Gwen Griffiths: Hanes Crochendy Nantgarw

This item is active and ready to use
Gwen Griffiths: Hanes Crochendy Nantgarw

Manylion

Teitl
Gwen Griffiths: Hanes Crochendy Nantgarw
Lle
Ton-teg

Trawsgrifiad

00:01

C – Hannah Buckmaster ydw i a mae Celia Hunt ‘ma hefyd. Y dyddiad yw y 9fed o Ebrill 2024 a dwi’n siarad â Gwen Griffiths heddi, helo Gwen. [Gwen: Helo, shwmae]. Helo. Felly Gwen, gallen ni dechrau yn y ddechrau rili, allet ti son am pryd a ble ges ti dy eni i ddechrau?

00:19

Ces i ‘ngeni a magu yn ardal Hendy-gwyn tair milltir o bob man, lle o’r enw Pontyfenni. A wedyn, umm, ysgol ramadeg arferol ti’n gwbod, ysgol ramadeg fach, fach, fach. A wedyn, umm, fel llawer o bobol, crwydro tipyn. I ddechrau, yn un-ar-bymtheg es i i’r Gwasanaeth Sifil, wnes i wneud rhyw arholiad Gwasanaeth Sifil a bant a fi. A wedyn, o’n i’n teimlo awydd, mwy addysg, o’n i’n gwbod lle o’n i’n sefyll yn academaidd fel petai, achos o’n i’n, ti’n gwbod, cael pasio popeth fel petai. Ond beth bynnag, es i i Goleg Harlech am flwyddyn i wneud tri lefel A, a wedyn bant a fi i’r brifysgol yng Nghaerdydd. Ond, nodweddiadol, es i Gaerdydd achos bod cwrs ‘da nhw cyd-anrhydedd, Hanes a Cymraeg, a Archaeoleg y flwyddyn gynta, ac o’n i’n dwli ar y cwrs, o’n i’n dwli ar y cwrs i gyd, a oedd Archaeoleg yn eitha bwysig, a felly mae ddiddordeb mewn hanes, roedd darllen Hanes fel darllen nofel ti’n gwbod, mwy pleserus i dweud y gwir. A wedyn, umm, fel llawer o bobol, es i ddysgu. Swydd gynta, Ysgol Ramadeg y Merched yn Hwlffordd... roedd lot o deulu ‘da fi yn Gogledd Penfro felly o’n i’n eitha cartrefol fyny, a roedd y brifathrawes yn wych, roedd hi’n Gymraes o Lanelli, ac oedd y, Ysgol Ramadeg y Merched yn cael ei redeg yn berffaith. A gwyddonydd o’dd hi ei hunan, ac roedd cefnder ei mam yn weinidog yn Hwlffordd, so, roedd lot o weinidogion yn ei teulu, a beth bynnag, umm... A wedyn yn Sir Benfro yn Hwlffordd, gwrddais i â Gwyn Griffiths, ac o’dd e’n drefnydd Yr Urdd, ei job gynta fe o’r coleg, er bod e ‘di hyfforddi i ddysgu chwaraeon, job gynta, umm, trefnydd Yr Urdd yn Sir Benfro, a fe briodon ni a dechrau crwydro, achos aeth e i Aberystwyth i olygu cylchgrawn Yr Urdd, a wedyn roedd e’n weithio ar Y Cymro, a wedyn y BBC, allech chi dychmygu, yn mynd rownd Cymru, umm, Aberaeron, a wedyn draw i... a fues i’n dysgu yn Morgan Llwyd, Ysgol Morgan Llwyd, a wedyn lawr i Gaerdydd, a... y cwbwl o fewn rhyw saith mlynedd, rhywbeth fel ‘na. Umm, a wedyn oedd e yn swyddfa hysbysrwydd yn y BBC a roedd e’n sgrifennu erioed, ti’n gwbod. A o’dd e ddim ‘di wneud dim Ffrangeg yn yr ysgol, o’dd e’n gorfod dewis rhwng Ffrangeg neu Ffiseg, a dewisodd e Ffiseg, a roedd rhyw athro Ffiseg arbennig o dda... a wedyn Duw, umm... dechreuon ni fynd i Lydaw ar wyliau a wnaeth e ddarganfod bod dawn ieithoedd gyda fe, yn y diwedd roedd e’n gallu siarad Llydaweg a Ffrangeg... a wedyn, dyna fel y bu. Tro cynta inni symud lawr i fyw yma, fuon ni’n byw yn Ton-teg am rhyw, umm, o sai’n gwbod, rhyw wyth mlynedd falle. Lot o bobl yn dod i ardal Pontypridd a mae nhw’n dod o bob rhan o Gymru, a wedyn mae nhw’n dysgu yn yr ysgolion a pethe, mae’n eitha cyffredin... O’dd Gwyn ddim eisiau byw yng Nghaerdydd yn sicr, bachgen o’r wlad o’dd e, a fi, a felly Ton-teg, ond roedd Ton-Teg, chi’n gwbod, o’dd hi ddim yn bentre nac yn... a wedyn daethon ni i Bontypridd a dyna fe.

04:21

C – Felly pryd dechreuais ti, umm, fel cynghorydd i Plaid Cymru?

Wel, o’n i ‘di bod yn Ton-teg, felly chwedegau, o’n i’n graddio yn ’63, mae hwn yn gymhleth, umm, erbyn bod ni ‘di bod ym Morgan Llwyd, erbyn bod ni ‘di dod lawr, ’71... o’n i’n gynghorydd pan o’dd y plant yn eitha bach dwi’n meddwl yn Ton-teg. A wedyn, fel o’n i’n mynd nol i ddysgu, ac o’dd umm, cyfnod ola Taf Elái, so mae dyddiad fan hyn rhywle ond yw e, ’89, umm, tua’r cyfnod ‘na, umm... O’dd Ifor yn Gadeirydd, Ifor Jenkins oedd Cadeirydd Plaid Cymru o’dd yn rhedeg Taf Elái, a Ifor Jenkins o’dd Cadeirydd Hamdden, a wedyn roedd rhaid gweithio i berswadio... Sai’n siŵr am cost o brynu Nantgarw, achos dim ond rhywbeth bach bydde fe, a gytunodd y Cyngor... wnaethon ni wneud e. A o’dd Ifor Jenkins yn ddyn o Ffynnon Taf ac o’dd e’n dwli ar hanes Ffynnon Taf, achos ‘ma hanes y ffynnon fan ‘ny hefyd sy’n hen iawn, ma’ nhw’n gweud Rhufeinig ac ati, ac o’dd e di fod yn adfer hwnnw ac yn Gynghorydd ar ardal Nantgarw hefyd, wedyn, o’dd y peth yn cyd-fynd yn dda. Ac o’dd e’n frwd iawn, fe oedd yn cadeirio a fe oedd yn rhedeg y peth, a wedyn o’dd y cymdeithas Ffrindiau Nantgarw wedi’i sefydlu, ac o’n ni’n cael darlithwyr yn dod bob mis, a rhaglen o areithiau, ti’n gwbod. Wedyn o’dd y grŵp adfer adeiladau, wel yr archeolegwyr i ddweud y gwir, beth o’n nhw’n galw nhw, ‘Gwent and Glamorgan Archaeological Trust’.

06:18

C – Pryd oedd y Ffrindiau yn cael ei sefydlu?

Cyn hynny, wel, na, o’dd yr archeolegwyr mewn gynta, ac yn rhyfedd iawn, o’n i ‘di wneud gwaith archeoleg lan yn ardal o’n i’n byw ym Mhowys, ond o’n i’n dysgu yn Morgan Llwyd yn yr haf. O’n i’n mynd i hen domen gloddio, ac o’dd y boi o’dd yn rhedeg, ‘G’, beth mae nhw’n galw fe? ‘Gwent and Glamorgan Archaeological Trust’, o’dd e’n, o’dd hwnnw oedd yn rhedeg y gwaith archeolegol yn Nantgarw. Ond o’dd e’n gweud o hyd, dyw e ddim yn gwaith archeolegol iawn, achos ni’n jest yn trio adfer rhannau o’r tŷ, a wedyn daeth Mike Davies o gwmni’r adfer adeiladau sefydlu rhai o’r waliau o’dd yn debyg o ddisgyn ‘na. Yn raddol bach dros y blynydde ni ‘di cael grantiau bach wrth gwrs, ond ni erioed ‘di cael grant mawr, achos roedd adfer yr odyn sy’n tu fas y drws cefn, ma’ odyn fan ‘ny, odyn rhif 2 yw hwnna, dim yr hyna’, a wedyn yr un ‘da’r to drosto fe yw’r un hyna’ o’r tair odyn. Ond um, pryd hynny, um, sai’n gwbod siwt, ond achos o’n i ar y Cyngor siŵr o fod, roedd dau person bwysig iawn yn hanes cynnar Nantgarw, Sylvia a Dave Erasmus. Nawr, roedd e’n athro veritas micro-bioleg yng Nghaerdydd. Byw yng Nghaerdydd, cael ei fagu yn Bedwas neu Bargoed, o’dd e’n ddyn hynod iawn, iawn, ac o’dd e’n dwli ar Nantgarw a o’dd e yng nghanol pethau drw’r amser, ac o’dd e ‘di ymddeol, ac o’dd e’n rhoi amser ti’n gwbod, a hi’n ysgrifenyddes y Ffrindiau am flynyddoedd ac yn rhedeg pethe... A wedyn mae y ddoi o nhw, a wedyn ges i’n dynnu mewn i wneud gwaith gyda ysgolion i ddechrau. Beth o’dd yn digwydd, nhw o’dd wedi sefydlu gwasanaeth ysgolion, a beth o’dd yn digwydd oedd bod crochenydd ‘na, o’dd yn gweithio’n llawn amser ‘na, Bernard, ac o’dd e’n byw yng Ngwaelod-y-Garth.

08:40

A wedyn o’dd e’n creu gwaith yn debyg i blodeuog ac yn atgoffa dy hun o Nantgarw ond dim porslen wrth gwrs. Ac o’dd e’n rhedeg fusnes fach da iawn yn Nantgarw, a wedyn o’dd e’n wneud gwaith ysgolion, a wedyn o’dd, beth o’dd yn digwydd oedd bod, um, y plant yn dod erbyn 10am, blwyddyn 5 a 6 cynradd gan amlaf, weithiau uwchradd a weithiau plant anghenion arbennig, a wedyn o’n nhw’n cael hanes y lle, o’dd dosbarth yn rhannu’n ddwy a wedyn ti’n cael pymtheg yr un o’r 30 ti’n gwbod, a wedyn o’dd un yn cael hanes a’r llall yn wneud gwaith gyda’r crochenydd a wedyn newid drosodd. A wedyn o’n nhw’n cael eu casglu am 2 o’r gloch a mynd nol i’r ysgolion. A pryd hynny roedd tipyn bach o arian gyda cymdeithasau rhieni a pethe i redeg tripiau, nawr mae’n galed iawn ar ysgolion. Ond beth bynnag, am flynyddoedd roedden ni’n lwcus iawn, ti’n gwbod, yn dod yn yr haf, a wedyn o’n nhw’n, um... Yn dilyn Bernard, yn ei chwedegau wnaeth e farw yn eitha’ ifanc, a wedyn wnaeth Chris Hanratty, crochenydd o Gaerdydd, o’dd e ‘di graddio yng Nghaerdydd, a wedyn o’dd e’n dod o Malta yn wreiddiol, o’dd e’n hynod iawn i dweud y gwir, ond o’dd e ddim yn rhy hoff o ddysgu plant. Ond o’dd e’n siŵr o fod yn gweithio tua 4 mlynedd gyda’r plant, ac o’dd e’n wneud y gargoyles yma ti’n gwbod, gyda'r llygad yn ‘popo’ mas a pethe, o’dd y plant wrth ‘u bodd wrth gwrs. A wedyn o’n nhw’n dalu ychydig iawn, ti’n gwbod, £1 am clai, a dod a brechdanau eu hunain, a wedyn o’n nhw’n cael siocled am ddim, ac erbyn hynny roedd tipyn bach o te a coffi yn Nantgarw, a ti’n gwbod, y Ffrindiau, pwy bynnag o’dd ar y rota yn wneud e, o’dd pob amser 2 person ar y rota beth bynnag, ymwelwyr neu be ti’n galw, um, delio ‘da ysgolion. A wedyn o’n ni’n cynnig siocled poeth, o’n nhw’n gallu cael siocled poeth, a ti’n rhoi cynnig, uhh, cwpan a soser neu bicer, a o’n nhw bron bob amser yn gweud, “cwpan a soser, like my nan’s”, a wedyn, o’n nhw wrth eu bodd, o’dd hwnna am ddim.

11:08

A wedyn, dyna Gwasanaeth Ysgolion, ond o’dd e wedi cael ei gynllunio gan Sylvia a Dave Erasmus. Ac o’n nhw’n rhedeg Nantgarw am flynyddoedd, ti’n gwbod, hi yr ysgrifenyddes, a wedyn o’n nhw’n cael grant bach. Geson ni rhyw wobr gyda addysg gan rhyw gorff, a wedyn o’dd rhyw, um... O’n i’n wneud pethe yn Gymraeg wrth gwrs neu yn Saesneg, o’dd dim ots ti’n gwbod, a o’dd Dave yn wych, o’dd e’n gallu siarad ‘da plant, pobl o unrhyw oed i dweud y gwir, o’dd e’n hynod iawn iawn. A wedyn, uhh, dyna hanes Nantgarw am flynyddoedd. O’dd e’n gyfnod da iawn, ond rhyw ffordd neu gilydd ti’n gweld, roedd Rhondda Cynon Taf ddim eisiau gwario ar Nantgarw, a hyd yn oed o’n ni’n cael grant, o’dd e’n fach iawn gan amlaf ond o’dd e, Eglwys yng Nghymru, roedden nhw’n rhoi grantiau hanesyddol i hen adeiladau, ac o’n ni’n cael falle £10,000 i wneud dwy ffenest, rhyw pethe fel ‘na ti’n gwbod, symiau bach ar y cyfan. Un o’r bobl oedd yn bwysig hefyd o’dd Mike Morris, ac yn y dyddiau cynnar iawn roedd e yn drysorydd, a o’dd e’n gweithio i, beth mae nhw’n galw fe, y corff... [WDA oedd e?] Ie, Welsh Development Agency, a weithiau o’dd e’n diflannu i Tsieina neu America, o’dd e’n cael tripiau pell yma, ond o’dd e’n drysorydd Nantgarw yr holl amser. A o’dd Catrin hefyd, ti’n gwbod, o’dd y ddau ‘di cwrdd yng ngholeg, a rhyw, cefnder mam, briododd nhw, a ffeindio nhw nol o Sir Benfro ti’n gweld. Ond beth bynnag, o’dd e’n od iawn. Ac wedyn o’dd e’n ffrindie da o rhyw berthynas i fi eto ti’n gwbod, ffrindie ysgol, ffrindie gore ysgol... mae Mike Morris ‘di crwydro o’r gorllewin i’r dwyrain, ond beth bynnag, um, roedd e’n drysorydd da iawn, holl flynyddoedd yma nawr, mae’n dal i fynd ti’n gwbod.

13:17

Ond o’dd Rhondda Cynon Taf ddim eisiau gwario dim ar Nantgarw i dweud y gwir, ac yn diwedd, er ei bod ddim yn costio dim, dim ond rhyw £5,000 am waith ysgolion, ond o’dd e ddim yn digon i ddweud y gwir, um, gyda’r grwpiau ysgol. A wedyn daeth, wel y syniad oedd bod ni’n ffurfio ymddiriedolaeth. A’r un peth gyda’r Hetty ti’n gweld, gyda Brian Davies yn yr Hetty, ymddiriedolaeth, ond o’dd e ‘di trio am 10 mlynedd i gael y Cyngor i gytuno, o’dd e’n cymryd oesoedd. Ond o’n nhw’n eitha hapus i ni fod yn ymddiriedolaeth. Wi’n trio cofio nawr, um... Yn y cyfamser, pan o’dd jest y Ffrindiau, roedd Rhondda Cynon Taf yn fodlon talu am gofalwr o’dd e, Gerry, o’dd e’n byw yng Nghilfynydd, a o’dd e ‘di bod yn byw yn Ne Affrica, o’dd e’n boi, sai’n gwbod be’ o’dd ‘i waith yn wreiddiol, ond o’dd e’n dipyn bach o yfwr ac yn byte cyri bob amser cinio, a sglods. A wedyn, roedd e yn darllen trw’r dydd, a felly o’dd y llyfrgell gyfan ‘da ni o lyfrau ar seramig ti’n gweld, ac o’dd llyfrgell wych ‘da ni, a bobl ‘di gadael llyfrau i ni ti’n gweld, um, i wneud â, y porslen yn arbennig. Wedyn, roedd y llyfrau ‘ma yn Nantgarw a o’dd clo bach ar y cwpwrdd llyfrau mawr ‘da ni, a fuodd e’n gweithio ‘i ffordd, o’dd e’n wybodus iawn. O’dd e ddim yn siarad ‘da neb, o’dd e ddim yn dangos neb rownd y lle, ac roedd e’n eitha doniol mewn ffordd... fe o’dd y gofalwr swyddogol, mae’n rhatach i dalu’r gofalwr ti’n gweld na curadur ynte, er bod rheina ddim yn cael eu talu’n dda iawn i dweud y gwir. Ond beth bynnag, dyma fe yn Nantgarw yn darllen ‘i ffordd trwy hanes porslen a seramig am flynyddoedd ti’n gwbod, a wedyn daeth e i oed ymddeol, a Duw, roedd rhaid cael swyddog wedyn ond oedd? Wel, gariodd pethe ‘mlaen am gyfnod wedyn a, ti’n gwbod, wi’n trio cofio, o’dd rhywun heblaw...

16:00

Erbyn, y Gwasanaeth Ysgolion wedi dirywio tipyn achos gost, o’dd Sally a fi yn mynd mas ambell waith i ysgol, a wedyn o’n ni’n, ti’n gwbod, siarad ‘da plant pwy bynnag blwyddyn o’dd ishe ni, blwyddyn 5 a 6 gan amlaf, a wedyn o’dd Sally yn sôn am y grochenwaith, o’n i’n sôn am yr hanes, a wedyn mynd a hen slides, ti’n gwbod, a gweud, “and Gwen is now going to show you old technology.” Old technology, “oh, my nan’s got one of those.” O’dd e’n sbort. O’dd e’n hwyl ti’n gwbod. Ond o’n nhw ddim yn dod i’r lle, o’n ni’n trio perswadio nhw i ddod ond o’dd e’n anodd. Achos ni ddim yn agos iawn i ysgolion, um, Ddraenen Wen falle yw’r ysgol agosaf, Cwrt Rawlin. Mae Cwrt Rawlin yn ddiddorol iawn, achos roedd un o’r ferched, Alice Pardoe, wedi priodi mab y teulu Rawlin, o Cwrt Rawlin, plasty bach yno... heddi does sdim byd yno ond stad o dai, ysgol a tafarn, a enw’r dafarn yw Cwrt Rawlin a enw’r ysgol yw Cwrt Rawlin, a ti’n gwbod, mae’n rhaid bo nhw’n Gymry Cymraeg, achos, ti’n gwbod, fel o’dd pawb yn Gymry Cymraeg. Ond o’dd e’n gyfreithiwr dwi’n meddwl yng Nghaerdydd, a o’dd Alice Pardoe ‘di wneud, wedi priodi’n dda ond oedd hi? Achos, o’dd hi ‘di cael tipyn bach o addysg hefyd, o’dd e’n deulu mawr, ac um, mae’r lluniau ohonyn nhw yn Nantgarw. Achos, mae’r gwr a gwraig Rawlin, Alice a, sai’n cofio enw fe, beth bynnag, Cwrt Rawlin oedden nhw, achos o’dd lot o blastai bach yn ardal Caerffili, a wedyn o’dd hi’n un ohonyn nhw. Mae jest lan y ffordd yn y car ond yw e?

17:50

C – Gwen, allet ti sôn am hanes teulu y Pardoe?

O, ai nol at y Billingsley ie cynta, wedyn... Ti’n cael y Billingsley... Billingsley a Pardoe, ‘na’r bobl seramig Nantgarw, wel, porslen. Ond wnaeth Pardoe ddim wneud porslen, wnaeth e beintio porslen ddim wneud e. A’r cynta i ddod ‘na oedd, um, William Billingsley, ac o’dd e’n crwydro achos, fel Pardoe, roedd y ddoi wedi ‘fforddi i beintio a gwneud porslen yn Derby. Ac wedyn, o’dd y bobl yma’n cael, o’n nhw’n crwydro a’u sgiliau nhw mor dda o’n nhw’n cael eu talu’n dda, felly o’n nhw’n sylweddoli, ti’n gwbod... Gadawodd Pardoe wraig ar ôl yn cadw tafarn dwy’n meddwl yn Derby, a wedyn, o’dd Billingsley wedyn yn, mae’n debyg bod e’d dianc oherwydd, mmm, dwi’n meddwl bod dyledion ‘da fe, a’r teulu, a wedyn daeth e i Nantgarw i osgoi gorfod wynebu ti’n gwbod, achos ti’n cael eich roi mewn carchar tan bod eich dyledion wedi’u talu a dyna fe. Ond beth bynnag, daeth e i Nantgarw a dyw, yn raddol bach... O’dd ffrind ‘da fe, William Weston Young, roedd e’n dir feddiannwr bach, ti’n gwbod, gyda tipyn bach o dir a tipyn bach o gyfoeth, arian i sbario, ac o’dd e’n gwbod am crochenwaith Abertawe a Nantgarw, ac wrth gwrs, o’dd lot o bobl ‘ma, Abertawe gynta a wedyn Nantgarw, achos roedd crochenwaith yn Abertawe yn hynach na Nantgarw, a Llanelli wrth gwrs, a, dim porslen yn Llanelli, ond o’dd crochenwaith yn cael ‘u wneud ac yn cael eu datblygu ti’n gwbod. Ac wrth gwrs mae hwnna i gyd ‘di diflannu o Abertawe, achos mae gyda ti’r marina... mae’r hen ardalau diwydiannol ar goll yn llwyr. A felly roedd yr um... y crochenwaith... o’dd llawer ohonyn nhw yn gweithio yn Abertawe ac yn datblygu pethe, ac yn peintio yn arbennig, a o’dd sgiliau peintio, ti’n gwbod, ma’ peintio ar ganfas neu rhywbeth, ti’n meddwl mae’n gyfrwng eitha solid ond yw e ti’n gwbod, ond pan ti’n meddwl am grochenwaith, porslen, mae mor ysgafn, tenau, ac eto’n gryf rhyw ffordd. Mae’n datblygiad arbennig o seramig ond yw e, achos mae seramig o Tsieina’n gadarnach, yn dewach, ac yn, mae gwahaniaeth ond o’s e yn y ddau.

21:00

A wedyn... o’dd hwnnw’n datblygu yn y ddeunawfed ganrif ond o’dd e, yn datblygu yn raddol, trwy Brydain, ac o’n nhw’n dod a lot o, Tsieina’n agored iawn pryd hynny, yn dod draw a stwff, a wedyn o’n nhw’n gwerthu e, ac yn copïo fe, a’r crochenwaith yn copïo llawer o bethe. A wedyn ffasiwn y cyfnod hefyd. A o’dd Billingsley yn gwbod yn iawn, o’dd e’n deall, ti’n gwbod, siwt o’dd cynhyrchu stwff, ond roedd problem ‘da fe gyda tanio achos roedd problemau, umm, o’dd damweiniau’n digwydd wrth grasu’r crochenwaith y porslen, a porslen, ti’n meddwl, ‘o’. O’n nhw’n arbrofi drw’r amser, a felly, o’dd Billingsley, umm, daeth e i Nantgarw gyda dwy ferch ag o’dd rheini hefyd siŵr o fod yn gweld, o’n nhw’n dysgu wrth eu tad ac yn wneud gwaith gyda fe, a fuodd e yno am, wel, dim yn hir iawn ti’n gweld, umm, saith mlynedd rhywbeth, 1813 i 1820. A wedyn, wnaeth un o’r merched, o’dd un dyn gyda fe, hen ffrind oedd yn wneud y gwaith corfforol o danio’r odynau, a ti’n gwbod, cadw’r gwres i fynd... o’n nhw i gyd yn arbenigwyr yn eu gwaith mewn ffordd, ond o’dd e’n dal i gael problemau ac o’dd e’n colli lot o’r crochenwaith. A wedyn weithiau o’dd e’n addurno, weithiau roedd comisiwn gan rhyw deulu cyfoethog, ac o’dd comisiwn yn golygu bod yr addurno yn cael ei wneud yn Llundain. Felly o’dd lot o addurnwyr yn Llundain yn peintio porslen, a ‘na gyd o’n nhw’n wneud, ac o’n nhw’n wneud e ar gyfer, ti’n gwbod, gwaith fel, mae nhw’n gweud bod llestri porslen o Brydain, neu dwi ddim yn siŵr Nantgarw, yn, wedi mynd mor bell a Rwsia, ti’n gwbod, o’dd teuluoedd cyfoethog yn barod i dalu rhywbeth mawr am grochenwaith porslen... A dyna oedd y cyfnod cynnar gyda Billingsley. Ond farwodd y ddwy ferch. O’dd un wedi priodi, sai’n cofio ei enw fe nawr, mae gyda fi yn fy nodiadau [Sarah a Lavinia]... dwi’n meddwl bod copi gyda fi rhywle fan hyn, o briodas Sarah [i Samuel Walker], ‘na fe, Samuel Walker, sori, ie. Ond, wnaeth nhw’n farw’n ifanc ti’n gweld, a wedyn wnaeth e jest, off a crwydro, aeth e nol, aeth e i Fryste, wnaeth e grwydro.

24:13

Ac yn y cyfamser, roedd William Weston Young yn ymddiddori lot ac o’dd tipyn bach o arian ‘da fe, pan o’dd William Billingsley mewn trafferthion ariannol, achos o’dd ddim llawer o arian ‘da fe pan ddaeth e, er bod e wedi ennill yn dda, o’dd £250 gyda fe, ond o’dd William Weston Young yn rhoi £300 mewn, £600 mewn, arian mawr pryd hynny ti’n gwbod, aruthrol o fawr i ddweud y gwir, jest i gadw y gwaith i fynd, y gwaith porslen, a dyna o’dd ddiddordeb mawr William Weston Young. Ac o’dd e hefyd yn peintio ei hunan, ac o’dd e’n peintio, mae ‘na lyfr i gael o tirlunied dwi’n meddwl, William Weston Young, sy’n, pwy sy’ a fe gweud, mae copi gyda rhywun dwi’n nabod, a dwi ddim yn cofio pwy nawr. Copi o, umm, dim Gwm Cynon, cwm, be’ sy’n bellach lan? Beth bynnag, roedd plasty bach gyda fe fyny, a fferm ac ati. Ond, ei ddiddordeb mawr e oedd peintio’r borslen, ac o’dd e ddim yn gallu wneud y gwaith fel Pardoe a Billingsley, ond wnaeth e ofyn i Tom Pardoe, ti’n gweld, i ddod. Wel nawr, roedd Tom Pardoe, i beintio stwff, o’dd porslen heb ei beintio, roedd Billingsley wedi gadael ar ei ôl bant o fe, a gadael stwff. A o’dd lot o waith peintio, o’dd Pardoe yn addurnwr da iawn ond oedd e... o’dd e’n gallu peintio mewn cylch, blodau ‘ma mewn cylch ar cwpan a soser, ti’n gwbod, hyfryd... Yr un hyfforddiant yn Derby... Mae rhyw syniad ‘da fi bod, wnaeth Pardoe farw cyn Billingsley, ond falle bod Billingsley wedi hyfforddi Pardoe, achos roedd tipyn bach o wahaniaeth mewn oed, a wnaeth Billingsley fyw yn hirach, ond umm, erbyn 23 dwi’n meddwl wnaeth Pardoe farw [ie, 23, Pardoe]... Tair mlynedd o’dd e ‘di peintio pethe Nantgarw, y porslen o’dd Billingsley wedi gadael ar ei ôl. Ac o’dd hwn a gwerth iddo fe, a o’dd William Weston Young yno, ti’n gwbod, rhywle.

26:30

A wedyn o’dd teulu Pardoe yn fawr... ac o’n nhw’n oedolion erbyn hynny, o’dd umm... William Henry o’dd yr un wnaeth cymryd drosodd wedyn yn y ‘20au [heb porslen], dim porslen yn cael ei gynhyrchu ‘na, llestri pridd. A wnaethon nhw ymateb i’r cyfnod, achos pryd hynny roedd Chwyldro Diwydiannol, pentrefi bach yn tyfu bob man, gwaith haearn a dur, gwaith glo, a bobl, falle am y tro cynta, â tipyn bach o arian i wario, o’dd rhein yn cael eu gwerthu mewn siop yng Nghaerdydd gyda’r Pardoes, o’n nhw’n gwerthu pethe... llestri pridd ti’n gweld, nid porslen... Ond un peth mawr o’dd baco, tobacco, a pibau clai, a dyna o’dd ffasiwn y cyfnod, cynhyrchu pibau clai dros Prydain i gyd. Ac yn wahanol i fel, mae merch ‘da fi yn byw yn Ontario, a mae amgueddfa a mae nhw’n dangos y biben clai fawr, o’dd yn cael ei basio fel ritual, ti’n gwbod, seremoni, ti’n gwbod, crefyddol oedd e, yn rheoli yn y llwyth, y first nations yng Nghanada... ac wrth gwrs o’dd neb yn mynd yn rhyw fath o adict i faco pryd hynny, fel ‘ma, ond yma wrth gwrs, baco, pob un a’u baco. Ac wrth gwrs, allet ti weithio mewn lot o fannau o’n nhw’n dal y biben yn eu ceg, yn eu dannedd, a wedyn o’n nhw’n... [trwy’r dydd], oedd, trwy’r dydd, meddylia. Ond o’dd baco yn eitha drud hefyd wedi meddwl. Mae ‘na biben fach, fach yn Nantgarw ond os e, piben fach, a ti’n meddwl piben plentyn o’dd e, mae’n fach, fach, fach, umm, pibau clai. A dyma nhw’n ffeindio bod marchnad mawr i bibau clai, a mae’r gair Pardoe ar yr ochr ond os e, y rhai yn Nantgarw. Y pibau bob dydd yn cael eu gwerthu yn tafarnau ac ati, a o’dd hwnna’n farchnad da. A pan ‘y ti’n edrych ar y cyfrifiadau 1841, 1851, mae un ’51 wedi cael ei transcreibio felly ti’n gallu deall e, mae, ti’n gwbod, pipe maker, pipe maker, bobl yn gweithio yn Nantgarw, pipe maker. Dim llawer, dwi’n meddwl bod un potter yna, felly o’dd y llestri crochenwaith, umm, pibau o’dd y busnes mawr [ie]. O’dd e fel production line... a plant yn gallu wneud e, plant 9, 10 oed, yn ran o’r gwaith. Teuluoedd cyfan, o’dd rhyw deulu o Millers yn dod o Cork, a nhw’n gweithio yn y cyfrifiad yma, pob aelod o’r teulu, a mae un lleia o’r teulu ar y cyfrifiad yn cael ei alw’n, o’dd e’n 6 oed neu 5 oed, a o’dd e’n cael ei alw’n ‘messenger’, felly o’dd gyda fe job fach yn rhedeg rownd y safle, ti’n gwbod.

28:48

Ac o’dd yr adeiladau tu fas i gyd pan ti’n meddwl, y gwaith, cyfnod Pardoe i gyd bron, achos, roedd pibau a gwaith crochenwaith, porslen, o’dd angen rhyw, umm, o’dd rhaid cael odyn lan iawn, iawn, a felly roedd y mwg yn mynd tu fas, o’dd e fel wal ddwbl i’r odyn, a lle o’dd y gwres yn mynd lan a o’dd e byth yn mynd mewn i’r odyn tu fewn. Felly o’n nhw gorfod bod yn ofalus iawn bod dim brychau ti’n gwbod, bits a phethe. Ond gyda llestri pridd a pethe fel ‘na, dwi’n meddwl gyda, neu pibau clai felly, ti’n gwbod yr holl lychau ‘na yn Nantgarw sy’n cario’r, umm, mae nhw’n roi pethe ar ben eu gilydd, a stacio nhw, a wedyn o’n nhw’n cadw fe’n weddol lan, ond o’dd lot o frychau’n mynd mewn o’r tanau tu fas i’r odyn tu fewn a cadw’r gwres. O’dd e’n gwaith pwysig, cadw’r tymheredd a pethe, achos allai ddamweiniau, ti’n gwbod, o ti’n cael trychineb gwres yn yr odyn, pan ti’n cael yr holl pibau clai wedi stacio, ti’n gwbod, cannoedd ohonyn nhw, wel, o’dd e’n gostus iawn felly o’n nhw’n ofalus iawn, y dyn o’dd yn tanio yr odynau ‘ma yn bwysig iawn. Ond gyda’r porslen o’dd e’n mater gwahanol... Mae ‘na rhyw lyfr yn y llyfrgell yn Nantgarw dwy’n meddwl, umm, hanes odynau trw’r canrifoedd, yn mynd nol ti’n gwbod, mae rhai canol-oesol, rhai Rhufeinig ac ati, a wedyn mae pibau, odynau glan yma, o’dd rhaid cael, felly o’n nhw’n meddwl yn Nantgarw, yn gegin, lle’r oedd y gegin yn y cefn, mae’n nhw’n meddwl bod ‘na odyn fach fyna ar gyfer y porslen yn unig [oedd, ie oedd], achos bod y wal, y cerrig ar y wal yn braidd yn ddu yn wreiddiol ti’n gwbod, o’dd e’n edrych fel base gwres wedi bod ar y wal fyny. Ac wrth gwrs falle bod y tymheredd yn uwch ond oedd e ‘na ar gyfer llestri pridd. Ond beth bynnag, roedd y trychinebau Billingsley druan, ti’n gwbod, o’dd y peth yn gymhleth ond oedd e, a mae Sally wedi wneud gwaith gwych ond yw hi, mae’r ymchwil mae hi ‘di wneud a pethe, a o’dd hi’n gweud bod porslen bob amser yn anodd iawn i ddefnyddio. Mae’n hoffi defnyddio fe medde hi, ar yr olwyn, ond mae’n anodd i gadw fe a danio fe, ti’n gorfod wneud popeth yn gyflym ti’n gwbod.

32:42

[Achos mae Sally yn gwneud porslen nawr]. Ydy, mae ‘di ail-greu, a mae’r cymysgedd yn trio mynd nol i’r cymysgedd oedd gyda Billingsley gwreiddiol. Achos wrth gwrs mae’n golygu, mae carreg, umm, mali yn y cefn ond os e, mas yn yr ardd, a beth o’n nhw’n wneud o’dd mali esgyrn anifeiliaid, a, ti’n gwbod, o’dd hwnna’n mynd mewn i’r cymysgedd porslen, ond mae’n dal yn gymhleth dwi’n meddwl, mae dal yn eitha, eitha, mae’n cael trafferth nawr ond yw hi, Sally, beth bynnag. Ond dyna’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod diwydiannol, cynhyrchu pethe i cael eu gwerthu yn rhad ar y cyfan, yn arbennig y pibau clai, a fe barodd hwnna reit lan hyd 1920. Achos, y newid mawr oedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a America yn dod mewn, a sigaréts, a raddol bach mae baco yn wahanol... cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf o’dd hwnna, a wrth gwrs roedd llai o angen. Ac wrth gwrs, roedd neb yn gallu defnyddio pibau clai mewn rhai diwydiannau, dim pyllau glo wrth gwrs. Ond, bron pob gwaith arall gallech chi dychmygu pobl gyda pibau clai, o’n nhw’n smygu, a pob un yn smygu, ti’n gwbod, o’dd menywod a dynion yn smygu. Busnes diwydiant mawr o’dd pibau clai. Llestri pridd, umm, llestri defnyddiol ar gyfer bob dydd. Hyd yn oed potiau inc ar gyfer ysgolion ar ôl 1870, ysgolion cynradd. Wedyn ti’n cael, jygiau a bob math. O’dd amrywiaeth aruthrol yn cael ei wneud ‘na.

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Gwen Griffiths
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Hannah Buckmaster & Celia Hunt
Dyddiad y cyfweliad
09/04/2024

Labelau