00:00:06 Cyflwyniad
00:00:41 Yn 20 mlwydd oed, mae Allen yn ymuno â'r rhyfel yn aelod o griw llong ryfel gyflym, sy'n llong fasnach ar arni arfau (llong P&O gynt sydd wedi'i haddasu, ac mae gynnau chwe modfedd wedi'u hôl-ffitio arni)
00:01:23 Wedi hwylio i Gaeredin, mae'r llong yn cael ei hanfon i'r gogledd i wylio dros Gulfor Denmarc. Cyn hir mae hi'n cael ei tharo gan dorpidos. Cafodd aelodau'r criw eu hachub yn y pen draw gan long bysgota oedd yn hwylio o Reykjavík, Gwlad yr Iâ
00:03:30 Byw yn Ynys-hir, Porth. Bywyd gwaith Allen cyn y rhyfel, ac yntau'n gynorthwy-ydd yn shop Peglers (Ynys-hir); ac wedi'r rhyfel yn adeiladu tai wedi'u saernïo o flaen llaw (pre-fab) yn nhref Porth; ac yna yn y pyllau glo, Wattstown, Lewis Merthyr a Blaenrhondda
00:06:18 Penodiad nesaf Allen yn y llynges oedd yr HMFS Mistral (dinistriwr oedd yn berchen i'r llynges Ffrengig, y bu i luoedd Ffrainc ei llywio draw wedi i Ffrainc ildio i'r lluoedd Almaenig), ar gyfer dyletswyddau yn yr Atlantig
00:08:01 Bywyd ar y llong; rheng Allen a'i ddyletswyddau’n ystod ei gyfnod yn gweithio ar y Mistral
00:09:35 Mae Allen yn hyfforddi i fod yn ynnwr amddiffyn yn erbyn terfysgoedd awyr cyn gwirfoddoli ar y llong bysgota ffrwydron, HMS Gleaner oedd yn gweithredu rhwng Gwlad yr Iâ a Murmansk, y porthladd yng ngogledd Rwsia, hyd nes 1944
00:11:32 Yr amodau ar yr HMS Gleaner, ymdopi â'r oerfel, iâ a diffyg bwyd ffres
00:13:26 Y profiadau a'r peryglon wrth symud y llyngesau wedi i'r Almaenwyr gipio Norwy a chreu gorsaf yn Hammerfest, tref yn Norwy.
00:15:26 Cychod torri iâ a pheryglon iâ yn ffurfio ar y Gleaner ei hun
00:17:44 Mae'r HMS Gleaner yn cael ei llywio i'r de i fod yn bysgotwr ffrwydron ar gyfer ymosodiad D-Day