O’dd yr awyrgylch, mae’n dweud yn rhywle, mae pawb yn defnyddio’r term o’n ni’n ‘deulu’, wel, yn sicr, mi oedd Ysgol Gymraeg Cwmdâr, neu Aberdâr, yn deulu cyfan. A chi’n profi hynny heddi wrth bo chi’n cofio enwau eich brodyr a chwiorydd ac yn y blaen, mae e’n rhyfeddol a mae rhaid i hwn bara. Y rhieni yna, y pwyllgorwyr yna, ‘ddari brwydro yn galed, galed, i sefydlu’r Ysgol yma, ac y brwydrodd am flynyddoedd cyn y flwyddyn honno yn 1949. Ie, o’n i’n bump y diwrnod ar ôl i’r Ysgol agor ar Medi’r 7fed, ac o’n i jest yn ddarllen mai o Gwmdâr a rhan ucha’r cwm o’dd y plant yr wythnos gynta, dyna pam o’dd y rhifau fel ‘na, ac yna o’dd plant rhan isa’r cwm, neu, rhan arall y cwm lle o’n i’n byw yn Aberaman, dyna pryd gawson ni ddod i’r Ysgol. Ond tu cefn i ni gyd, mae ‘na lu o bobl, nad ‘y ni’n gwybod eu henwau nhw, mae ‘na rhai ‘y ni yn gwybod eu henwau nhw, os gai enwi fy nhad, o’dd yn Parch Glannant Jones, o’dd yn un o’r rhai fu’n brwydro yn galed, galed, ac o’dd yn ysgrifennydd y Pwyllgor Rhieni. Ond mae ‘na rhai eraill ‘na fydden ni, na dydw i yn gwybod eu henwau nhw, ond nhw yw’r cwmwl tystion sydd yn gwneud yr Ysgol, a wnaeth yr Ysgol yma yn bosib, a plîs, mae rhaid iddi gadw ymlaen, mae rhaid iddi bod yr un mor falch ag oedden ni a gyda ni o’n Cymreictod. Ymlaen Ysgol Gymraeg Aberdâr.