00:00:01 Cyflwyniad
00:00:20 Cafodd Gordon ei eni yn Heol Dan-y-lan, Maes-y-coed, Pontypridd ym 1923, roedd yn un o wyth o blant
00:02:07 Ar ôl symud o Loegr, gweithiodd tad Gordon yng Nglofa'r Albion, Cilfynydd; Roedd Mam Gordon o Aberfan
00:03:58 Mynychodd Gordon Ysgol Babanod Pwll-gwaun ac yna Ysgol Bechgyn Maes-y-coed; Bu farw plentyn athro Gordon mewn damwain traffig gyda bws; atgofion amrywiol o’i amser yn yr ysgol
00:06:33 Yn saith oed, torrodd Gordon ei goes mewn damwain gyda throl arlunydd ac roedd yn rhaid iddo fynd i Ysbyty Llwynypia.
00:09:10 Mae taith a gafodd ei chynllunio i Wersyll Ysgol Ogwr yn golygu ei fod wedi cael cyswllt â grŵp o fenywod lleol, sy'n cael eu hadnabod fel "The Forties" (ac wedi'u henwi ar ôl "the Forty Thieves") a oedd wedi'u lleoli yn ardal y Graig (Pontypridd) ac a fyddai'n lladrata.
00:11:04 Yn 12 oed, gweithiodd Gordon ym marchnad Pontypridd ar ddydd Sadwrn, gan werthu papurau newydd South Wales Echo; rhannodd y papur newydd newyddion am drychineb mewn pwll glo yn Wrecsam
00:13:01 Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, mae tad Gordon yn trefnu swydd iddo yn gweithio yng Nglofa Pwll-gwaun (sy'n cael ei adnabod fel "Dan's Muck Hole"); ar ôl pedwar mis o weithio yno, mae iechyd meddwl Gordon yn dioddef o ganlyniad i weithio dan arweiniad person penodol ac mae’n gwrthod gweithio gyda nhw, felly mae'n dechrau gweithio gyda Mr Green
00:16:53 Ar ôl 10 mis, mae Mr Green yn gadael yr ardal, ac o ganlyniad mae Gordon yn mynd i weithio yng Nglofa'r Albion, Cilfynydd
00:20:10 Roedd nifer o fechgyn yn gweithio yno, ac roedden nhw'n dwlu ar Otto, un o ferlod y pwll glo
00:21:10 Cyflawnodd Gordon swydd y "sbâr" a chafodd ei baru gydag oedolion gwahanol o ddydd i ddydd; roedd e'n casglu'i gyflog gan bob un ohonyn nhw ar ddiwedd yr wythnos
00:22:16 Byddai cyflog Gordon yn mynd at ei fam a derbyniodd hanner coron yn arian poced ; byddai llawer o'i arian yn mynd ar ddanteithion melys, "peli eira" a chacennau te siocled
00:23:14 Mae problem gyda phendics Gordon yn golygu ei fod yn mynd i Ysbyty Caerdydd am lawdriniaeth
00:27:53 Mae Gordon yn ymuno â'r Gwarchodlu Cartref yn 16 oed; ym 1941 roedd yn rhaid i Gordon gofrestru i wasanaethu yn y Rhyfel a dewisodd Gordon ymuno â'r Llynges
00:31:56 Mae Gordon yn mynd i HMS Raleigh, Plymouth, ar gyfer ei hyfforddiant ac yna cafodd ei wneud yn warchodwr cyn cael ei anfon ar drên i Gourock, yr Alban, lle mae'n mynd ar long The Stafford am saith wythnos, ac yn teithio i lawr arfordir Affrica ger Camlas Suez lle caiff ei wneud yn warchodwr eto cyn ymuno â llynges fach 114 LCM (Bad Glanio Mechanized)
00:35:32 Mae ei daith yn parhau wrth iddo deithio i Borth Said, Alexandria, Goresgyniad Sisili, Malta, yn ôl i Sisili, y Messina Straights ac yna hyd at Taranto.
00:40:35 Mae Gordon yn gweld cyfyng gyngor yr Eidalwyr, o ganlyniad i newyn; mae Gordon yn gwarchod bwyd rhag gael ei ddwyn gan yr Eidalwyr ac yn meddwi yn Brindisi ar gyfer Nadolig 1943; aeth yn ôl i Messina ac yna i Napoli
00:43:07 Mae tri o'r chwe bad glanio a oedd yn rhan o lynges fach Gordon yn wynebu problemau; mae milwyr Americanaidd yn rhoi gwybod i Gordon fod mil o filwyr Americanaidd wedi’u lladd.
00:44:43 Mae Gordon yn dyst ac yn helpu yn sgil ffrwydrad erchyll ar y traeth; Mae'n cael ei wobrwyo gyda siot o rym
00:49:34 Mae Gordon yn cael rhodd o siocled Cadbury's a hosanau
00:52:30 Cafodd Gordon a'i griw eu hanafu pan fomiwyd y bad glanio (LCM 273) ar fwrdd y llong ym mis Mawrth 1944.
00:54:31 Mae bad Gordon yn dechrau suddo wrth iddo barhau i nyrsio anafiadau difrifol, mae rhai milwyr Americanaidd yn mynd â Gordon i'r tir er mwyn iddo gael ei drin gan nyrs Americanaidd.
00:57:06 Cafodd Gordon ei gludo ar long ysbyty i Napoli; Roedd Mynydd Vesuvius wedi ffrwydro'r wythnos gynt, gyda lafa yn dal i lifo i lawr y llosgfynydd; Mae Gordon yn aros yn yr ysbyty tan fis Hydref; yma roedd Gordon wedi cwrdd â nyrs ddigydymdeimlad o Gaerdydd
01:00:18 Wedi wyth mis yn yr ysbyty yn yr Eidal, mae Gordon yn dychwelyd i'r DU ar long ysbyty ac yn aros mewn amrywiaeth o ysbytai
01:02:00 Cafodd Gordon ei anfon i HMS Drake yn Devonport, Plymouth; roedd Gordon yn yr Alban pan ddigwyddodd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
01:03:33 Diweddglo