cael tocyn trên rhad i fynd i Lundain, ac roedd ei chwaer-yng-nghyfraith yn garedig iawn wrthi. Mae hi bob amser yn cofio hi'n rhoi ei slipars iddi i'w gwisgo oherwydd byddai hi wedi blino'n lân. Ac yn yr ysbyty, cawson nhw achos o ddifftheria, ond wnaeth fy chwaer ddim ei gael. Roedd yn rhaid i fy mam ddringo llawer o risiau ar ôl i fy chwaer gael ei rhoi mewn ystafell ar ben ei hun. Ac er yr oedd hi ddim yn gallu symud ei choesau, dywedodd fy mam y byddai ei breichiau bach yn chwifio'n gyffrous iawn.
01:51
Felly nawr dyma fy mam-gu, Elizabeth Williams, o Daibach, yn cario fy chwaer ac mae ei chwaer-yng-nghyfraith, modryb ddi-briod, yn cerdded ochr yn ochr â hi. A dyma fy nghefnder Irene, gyda ffrind agos iawn oedd yn byw drws nesaf i ni yn Halfway Garage Ffynnon Taf, Rhonwen Edwards. Priododd ei chwaer hŷn Peggy filwr Americanaidd a chadwodd mewn cysylltiad â ni ar hyd y blynyddoedd. Parhaodd dogni ar ôl y rhyfel a bydden ni bob amser wrth ein bodd yn cael parseli gan Peggy Edwards gyda gwm cnoi Spearmint, ymhlith pethau eraill. Ac felly dyma nhw i gyd yn mynd i fyny at y Maen Siglo ar Gomin Pontypridd. Roedd fy nhad yn cofio pan aeth i Ysbyty’r Bwthyn ym Mhontypridd, dywedodd wrth arbenigwr ei fod yn arfer gwthio ei fam-gu o gwmpas y Tir Comin yma pan oedd yn fachgen oherwydd bod ei dad yn dod o Ffordd Merthyr, Pontypridd, ac roedd ei fam yn byw ar ochr arall y Graig. Priododd fy mam-gu pan oedd hi'n ifanc iawn, 17 oed, a chafodd hi bump o blant, a fy nhad oedd yr ieuengaf. Dyma nhw ar Gomin Pontypridd. Mae fy mam-gu yn dal i gario fy chwaer Betty, doedd hi ddim yn fabi bellach, ond roedd hyn oherwydd doedd fy chwaer ddim yn gallu cerdded. Roedd fy nghyfnither Irene ddwy flynedd yn hŷn na fy chwaer. [A dywedodd fy mam ei bod hi bob amser yn cofio hi'n dawnsio o amgylch basged Moses pan oedd fy chwaer ynddi, yn gyffrous iawn, gan roedd Irene oedd yr unig blentyn.]
03:33
Dyma fy modryb o flaen y fferyllfa lle cafodd Irene ei magu. [Roedden nhw'n byw yng nghefn y siop ac uwchben y siop. Roedd fy modryb yn bwriadu bod yn athrawes, ond pan fu farw ei thad, bu'n rhaid iddi ddod adref, ac yna hyfforddodd i fod yn fferyllydd ac yn optegydd.] Dyma'r gamlas nawr yn Ffynnon Taf. Gwirfoddolodd fy nhad i fynd i'r Llu Awyr adeg y rhyfel, gan obeithio y gallai hedfan, ond yn anffodus, wel, yn ffodus i mi, doedd ei olwg ddim yn ddigon da. Dyma ei ffrindiau o'r Llu Awyr. [Pan lwyddodd fy mam i'w drosglwyddo i Sant Tathan, bydden nhw'n dod i fyny ac rydw i'n credu y byddwn nhw'n cael hwyl yn y garej.] A dyma fy chwaer. A nawr dyma fy mrawd, John, a aned 18 mis ar ôl i fy chwaer farw. A dyna Mam-gu Mullins, a dyma fachgen bach un o'r dynion a arferai weithio yn y garej, Haydn Wood. A dyma fy mam nawr. Roedd hi'n gwisgo ffedog drwy'r amser. Roedd y teulu Mullins yn byw ar draws y ffordd. A dyma fi, newydd ddechrau yn yr ysgol yn Ysgol Ramadeg Caerffili, yn dod adre, ac mae fy mag ysgol bron mor fawr â fi. [Dyma fy mrawd John. Bob amser roedden ni'n ddau yn arfer bod yn fudr gan ein bod ni'n byw ar dir y garej.]
05:01
A dyma'r Rolls-Royce a brynodd fy nhad, a oedd yn eiddo i David Lloyd George. Roedd 'na beth y gallech chi ei godi er mwyn gorffwys ei goes gwael, ac roedd pobl yn meddwl bod ganddo gabinet coctels yno, ond mewn gwirionedd dyna beth oedd fy nhad wedi'i roi ynddo pan aethon ni ar wyliau i'r Alban - roedd yn cynnwys fflasgiau thermos, nid alcohol. Nawr, roedd hyn ymhell yn ôl yn y 30au. Cafodd fy chwaer ei geni ym 1936, a dyna fy modryb Hannah, chwaer iau fy mam, a chyfnitherod cyntaf fy mam, Betty a Jennet o Fferm Tŷ Draw, Pîl. Gadawyd nhw a'u dau frawd yn amddifad ac roedd fy mam-gu yn garedig iawn. Anfonodd ei morwyn o'i fferm yng Nghroeswen, Margam, i Fferm Tŷ Draw i helpu i ofalu am y teulu. Dyna fy chwaer eto, roedd fy mam yn ei rhoi hi i lawr. Dyma Jennet, y ieuengaf o ferched Tŷ Draw. Daeth hi'n fatron. Roedd ganddyn nhw fywyd eithaf caled, felly aeth y ddwy ferch i nyrsio. Ni phriododd Jennet, ond roedd gan ei chwaer, Betty, deulu mawr, pump o blant.
06:28
Nawr rydyn ni wedi neidio'r holl ffordd i Scunthorpe, lle aeth chwaer ieuengaf fy nhad, Rita, gyda'i gŵr pan briodon nhw. A dyna fy mam-gu, mam fy nhad, gyda'i hŵyr John, a oedd ond pythefnos yn iau na fy chwaer. Ganwyd fy chwaer ar 1 Medi, a ganwyd ef bythefnos yn ddiweddarach. Felly roedd cystadleuaeth fawr rhyngddyn nhw ill dau. Ac roedd ganddo chwaer pan oedden nhw'n dair oed a dywedodd fy modryb wrtha i beth amser yn ôl fod fy chwaer wedi dweud wrthi oherwydd ei bod hi'n treulio llawer o wyliau i fyny yno gyda fy mam-gu, i roi seibiant i fy mam, a dywedodd wrth ei modryb, “Wel, dw i'n mynd i gael chwaer o'r enw Margaret sy'n gallu cerdded,” oherwydd ei bod hi eisiau bod yr un fath â John. Felly yn lle cael fy ngalw'n Barbara, mynnodd fy mod i'n cael fy ngalw'n Margaret. Felly roedd fy mam yn meddwl ei bod hi'n fy enwi ar ôl y ddol, ond mae'n debyg iddi ei galw'n Dol [mae'n debyg iddi alw'r ddol yn Margaret] oherwydd ei bod hi eisiau bod yr un fath â'i chefnder John. Roedd fy mam eisiau fy ngalw ar ôl fy hen mam-gu, ei mam-gu hi, Barbara, ond mynnodd fy chwaer bod hyn ddim yn digwydd oherwydd roedd siop barbwr wrth y garej yn y dyddiau hynny gyda pholyn, a dywedodd, “Dydw i ddim am iddi gael ei galw’n farbwr.” Felly dyma nhw, y plant, yn chwarae ar y car tegan hyfryd yma, a gafodd fy mrawd yn ddiweddarach, oherwydd ei fod yn llawer iau, mae'n chwe blynedd yn iau na fi. Felly, wrth gwrs roedd y plant yma wedi tyfu i fyny ac roedd e’n gallu cael y car. Ac wrth gwrs, dechreuodd y rhyfel ac nid oedd cymaint o deganau newydd bryd hynny. A dyma fy mam-gu, Elizabeth, yn dal y babi newydd o'r enw Margaret, yr un fath â fi, yr un y cefais fy enwi ar ei hôl mewn gwirionedd, a'r mab-yng-nghyfraith, Noel. Roedd Noel yn gweithio yn y diwydiant dur ac yn ddiweddarach daethon nhw yn ôl i Abertawe iddo weithio yn Abertawe. Ac roedd yn falch iawn eu bod nhw wedi cynhyrchu'r cebl oedd yn mynd dros y Bont Hafren gyntaf yn ei waith. [Dw i'n meddwl yr arferai ddweud mai dyma'r rhychwant sengl hiraf yn y byd ar y pryd.]
08:54
Dyna fy modryb yn ei ffrog flodeuog liwgar. Roedd fy mam yn arfer mynd i fyny ar y trên i Scunthorpe hefyd i ymuno â nhw. Dywedodd hi cyn y rhyfel, roedd hi'n teithio i fyny ac yn siarad â gŵr bonheddig, roedden nhw ill dau yn gallu teimlo bod rhyfel ar fin digwydd, ond dywedodd ef wrthi, "Wel, does dim byd y gall pobl fel ni ei wneud amdano." Roedd ganddyn nhw ardd brydferth yn Scunthorpe. Dw i'n cofio mynd i fyny pan oeddwn i'n chwech oed. Fe wnaeth fy nhad yrru i fyny drwy'r nos ar ôl un o gyngherddau'r ysgol ar y cae, Maes y Castell ger yr eglwys. Mae tai wedi'u hadeiladu arno erbyn hyn. Dyna oedd y cae lle roedden ni'n arfer cael ein coelcerthi. Dywedodd fy mam roedd y coelcerth gorau ar ôl y rhyfel. Doedd dim tân gwyllt ar gael bryd hynny ond roedd modd iddyn nhw gael coelcerth. Roedd hyn yn golygu bod y blacowt wedi dod i ben, a dywedodd hi roedd pawb yn dal dwylo o amgylch y coelcerth.
10:12
Wel, rydyn ni'n ôl yn Ffynnon Taf nawr, mae'r ffilm hon yn neidio o gwmpas. Dyma fam Irene nawr yn cario fy chwaer Betty, cefnder fy mam, o Fferm Tŷ Draw, yr ieuengaf, ac roedd e gyda ni, fy mam, fy chwaer a fi, a Gwilym Tŷ Draw, gyda ni y noson y gollyngwyd y bomiau ar Ffynnon Taf. Yn ffodus i ni, roedden ni'n byw mewn byngalo a sgimiodd y bom dros y top a glanio yn y cae gyferbyn. Fel arall, fyddwn i ddim yma i adrodd yr hanes oherwydd roedd gennym ni bympiau petrol yno, fydden ni ddim wedi cael siawns. Fel arfer, bydden ni'n mynd draw at y gymdoges, Mam-gu Mullins. Dyna un o fy atgofion cynharaf, cael fy rhoi yn y fasged golchi a mynd i fyny'r grisiau yno, a fy mam a'm tad yn edrych i lawr arna i. Felly, pan aeth fy mam a fy nhad i Ffynnon Taf, doedd dim gardd yno, ond llwyddodd fy nhad i orchuddio’r nant a chreu gardd hyfryd i ni. A dyma fy nghyfnither Irene, sydd wyth mlynedd yn hŷn na fi, mae hi'n 90 oed nawr. Ac mae'r fodryb oedd yn cerdded ar Gomin Pontypridd yno hefyd. Dyma David Williams o Bort Talbot, a welodd ei fam yr hysbyseb am Halfway Garage a daeth ef a'm tad i gymryd drosodd y garej. Roedd pobl yno o'r blaen. O, dw i wedi anghofio eu henwau nawr, ond roedd Mam-gu Mullins yn arfer dweud wrth fy mam pa mor wych oedd hi. Ond clywodd fy mam wedyn ei bod hi'n fenyw benchwiban iawn. Felly, beth bynnag, dyna nawr roedd Gwilym Tŷ Draw a David Williams yno bryd hynny. Dydw i ddim yn hollol siwr... Welwch chi, yn yr ardd, mae'r coed i gyd yn eithaf bach yno oherwydd dw i'n meddwl bod hyn cyn i mi gael fy ngeni, ond erbyn i mi ddechrau cofio'r ardd, roedd hi'n neis iawn, roedd gennym ni goeden lelog hyfryd. Roedd hi'n ardd hyfryd ac roedd yr afon yn rhedeg heibio i ni ar yr ochr. Byddai fy mam bob amser yn arfer canu'r caneuon i'r rhai mewn perygl ar y môr pan fyddai'r glaw yn pistyllio ac roedden ni'n clywed yr afon yn rhuo. Roedd hi'n fam ryfeddol ac roedd hi'n gweithio'n yn galed iawn. Mae gen i gerdd hyfryd a ysgrifennodd fy merch ieuengaf pan oedd hi yn yr ysgol am ei mam-gu.
13:25
Dyma'r garej yn y dyddiau cynnar a David Williams yn gweithio yno eto. Nawr rydyn ni'n mynd draw, dyma ffrindiau fy nhad yn yr RAF. Roedd fy nhad wedi'i leoli am gyfnod yn Blackpool, ac roedd e ar yr arfordir dwyreiniol am gyfnod hefyd, ond dyma fechgyn yr RAF yn chwarae o gwmpas yn Blackpool. Ac mae fy nhad yn llwyddo i fod yn y ffilm. Fe welwch chi ei fod mewn gwisg sifil ac fe welwch chi ef mewn eiliad yn ei het. Ond maen nhw yno'n chwarae o gwmpas. Dw i ddim yn meddwl, efallai na fyddan nhw'n ei ddangos ar y ffilm hon, ond ar un o'r ffilmiau mae'n dangos lle maen nhw'n chwarae o gwmpas. Dyna fy nhad nawr a dyna ei het. Pan maen nhw'n chwarae o gwmpas, mae sarsiant yn dod heibio ac maen nhw'n stopio'n syth ac yn saliwtio. Ond mwynhaodd fy nhad ei amser yn yr RAF. Y peth gwaethaf iddo yn y rhyfel oedd pan oedd yn gwersylla ar arfordir y dwyrain ac roedd hi'n bwrw eira a rhew ac roedden nhw o dan gynfas. Dywedodd fy chwaer y byddai fy mam yn poeni pan glywon nhw ar y radio fod bomio trwm ar arfordir y dwyrain. Ond llwyddodd fy mam i'w symud i Sant Tathan ar sail dosturiol, oherwydd wrth gwrs, roedd hi'n gorfod gweithio yn y garej ar ei phen ei hun. Dwi'n meddwl y cafodd hi gymorth gan un bachgen.
15:03
A nawr mae hyn ar draws y ffordd [yn Ffynnon Taf], dyma Mr Mullins yn gwneud yr ardd, mab Mam-gu Mullins. Roedd gennyn ni gymdogion gwych. Dyma Fam-gu Mullins, wnes i erioed gwrdd â'i gŵr, ond mae'n eithaf doniol sut roedd hi'n arfer cerdded ar y blaen ac yntau'n cerdded y tu ôl. Arferai fod ffynnon o ddŵr allan o'r ardd. Roedd fy chwaer, gan ein bod ni'n byw gyferbyn, wrth ei bodd yn gwylio'r bobl yn cael eu gwlychu gan y dŵr wrth iddyn nhw gerdded heibio. Felly dyma fy nghyfnither Irene, ac wrth gwrs mae ganddi lyfr pop-yp hyfryd. Dyma fy chwaer Betty yn chwarae yn y mwd, ac mae hi'n gwneud pasteiod mwd. Dyna fy ewythr, tad Irene, Lawrence O'Brien, Pabydd pybyr iawn, ac mae Irene yno gydag ef. Mae fy mam gyda fy ewythr, ac aeth y ddau hynny â mi, ym 1953, i weld gorymdaith coroni'r Frenhines. Fe wnaethon ni gysgu ar y palmant am ddwy noson ar y Mall. Ar y dydd Mawrth, pan oedd gorymdaith y coroni, roedd yn rhaid i ni sefyll i fyny am 1 o'r gloch y bore. Dim ond 10 oed oeddwn i.
16:29
Dyma ni ar lan y gamlas. Roedd hi'n hyfryd yn Ffynnon Taf pan oeddwn i'n ifanc. Fel roedd fy mam yn arfer dweud, dim ond mynd dros bont y rheilffordd oedd yn rhaid i ni ei wneud ac roedden ni yn y wlad. Cafodd hyn i gyd ei ddymchwel yn y 50au, ond roedd gennym ni sawl clo yn gorffen yng Nglan-y-llyn gyda chlo triphlyg. Dyma fois yr RAF yn chwarae o gwmpas eto. Weithiau pan oeddwn i'n ifanc, bydden nhw'n galw yn y garej ac yn hel atgofion, a phan aeth fy nhad â ni i Gernyw, roedd e'n awyddus iawn i weld y cwm lle roedd un ohonyn nhw wedi tyfu i fyny. Dywedodd bod dim rhyfedd eu bod nhw mor hiraethus am adref, roedd mor brydferth. Ond fe gafodd y bechgyn yma lawer o hwyl ac roedd 'na lawer o bartïon yn y Halfway Garage, Ffynnon Taf, pan oedd fy nhad wedi'i leoli yn Sain Tathan. [Ac mewn gwirionedd, ar ôl i mi gael fy ngeni ym Mhorthcawl mewn cartref nyrsio, roedd fy mam yn treulio mis gyda'i mam ar y fferm yng Nghaegarw, Pîl, a galwodd merched NAAFI i weld y babi newydd, ac unwaith y dywedon nhw wrth fy mam am y partïon penderfynodd ei bod hi'n bryd i ni fynd yn ôl adref.]
17:46
Felly dyma Ffynnon Taf, yr unig ffynnon thermol hysbys yng Nghymru dwi'n credu, ac un y gwnaeth fy nhad ei helpu, dyna oedd y gored sydd bellach wedi diflannu. Dw i'n meddwl bod y ffilmiau yma o'r 30au. Llwyddodd fy nhad i achub y safle hwn rhag dod yn domen lludw, trwy brynu'r baddonau yn y 50au. Oherwydd ei fod wedi gwneud y ffilmiau yma, dwi'n meddwl eu bod nhw o'r 30au, pan oedd fy chwaer yn arfer mynd at y dŵr gyda'i ffrindiau, dwi ddim yn meddwl ei bod hi erioed wedi mynd i'r dŵr. Fe allwch chi weld yno fod ganddyn nhw giwbiclau i newid ynddyn nhw, ac, roedd yr holl bentrefwyr wrth eu bodd yn cael pwll nofio awyr agored, fel yr oeddwn i hefyd yn y 50au. Dysgon ni i nofio yn y dŵr cynnes hyfryd yma, doedd ddim cweit mor gynnes â Chaerfaddon, ond roedd ganddo'r un cysondeb â'r dŵr yng Nghaerfaddon, ac roedd yn glir iawn. Ac roedd fy nhad yn arfer gollwng darn arian yn y pen dwfn, ac roeddech chi'n gallu dweud a oedd yn glanio ar y pen neu'r cynffon. Dyma fi'n nofio, felly mae'n rhaid bod hyn yn y 50au nawr, rydyn ni wedi neidio i'r 50au. Dw i'n meddwl mai fi yw hynny, dw i ddim yn hollol siŵr. Rydych chi'n gallu gweld ein bod ni i gyd yn arfer gwisgo hetiau nofio i gadw ein gwallt yn sych. Dydych chi ddim yn gweld hynny heddiw, dydyn nhw ddim i weld yn poeni. Roedden nhw'n arfer talu chwe cheiniog am sesiwn 20 munud ac yna byddai'n rhaid iddyn nhw i gyd fynd allan a byddai criw arall yn dod i mewn, bydden nhw'n ciwio i fynd, ac yna gallem ni dorheulo ar y top yno. Mae bwrdd plymio ar y diwedd hefyd. Mae'n drueni mawr, rhoddodd fy nhad y baddonau i'r Cyngor fwy neu lai, ond yn anffodus, penderfynon nhw ei orchuddio. Yn ffodus mae'r ffynnon yno o hyd ac mae modd dadorchuddio'r baddonau i gyd. Dyma Mervyn Sandall oedd yn gweithio yn y garej, a gallwch weld 'E.F. Williams'. Roedd fy nhad yn falch iawn o'i lythrennau cyntaf, Evan Foulkes. Roedd yr enw Foulkes yn dod o ochr Gogledd Cymru ei deulu. Roedd teulu ei fam wedi dod o Dudley, yr unig un o fy mam-guod a thad-cuod a aned yn Lloegr. Ac roedd fy hen dad-cu yn cerdded o Dudley i Bontypridd, a chyn gynted ag y cyrhaeddodd yno, fe wnaeth shifft i lawr y pwll glo.
20:18
Mae gennym ni ychydig o ffilm lliw nawr, felly mae hyn yn bendant yn y 50au oherwydd bod lliw wedi dod allan, ac roedd fy nhad bob amser yn hoffi bod y cyntaf i wneud yr holl bethau yma. Felly, pan briododd fy nghefnder ym 1981, cafodd ffilm ar unwaith fel ei bod hi wedi priodi yn Abaty Margam, ac yna wrth i ni gerdded i mewn i'r Orendy ar gyfer y derbyniad, dyma ffilm o'i phriodas. Roedd hyn yn rhywbeth rhyfeddol yn y dyddiau hynny. [Ac yna, fe wnaeth e ein siomi’n fawr, oherwydd roeddwn i a fy mhlant arno hefyd, roedd e wedi’i gael ar brawf, ac felly i gael ei arian yn ôl fe gollon ni’r ffilm. Ond profodd yr hyn yr oedd am ei wneud, sef dangos y ffilm briodas ar unwaith.] Heddiw fydd hyn ddim yn ymddangos mor anhygoel, ond ar y pryd roedd yn wych. Felly rydych chi'n gallu gweld faint roedd pawb yn mwynhau'r pwll nofio a byddai'n wych iawn pe bai modd dadorchuddio'r baddon hwn sydd yno o hyd ryw ddydd a defnyddio dŵr y ffynnon. Yn y gorffennol, roedd baddonau domestig yn yr adeilad lle byddai pobl yn arfer dod. Bydden nhw'n aros yn Nhafarn Ffynnon Taf, a bydden nhw'n dweud y bydden nhw'n cael eu hiacháu o'u poenau gwynegol. Roedd eu ffyn yn cael eu gadael yn Nhafarn Ffynnon Taf. Dyma rai o'r bechgyn a ffurfiodd glwb dŵr ac a oedd yn gofalu'n dda iawn am y baddonau. Pan wnaethon nhw fynd yn hŷn a symud ymlaen a symud i ffwrdd, roedd grŵp arall o fechgyn, ond doedden nhw ddim cystal â'r criw cyntaf. Aeth fy nhad yn bryderus iawn, roedd polio o gwmpas ac roedd e’n ofni haint, ac felly fe roddodd y baddonau i’r Cyngor fwy neu lai. [Roedd wedi talu dim ond £500 amdano, roedd yn werth llawer mwy erbyn iddo ei roi i ffwrdd oherwydd iddo dalu'r gost trosglwyddo a oedd yn £500.] Felly dyna nhw, y bechgyn. Mae gen i atgofion melys iawn ohonyn nhw i gyd oherwydd roedden nhw'n arfer cwrdd yn ein hystafell flaen ar brynhawn Sul i drafod y baddonau ac, roedd ganddyn nhw ystafell filiards yno. Yn anffodus, difrodwyd llawer o'r adeiladau gan y llifogydd yn y 60au. Cafodd y cyfan ei atgyweirio ac yna bu rhagor o lifogydd, ac fe ddigalonnodd hyn fy nhad. Y bachgen yn y wisg ysgol yw fy nghefnder Llewellyn, bachgen hynaf fy modryb Hannah. Roedd yn ysgwyd ei gap at ei frawd, neu frawd iau, tair blynedd yn iau. Neidiodd i'r pwll yn noeth oherwydd nad oedd wedi â gwisg nofio gydag ef, ond roedd y pwll yn ormod o demtasiwn iddo.
23:16
Felly dyma Barc Ffynnon Taf. Roedd y Cyngor, ger y fan honno, wedi plannu coeden. Fe wnes i a fy wyrion ei phlannu er cof am fy nhad, coeden leim. Ond rydyn ni wedi neidio'n ôl i'r gorffennol nawr ac rydw i'n gallu gweld fy mod i yno. Fi yw'r babi ar y siglen ac mae fy chwaer ar y siglen wrth ochr fi, ac rydw i'n meddwl mai Rhonwen Edwards yw honno eto. Mae fy nghefnder Irene yn fy ngwthio i, ac mae Rhonwen yn gwthio fy chwaer. A nawr rydyn ni ym Mharc Ponty, lle mae'r sleid fawr hyfryd. Dw i'n meddwl ei bod hi yno o hyd. A dyna Mela Johns, ffrind gwych arall oedd yn byw yn 3 Stryd Garth. A dyma fi yn fabi yn yr ardd, yn cropian o gwmpas. Adeiladodd dynion yr RAF y troli yma i fy chwaer fel y gallai hi ei symud o gwmpas ei hun, ac roedd hynny'n hyfryd. Dyma ni nawr yn yr ardd, a gallwch weld bod y llwyni wedi tyfu, ac mae'n ardd wirioneddol hyfryd. Gallwch chi weld faint o gyffro oedd gen i fel babi, oherwydd byddai ffrindiau fy chwaer yn fy rhoi yn y flanced ac yn dweud, “Shake, shake, shake the blanket, shake the blanket over,” a byddwn i'n mynd o amgylch y cylch. A dyma Mam-gu Mullins oedd yn byw gyferbyn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gafael yn fy nghefnder Llewellyn.
24:50
Dyna Stryd Garth. Mae Mam-gu Mullins yno, mae hi'n dal fy llaw ac yn dal i gario fy nghefnder Llewellyn sydd 18 mis yn iau na fi. Ac yna mae fy Modryb Hannah yn gafael ynof i, a Mam-gu Mullins yn dal fy nghefnder Llewellyn. Ac, fe welwch chi nawr mewn munud, bydd Mam-gu Mullins yn trosglwyddo Llewellyn i fy modryb, ac yna bydd hi'n fy nghodi ac yn fy nghario fel y mae hi'n ei wneud yn y dull Cymreig. Roedd hi'n gymorth aruthrol i'm mam, fel yr oedd nifer o'r cymdogion. Roedd yn bentref hyfryd i dyfu i fyny ynddo. Edrychwch ar yr hwyl roedden ni'n arfer ei gael amser carnifal. Dyna'r heddlu'n gorymdeithio drwodd gyda'u menig gwyn. Roedd yn llawer o hwyl byw yn Ffynnon Taf pan oeddwn i'n ifanc. Roedd gennym ni gymaint o dafarndai a chapeli, ac yn anffodus nawr dim ond yr eglwys sydd ar ôl a dim ond Tafarn Ffynnon Taf. Arferai fy mam ddweud, yn y rhyfel, pan fyddai ein dynion ni'n gorymdeithio'n smart drwy'r pentref, dywedodd doedd gan yr Americanwyr ddim syniad, roedden nhw'n cerdded yn hamddenol drwy'r pentref. Dyna Mam-gu Mullins, mae hi'n sefyll ym mlaen ei gardd. Byddai hi wastad yn arfer dweud wrtha i pa mor drist oedd hi, oherwydd roedd ganddyn nhw ardd llawer hirach, ond, collodd rhan o'i gardd drwy bryniant gorfodol i wneud y ffordd yn lletach. Oherwydd wrth gwrs, doedd dim ffordd osgoi Ffynnon Taf bryd hynny, roedd yr holl draffig i Bontypridd yn gorfod mynd drwodd. Dyna'r garej yno ar ochr arall y ffordd, roedd yn eiddo i Mr Bilbrough ac fe symudon ni, yn y 50au, draw i fyw yno, ym 1953. Dyma'r holl fflotiau'n mynd heibio ac rydw i'n credu y bydd llun o fy ffrind Mary Beynon, fy ffrind gydol oes, a fu farw ym mlwyddyn Jiwbilî olaf y Frenhines, ar Ddiwrnod y Jiwbilî, yng Nghanada. Roedd Mr Griffiths, ei llysdad, yn dipyn o gymeriad yn y pentref. Dw i'n gwybod bod llawer o bobl yn dal i'w gofio.
27:28
Rydyn ni wedi mynd yn ôl mewn amser eto nawr. Dyna fy Modryb Rita. Cawson ni wyliau teuluol mor hyfryd. Dw i'n meddwl, dw i yno, mae gen i blethi. Dyma pryd aeth fy nhad â ni i un o'r partïon pen-blwydd yn Ynys y Barri. Roedd trên bach yn arfer bod yno, ac roedden ni i gyd yn eistedd ar y trên oedd yn mynd o gwmpas. Roedd fy nhad bob amser yn llawn syrpreisys, yn gwneud pethau gwirioneddol wych i ni’r plant. Mae'n anhygoel, mae fy mab ieuengaf yn eithaf tebyg iddo ac mae'n ymddiddori'n fawr yn y dechnoleg ddiweddaraf. Nawr rydw i'n gallu gofyn i Siri roi fy lamp wrth ochr y gwely ymlaen a'i diffodd i mi, ac rydw i'n credu mai dyna'r math o beth y byddai fy nhad yn ei wneud. Nawr dyma fi a fy nghyfnither Irene, dw i'n 6 oed, ac aethon ni gyda fy mam-gu a fy nhad yr holl ffordd i fyny i John O'Groats. Roeddwn i'n arfer bod yn sâl iawn am y car nes i mi allu gyrru fy hun, ac roedd yn rhaid i Irene druan fy nal ar ei glin am y rhan fwyaf o'r daith. Felly dyma ni, fy nain, Elizabeth Williams, Irene, a minnau. Roedd hi'n wyntog iawn ar adegau, ac un diwrnod, chwythodd fy mhlethi allan roedd hi mor wyntog. Aethon ni mewn Sheerline, car moethus iawn. Ac rydw i'n cofio, fy mam-gu yn flin gyda fy nghyfnither Irene am brynu lolipops ceiniog doedden ni ddim wedi eu bwyta. Dywedodd Irene ei fod, “Ddim ond yn geiniog.” A dywedodd hi, “Helpodd yr holl geiniogau yna i brynu’r car Sheerline yma.” Dyna ni. Dw i'n meddwl mai dyna oedd y diwrnod pan oedd hi'n wyntog iawn, roedd bron â'n chwythu ni o gwmpas. A gwelsom ni Gastell Balmoral. Dyna Gastell Balmoral, dwi'n meddwl, yn y cefndir. A'r llynedd, llwyddais i wneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud pan oeddwn i'n 6 oed, sef dringo ymhell i fyny Ben Nevis. Felly, diolch i fy merch ieuengaf, cyflawnwyd fy mreuddwyd o ban oeddwn i'n blentyn.
29:33
Dyma ni’n ôl nawr yn Ffynnon Taf gyda charnifal arall. Roedd y ffilm yn neidio o gwmpas. Roedd gyda ni fywyd pentref go iawn yn y dyddiau hynny. Ac roedd y cymdogion i gyd mor garedig. Felly dw i'n meddwl mai dyma'r ffilm lle mae yn gweld fy ffrind Mary wedi'i gwisgo fel nyrs, oherwydd roedd ei modryb yn nyrs. Roedd hi'n bwriadu bod yn nyrs ac roeddwn i'n bwriadu bod yn athrawes, ond daeth hi'n athrawes yn y pen draw a minnau'n gyfreithiwr. Dyna Mam-gu Mullins yn gwylio'r carnifal. Felly, enillodd fy mrawd -- o dyna Mary wedi'i gwisgo fel nyrs yn gwthio cefnder mewn cadair wthio fel y claf. Ac yn rhywle roedd fy mrawd, roedd wedi'i wisgo fel y Mad Hatter. Dyna gipolwg ohono. Enillodd y wobr gyntaf.
30:50
Nawr, rydyn ni ym Margam ar gyfer un o sioeau Margam. Mae'n dangos brawd ieuengaf fy mam, John Joseph, o Fferm Caegarw, oherwydd ar ôl i fy mam briodi, bu'n rhaid i'r teulu symud i Fferm Caegarw oherwydd nad oedd unrhyw gaeau ar ôl ar Fferm Groeswen oherwydd y gweithfeydd dur. Felly mae hon yn ffilm hen iawn nawr o sioe ym Margam. Roedd un o'r llythyrau a ysgrifennodd fy nhad at fy mam cyn iddyn nhw briodi oedd yn dweud pa mor falch oedd bod gan fy ewythr geffyl. Dyna fy Modryb Hannah gyda fy chwaer, a dyna Gwilym Tŷ Draw. Wn i ddim pwy yw'r bachgen ifanc smart yna, ond, mae'n gwisgo un o fathodynnau'r sioe. Wrth weld y ceffylau gyda'u cynffonau wedi'u plethu, roeddwn i'n arfer mynd i'r fferm at fy Modryb Hannah, ac roedd fy ewythr, ei gŵr, wedi arfer plethu cynffonau'r ceffylau, felly pan fyddai'n gwneud fy mhlethi, doeddwn i brin yn gallu ei ddioddef oherwydd ei fod e'n eu gwneud nhw mor dynn. Dyma fy nhad cu, Llewellyn Joseph o Fferm Groeswen, Margam, yn cerdded o gwmpas gydag un o'r gwartheg. Gallwch chi weld pa mor bwysig oedd y sioeau yma ar adeg pan doedd dim byd tebyg i'r adloniant sydd gan y bobl ifanc heddiw. Dyna fy chwaer yn cael ei chario. Er mai dim ond bywyd byr a gafodd, bu farw pan oedd hi'n 11 oed, cafodd fywyd llawn a hapus iawn. Dyna fy Ewythr John Joseph o Fferm Caegarw. Roedd e’n hoff iawn o farchogaeth pan oedd e’n fachgen ifanc. Roedd yn fachgen direidus iawn, a phan briododd fy mam a fy nhad, aethon nhw i gyd i’r stiwdio i gael tynnu’r lluniau, ond, dyna fe, Ewythr John, doedd e ddim yn cael mynd i’r stiwdio, doedd fy mam-gu ddim yn gadael iddo oherwydd ei fod mor ddireidus. Ond fe ddaeth yn ddyn busnes a ffermwr llwyddiannus iawn yn y diwedd. Ond, yn anffodus, bu farw fy ewythr Tom o niwmonia cyn i mi ei adnabod. Roedd ond yn 24 oed. Bu farw blwyddyn cyn bod antibiotics ar gael. Fe fyddai e wedi bod yn ffermwr a byddai fy Ewythr John wedi dod i helpu fy nhad yn y garej. Roedd fy nhad yn arfer dweud, pe bai wedi dod, y byddai gennym ni garejys o Orllewin Cymru i Lundain oherwydd ei fod yn ddyn busnes da iawn.
34:50
Er ei fod wedi dweud 'y diwedd,' rydyn ni'n parhau. Dyma'r darn a gymerodd fy modryb. Fel y gallwch weld, roedd hi'n meddwl y byddai hi'n symud y camera o gwmpas fel ar y teledu. Dwi'n meddwl iddi ffilmio cystadleuaeth aredig. Dwi bron yn sicr. Ond roedd hyn amser maith yn ôl hefyd, roedd cyn i mi gael fy ngeni, cefais fy ngeni ym 1942, ond dw i'n meddwl bod hwn wedi'i ffilmio yn y 30au. Gallwch chi weld bod tractorau newydd ddechrau cael eu defnyddio. Dywedodd fy mam, byddai'r fodryb oedd yn byw yn Fferm Groeswen gyda nhw bob amser yn dweud, 'Dydw i ddim eisiau un o'r peiriannau modern, ffasiynol hyn pan fydda i wedi fy nghladdu', rydw i eisiau ceffylau. Fy mam oedd yr unig un a adawodd y byd ffermio. Priododd ei chwaer ffermwr ac roedden nhw'n byw yn Fferm Newlands, Stryd y Dŵr, Margam. Roedd y teulu, yn ogystal â ffermio yno, yn ffermio yn Fferm Old Park, a oedd yn fferm gartref i Gastell Margam.
36:19
Dyma ni’n ôl i’r garej nawr yn Ffynnon Taf a dyma’r hen arwyddion, rydw i’n eu cofio nhw’n dda. Felly, roedden ni fel tafarn am ddim, gorsaf lle gallech chi werthu'r holl wahanol frandiau o betrol ar yr un pryd, ond daeth hi'n amhosibl gwneud hyn ac rydw i'n credu ei fod wedi cael ei benderfynu yn Llundain beth ddylen ni fod. Roedd fy nhad yn eithaf awyddus i fynd gyda National, o dw i wedi anghofio'r enw nawr, Benzole, ond fe wnaethon ni orffen fel garej BP, ac roedd fy nhad yn gallu rheoli garejys ar Manor Way a garejys Shell Tonypandy. Nawr, dyma briodas fy Modryb Hannah yn Abaty Margam. Cyfarfu â'i gŵr mewn dawns, a phan ddywedodd wrthi mai Evan Williams oedd ei enw, roedd yn rhaid iddo ddangos ei bapur adnabod i brofi hynny oherwydd dyma enw ei brawd-yng-nghyfraith, sef fy nhad, hefyd. Roedd hi'n ddiwrnod gwlyb iawn ar eu priodas, ond dywedodd fod yr haul wedi tywynnu bob dydd wedyn. Wrth gwrs roedd hi'n amser rhyfel, felly roedd dillad a phopeth wedi'u dogni. Felly mynnodd gael siwt smart iawn, ond roedd hi braidd yn dywyll ei lliw, a phan edrychodd ei gŵr o gwmpas, meddyliodd, o Dduw, mae hi'n edrych fel pe bai hi'n dod i'w hangladd. Ond cawson nhw fywyd priodasol hapus iawn a phedwar o blant hyfryd. Dyma nhw'n mynd ar eu mis mêl i Lundain ar y trên.
38:11
Dyma Fferm Caegarw, dwi'n credu. Ie, Fferm Caegarw, lle symudodd y teulu o Fferm Groeswen. Fe lwyddon nhw i gael y denantiaeth yma. Yna yn y 50au, llwyddodd fy ewythr i brynu'r tir. Dyma fy Modryb Hannah cyn iddi briodi. Mae hi'n cario llaeth, dwi'n meddwl, fy mam a hi, roedden nhw'n arfer dosbarthu llaeth mewn 'cert athrawes gartref' (governess trap) gyda cheffylau. Byddai ganddyn nhw gorddwr mawr a bydden nhw'n mesur y llaeth a'i dywallt i mewn i jygiau pobl. Roedden nhw'n arfer dweud, roedd fy Modryb Hannah bob amser ychydig yn rhy hael ac ni fyddai galwyn byth yn para gwerth galwyn. Roedd fy mam bob amser yn union gywir. Dydw i ddim yn gwybod am fy ewythr. Os aeth e i werthu llaeth erioed mae'n debyg byddai ganddo rywfaint ar ôl. Nawr rydyn ni'n ôl yn Ffynnon Taf a dyma Morgan Joseph, cefnder cyntaf fy mam. Daeth yn adnabyddus ym myd busnes yr asiantaethau tai a'r arwerthwyr. Rydw i'n ceisio darganfod ble mae hyn. Rydyn ni'n nôl yn Ffynnon Taf. Dyna fy mam yn fy nghario i y tro hwn, dwi'n meddwl. Mae un o'r modrybedd yna, felly efallai fy chwaer yw hi. Dyma fam fy mam yn gwisgo cardigan golau. O, mae gan fy mam fy chwaer, nid fi, dwi'n meddwl bod hyn cyn i mi gael fy ngeni. Dyma Morgan Joseph a'i...., dw i'n meddwl mai ei fam ydy hi. Dyma deulu fy mam yn dod i ymweld â Ffynnon Taf pan oedd fy chwaer yn eithaf ifanc. Dyma ochr y tŷ, y byngalo oedd gennym ni wrth ymyl y garej, sydd nawr wedi'i drawsnewid yn lleoedd preswyl. Roeddwn i'n meddwl mai fy hen Modryb Maggie oedd honno ar yr ochr arall, ond dydw i ddim yn hollol siŵr. Gallwch weld sut roedd y menywod bryd hynny wrth eu bodd yn gwisgo stolau ffwr.
40:31
Dwi'n gallu gweld bod car a rhyw fynydd. Rydyn ni yn Ffynnon Taf, mae'r car yn mynd i fyny ar y lifft. Roedd gennym ni lifft wrth ochr y tŷ, ar y tu blaen, wrth ochr y garej. Cytunodd fy mam i roi arwydd i fyny ar gyfer y trefnwyr angladdau, a doedd fy nhad ddim yn rhy hapus am hyn. Felly gallai'r bobl oedd yn gyrru allan o'r garej weld yr arwydd yma. Felly nawr rydyn ni ym mhriodas fy Ewythr John Caegarw. Roedd hi o'r Bont-faen. Felly dyna nhw, Glenys Williams. Felly mae'n rhyfedd sut y priododd y tri phlentyn i gyd â Williams, o Fferm Groeswen. Yno maen nhw'n taflu reis neu gonffeti drostyn nhw. Fe briodon nhw ar ôl i mi gael fy ngeni.