00:00:04 Cyflwyniad
00:00:24 Mae Emrys yn cael ei eni ym Mhenrhiw-fer, ym 1925; ei Dad oedd Joe Davies "Y Glo" / "The Coal"
00:00:59 Plentyndod yn cael ei dreulio'n chwarae ar y mynydd
00:01:53 Gemau plentyndod – gemau rhythm, bachyn ac olwyn, chwip a thop a llawer mwy
00:03:37 Tlodi'r 1930au; sgidiau hoelion a chlocsiau pren
00:05:16 Mae Emrys yn gadael ysgol Craig-yr-Eos yn 14 mlwydd oed ac yn ymgymryd â swydd am gyfnod byr yn Edwards & Short sef argraffwyr yn Nhonypandy. Mae'n 'weithiwr neges' neu "Ink Monkey", cyn i'r cyflog isel a dadrithiad ei arwain i chwilio am well swydd
00:07:42 Yn ystod ei egwyl cinio, mae Emrys yn gwneud cais am rôl prentis, ac yn llwyddo i'w sicrhau hefyd – yn Maple Trading Company, siop groser â changen yn Nhonypandy
00:09:50 Mae'r rheolwr yn gweithredu trefn lem yn y siop – archwiliadau, talu am unrhyw beth sy'n torri
00:12:35 Mae'r staff sy'n gweithio yn y siop; cyfrif stoc yn wythnosol, ac archwiliadau rheolaidd yn arwain at safonau uchel
00:16:57 O bryd i'w gilydd mae Emrys yn cael ei anfon i ysbïo ar siopau eraill a'u prisiau
00:19:46 Mae Emrys yn ymuno â'r Gwirfoddolwyr Amddiffyn Lleol (LDV) sydd wedi'u lleoli yn Llwynypia, lle mae'n cael ei hyfforddi ynghylch arfau ac mae'n ymuno ag uned arbennig a fyddai'n gweithredu yn filwyr gerila pe byddai ymosodiad
00:24:03 Roedd y rhyfel, i Emrys yn gyfnod o gyffro yn hytrach nag ofn, ac yn ymestyniad o'r hyn roedd yn ei weld yn y sinema; sinemâu yn Nhonypandy a ffilmiau yn y prynhawn ar gyfer plant am bris rhad, sef y "penny rush"
00:25:56 Mae Emrys yn cael ei alw i ymuno â'r lluoedd arfog; mae'n cael ei hyfforddi i ddechrau ym Mannau Brycheiniog cyn cael ei anfon i Fae Herne, Caint