'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o Y.G.G. Aberdâr

This item is active and ready to use
'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o Y.G.G. Aberdâr

Manylion

Teitl
'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o Y.G.G. Aberdâr
Manylion

Yn y ffilm gymunedol yma sy'n dathlu pen-blwydd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn 75 oed, mae atgofion byw cyn-ddisgyblion wedi’u cyfuno â lluniau o archif yr ysgol a gwaith celf gan ddisgyblion presennol yr ysgol.

Ym mis Hydref 2024, dechreuodd prosiect i gasglu atgofion gan gyn-ddisgyblion a fynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn ystod ei blynyddoedd cynnar yng Nghwmdâr. Mewn sesiynau recordio yn Llyfrgell Aberdâr ac Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr, a chyfweliadau unigol a gynhaliwyd wyneb yn wyneb ac ar-lein, rhannodd y cyn-ddisgyblion straeon ac atgofion o'u dyddiau ysgol cynnar. Yna, cynhaliwyd gweithdai yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, lle bu’r disgyblion yn dehongli’r recordiadau sain drwy luniau lliwgar a gwreiddiol, ac yn rhannu eu hatgofion o’r ysgol gan gynnwys y gemau maen nhw’n chwarae, tripiau ysgol a’u ffrindiau.

Mae’r ffilm yn cyfleu’r dyddiau cynnar hapus hynny yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a adlewyrchir gan ddisgyblion presennol yr ysgol, a'r ymdeimlad cryf o deulu a oedd i'w gael o ganlyniad i'r athrawon, rhieni a disgyblion, ac a arweiniwyd gan bennaeth uchel ei barch cyntaf yr ysgol, Mr Idwal Rees.

Cafodd y ffilm yma'i chynhyrchu gan brosiect Diwygio Delweddau a Lilypad Films gyda chyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Lluosi (Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU).

Gweler arddangosfa YGG Aberdâr: Yma O Hyd - YGG Aberdâr

Labelau