00:00:01 Rhagarweiniad
00:00:15 Ganed Harry yn Glifach Goch ym 1944, yn un o wyth o blant; gwas stabl oedd tad Harry, David, ac roedd yn gofalu am ferlyn pwll glo; mae diwrnod cyntaf trawmatig Harry yn yr ysgol ychydig yn haws oherwydd presenoldeb ceffyl siglo yn yr ystafell ddosbarth
00:02:24 Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn gwylio'r teledu, ac arweiniodd hynny ato'n dod yn "Rhondda Cowboy"
00:03:16 Aeth tad Harry ati i'w annog i ddilyn gyrfa uwchben y ddaear 'yn yr heulwen' ac arweiniodd hynny'n ato'n cael ei swydd gyntaf gyda'r Comisiwn Coedwigaeth
00:04:42 Derbyniodd Harry swydd yn gwneud yr hyn roedd wir eisiau ei wneud sef gyrru cloddwyr ar gyfer y diwydiant adeiladu. Harry oedd y cyntaf i yrru'r cloddiwr cwbl hydrolig cyntaf a adeiladwyd yng Nghwm Rhymni; yr Hymac
00:05:38 Er siom i’r Docwyr, llwyddodd i ddefnyddio cloddiwr a chlirio glo ar long yn Noc y Frenhines Alexandra, Caerdydd
00:07:08 Gwelodd Harry geffylau am y tro cyntaf ar daith i Borthcawl a gwariodd ei holl arian poced ar reidiau merlod ar y traeth
00:08:01 Ar ôl ymddeol, penderfynodd Harry brynu ceffyl, Jasper; Wedi'i ysbrydoli gan ei ŵyr sy'n awtistig, bachodd Harry ar y cyfle i wireddu breuddwyd oes a dod yn gowboi a dechrau codi arian ar gyfer elusennau yn ei ddillad cowboi
00:10:52 Parhaodd Harry â’i ymdrechion dros elusennau gan ymddangos fel y “Rhondda Cowboy” mewn achlysuron fel Gŵyl Aberhonddu a chafodd wahoddiad i Sioe Frenhinol Cymru; dysgodd Harry ei hun i fod yn farchog llymesg
00:11:57 Roedd Harry yn un o wyth o blant a thad Harry yn un o ddeunaw o blant; roedd Harry yn cael lifftiau o amgylch yr ardal leol gan ei frodyr hŷn a oedd yn yrwyr trên
00:13:40 Cafodd hen daid Harry, a oedd wedi ymfudo i America, ei grogi ar ôl lladd ffrind - ymddengys iddo saethu'r dyn ar ddamwain pan oedd wedi meddwi.
00:15:35 Gwybodaeth am ymfudiad hen daid Harry i America; sylweddolodd taid Harry bod cyflog ac amodau diwydiant glo America yr un mor wael â Chymru a phenderfynodd ddychwelyd i Gymru
00:17:45 Cyfarfu modrybedd Harry â'r awdur Richard Llewellyn ac roedden nhw'n rhan o'r ysbrydoliaeth y tu ôl i 'How Green Was My Valley'; dechreuodd tad-cu Harry, Richard, focsio heb fenig i ennill arian ychwanegol, gan ymladd ar ochr y mynydd
00:20:54 Gwelodd Harry ei sefyllfa deuluol ei hun yn y ffilm 'How Green Was My Valley'; cofio Gilfach Goch yn blentyn, bywyd yn yr awyr agored heb geir ar y strydoedd
00:24:37 Cofio Western World (parc thema byrhoedlog a ysbrydolwyd gan fyd y cowbois ar safle hen Lofa Fernhill, Treherbert ym Mlaenrhondda)
00:29:10 Wedi'i ysbrydoli gan Western World, penderfynodd Harry adeiladu ei dref cowboi ei hun ar gyfer plant; ond ar ôl deunaw mis o waith, cyn ei gwblhau, bu'n rhaid i'r teulu a oedd yn berchen ar y safle symud a gwerthu'r tir lle'r oedd wedi'i leoli
00:31:48 Rhannodd Harry ei gariad at geffylau gyda’i ferch; Roedd Harry a'i ferch yn cymryd rhan mewn achlysuron elusennol yn y Badminton Horse Trials; ar ôl rhai pryderon diogelwch cychwynnol am het Stetson Harry, caniatawyd iddo gymryd rhan a chafodd ei wahodd yn ôl y flwyddyn ganlynol
00:34:12 Bu'n rhaid i Harry ymddeol o farchogaeth oherwydd pryderon diogelwch ffyrdd a biliau milfeddyg posibl; lle cafodd Harry ei holl ddillad cowboi
00:36:15 Cysylltodd Cymdeithas Owain Glyndŵr â Harry ar ben-blwydd Owain Glyndŵr yn 400 i chwarae'r tywysog wrth farchogaeth Jasper
00:37:49 Gwahoddwyd Harry i gwrdd â Glenn Campbell, canwr y record boblogaidd 'Rhinestone Cowboy' ond yn anffodus oherwydd bod Glenn yn sâl, ni ddigwyddodd y cyfarfod
00:40:27 Ar ôl ymateb i raglen ffonio Radio Wales, cyrhaeddodd Harry restr westeion i weld Max Boyce; cynlluniau Harry ar gyfer angladd ar thema y Gorllewin Gwyllt
00:42:52 Arweiniodd Harry a Jasper daith gerdded elusennol ar gyfer Cancer Research. Cyfarfu Harry â'r gantores a chyfansoddwraig, Charlotte Church, y dylunydd ffasiwn, David Emanuel, a'r gantores Gymreig, Katherine Jenkins
00:45:10 Gwaith Harry fel ecstra teledu; aeth Harry at yr actor, Matthew Rhys, gyda chrynodeb o'r ffilm a derbyniodd adborth cadarnhaol
00:48:06 Mae Harry yn priodoli ei greadigrwydd i'w ddyslecsia
00:49:19 Diweddglo