Elizabeth Mary McLaughlan

This item is active and ready to use
Elizabeth Mary McLaughlan

Manylion

Teitl
Elizabeth Mary McLaughlan
Lleoliad
Pontypridd

Trawsgrifiad

00:00:05 Cyflwyniad

00:00:46 Mae Elizabeth (neu Dolly) yn cael ei geni yn Lerpwl ym 1906

00:01:04 Cofio'r diwrnod y cyrhaeddodd y newyddion bod ei thad, William Moss, Stiward Salwnau Dosbarth Cyntaf ar gyfer y White Star Line, wedi boddi wrth i'r Titanic suddo

https://www.encyclopedia-titanica.org/titanic-victim/william-moss.html

00:05:06 Yn dilyn marwolaeth ei thad, mae Elizabeth yn symud i gyrion Glasgow, sef maestrefi South Side, ac yn ddiweddarach mae'n gweithio mewn llyfrgell breifat

00:06:21 Mae Elizabeth yn dod wyneb yn wyneb â dyweddi blaenorol; profiad annifyr iddi

00:10:14 Mae Elizabeth yn mynd yn ddall

00:13:10 Yn dilyn trychineb y Titanic, mae Elizabeth yn esbonio sut y bu i gwmni'r White Star Line roi iawndal i'r teulu

00:13:49 Mae Elizabeth yn priodi George ym mis Mehefin 1939

00:14:25 Mae George yn cael ei alw i'r Awyrlu Brenhinol (RAF), ond yn ffodus mae'n treulio cyfnod y rhyfel yn yr Alban; mae'r cwpl yn cael mab, Graham

00:17:44 Mae Elizabeth yn symud i Bontypridd gan fod ei mab yn gweithio yn Ne Cymru

00:18:00 Mae Elizabeth yn ymweld â'r Titanic cyn iddi adael; mae ei thad yn ansicr ynghylch y Titanic ac yn ceisio osgoi'r fordaith, ond yn methu

00:19:44 MAE'R RECORDIAD YN DOD I BEN YN SYDYN

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Elizabeth Mary McLaughlan
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
06/09/2005

Labelau