Cliff Hewitt & Mair Lewis: Y 'Frwydr' ac Agoriad YGG Aberdâr

This item is active and ready to use
Cliff Hewitt & Mair Lewis: Y 'Frwydr' ac Agoriad YGG Aberdâr

Manylion

Manylion

Cafodd hwn ei recordio y tu fas i gatiau Ysgol Gynradd Sirol Cwmdâr, sef safle gwreiddiol Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr.

Gwelwch yr arddangosfa Yma O Hyd - YGG Aberdâr a gwyliwch y ffilm 'Yn y Cwm' - 75 Mlynedd o YGG Aberdâr

Trawsgrifiad

CLIFF HEWITT: O’dd rhan helaeth mawr o’r bobl ‘ma o’dd yn gwrthwynebu yn erbyn yr Ysgol, o’n nhw’n siarad Cymraeg eu hun. Ddim jest pobl di-Gymraeg yn erbyn pobl Cymraeg o’dd e, o’dd rhai o bobl o’dd yn siarad Cymraeg yn blaenllaw yn y protest yn erbyn e. A o’dd y mamau fan hyn, braich ym mraich, yn trio stopid plant i fynd mewn, a o’dd tipyn bach o ‘Mexican stand-off’ wy’n meddwl, o’dd neb yn gwybod beth o’dd yn mynd i ddigwydd. A wnes i ddim weld hwn fy hun, ond o’dd un dynes, Mrs Davies o’dd ‘i enw hi, a o’dd ‘i plentyn hi i ddod i’r ysgol ‘ma, wnaeth hi colli amynedd efo’r pobl jest yn edrych ar eu gilydd, wnaeth hi dala yn ei phlentyn a jest marcho reit trwy’r llinell ‘na o menywod, a dyna fo wedyn, wnaeth y protest ‘physical’ gorffen pryd ‘ny a wnaeth pawb jest cerdded mewn. Ond, licsen ni dweud un peth ar yr amser hyn, o’dd lot o gwrthwynebiad yn erbyn yr Ysgol fel o’n i’n gweud, yn y pentre, ond pob clod i staff y ddoi ysgol, Mr Davies yn yr ysgol Saesneg a Idwal Rees yn yr ysgol Cymraeg, wnaeth y casineb ‘na ddim dod trwodd i ni yn yr ysgol, a wnaeth y ddoi ysgol gweithio yn galed iawn ac yn agos iawn at eu gilydd i wneud llwyddiant i’r ddoi ysgol, so mae rhaid rhoi y parch i staff yr ysgol Saesneg o’dd yn helpu y staff yn yr ysgol Gymraeg, yn enwedig yn yr wythnosau cynta ‘na.

MAIR LEWIS: Ie, yn bendant. Rhaid cofio hefyd, o’dd y frwydr i gael yr ysgol, y rhieni yn cael gweld yr adeilad a’r cynghorwyr yn gweud bod, ‘na’r adeilad, mae celfi i gael lawr yn rhyw warws rhywle, a mae rhaid i chi ffeindio’r prifathro, a i ffeindio’r athrawes gynta. So o’dd y frwydr wedi bod yn frwydr mawr, a wedyn, ar y bore cynta, i gael y gwrthwynebiad o bobl o’dd yn mynd i’r capel gyda nhw ‘na’r peth, ‘na’r peth gwaetha, o’n nhw’n rhannu’r capel ar y dydd Sul a wedyn dod lawr ar y dydd Llun, a gweld y gwrthwynebiad, o’dd e’n eitha brawychus i weld hwnna, o’dd e’n ofnadw.

CLIFF HEWITT: Wy’n cofio, wy ddim yn cofio y ‘details’ o’r trafodaeth ond wy’n cofio’n nhad yn sefyll tu allan i’r drws ffrynt efo hanner dwsin o dynion eraill, o’r capel a ddim o’r capel, wrth ‘i gwmpas, o’dd e’n reit amlwg bod nhw’n siarad am yr ysgol Gymraeg, a o’dd un brawddeg, y brawddeg ola o’r sgwrs ‘ma sy’ ‘da fi yn fy meddwl i hyd at nawr, fel o’n nhw’n mynd i ffwrdd, mae rhywun yn troi rownd at fy nhad a gweud, ‘byddet ti’n difaru’. A mae falch ‘da fi i weud wnaeth e ddim difaru. A dwi’n prowd iawn o’n nheulu bach i, so, wedi gweithio mor galed i cael yr Ysgol, efo cymaint o bobl eraill wnaeth gweithio’n galed iawn i sefydlu yr Ysgol.

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Cliff Hewitt & Mair Lewis
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Hannah Buckmaster
Dyddiad y cyfweliad
02/12/2024

Labelau