DAVID LESLIE DAVIES: O’dd penodi Idwal Rees ym 1949 yn benodiad gwbl, gwbl, gwbl allweddol. Achos, nid ond mod gyda e’r natur a’r naws personol i greu awyrgylch naturiol, gofalgar, ond ife am blant, ond o’dd e’n ddyn o’dd yn enyn parch, nid dim ond o fewn ond oddi mas hefyd, i fath o’r cylch Cymraeg, achos o’dd e wedi treulio oes cyn bod e’n mynd yn brifathro yr ysgol Gymraeg, fel athro Cymraeg a cerddoriaeth yn Ynyslwyd, a wedi bod yn weithgar gyda cangen Aberdâr, cangen Cwm Cynon, y League of Nations Union er enghraifft, yn trio hyrwyddo heddwch rhwng bobl rhwng y ddoi rhyfel ond ife. A wedyn ar ôl y rhyfel, 1945 tan 1949, o’dd e ymysg y bobl gynta o’dd yn trio trefnu gwyliau i blant o dramor, yn enwedig o Denmarc a’r Iseldiroedd i ddod draw i Aberdâr, i Gymru, i brofi siwt i ail-adeiladu cysylltiadau rhyngwladol heddychlon, pobl o fan hyn yn mynd draw i Ddenmarc a Ffrainc wedyn i wneud yr un peth acw. Hynny yw, o’dd ‘na eangfrydedd ynddo fe o’dd pawb yn gwerthfawrogi. O’dd e’n frwd dros y Gymraeg, ond hefyd o’dd e yn eangfrydig iawn ‘i feddwl ac yn agored i’r byd, ti’n gwbod, a o ddarllen hanes ei benodiad e, mae’n dyfynnu ar adeg ‘i benodi ar ôl y cyfweliad, y pennill bach yma, mae’n gweud, “Dante – dos i'w ddilyn, Shakespeare – tro i'w fyd, ond cofia di Bantycelyn yr un pryd."
HYWEL DAVIES: O’dd sefydlu ysgol Gymraeg yn weithred arwrol wi’n credu, yn yr oes honno, a mae lot o’r llwyddiant yn dibynnu ar arweinyddiaeth Mr Rees. Oni bai amdano fe dwi ddim yn credu fyddai’r ysgol wedi gael ei sefydlu yn y lle cynta. Gweledigaeth, a phendantrwydd. Y polisi o’dd gyda Mr Rees yn wreiddiol o’dd bod rhaid i un o’r rhieni fod yn gallu siarad Cymraeg. ‘Na’r polisi swyddogol ar y cychwyn, ond bod un o’r rhieni, o’ chi’n cael mynediad. O’dd e’n aberth hyd yn oed pryd hynny, o’dd dad gyda’n nheulu i er enghraifft, o’dd e ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl, a o’dd e methu helpu wedyn gyda gwaith cartref na dim byd, so o’dd e’n aberth i rhieni di-Gymraeg.