Elizabeth Burman - Rhan 2
This item is active and ready to use
Trawsgrifiad
00:00:01 [Parhad o'i phrofiadau gyda diphtheria] Mae Lizzie yn treulio amser mewn cartref ymadfer; cofio darllediad radio o ddatganiad rhyfel Neville Chamberlain; yn dychwelyd i Gymru ar drên yn llawn faciwîs
00:03:31 Mae Lizzie yn cofio ei diwrnod cyntaf yn y gwasanaeth domestig, ei chyflog a'i hamser i ffwrdd
00:05:59 Mae cyfnod Lizzie yng Nghymru yn fyr wrth iddi fynd yn ôl i wasanaethu mewn ficerdy yn Weston-super-Mare; gollyngwyd bomiau ar ardal Weston-super-Mare tra’i bod hi'n ymweld â Chymru am bythefnos
00:08:42 Roedd milwyr o America a Chanada yn priodi diwrnod ar ôl cwrdd â’u priodfferch; Mae Lizzie yn cael ei hatal rhag mynd i'r dref gan ei chyflogwyr oherwydd nifer y milwyr sydd yno
00:10:23 Mae hi’n ofni anghymeradwyaeth ei rhieni ac mae hyn yn stopio Lizzie rhag cael cariad tra'n gweithio; ar ôl 6 mis cafodd rhybudd o'r gwaith ond mae gweinidog arall yn ei dewis i weithio ym Mryste
00:13:00 Er ei bod hi’n dal i gael yr un cyflog ag yr oedd pan oedd hi’n 14 oed, roedd y gwaith yn llawer haws ac roedd y sefyllfa’n llai ffurfiol
00:14:28 Cafodd ardal Bryste ei bomio'n drwm tra roedd Lizzie yn gweithio yno; dychwelyd adref o'r sinema un noson i ddarganfod bod bom wedi ffrwydro gan daflu darnau o fws deulawr i’r ardd
00:15:40 Roedd Lizzie ac eraill wedi dianc o drwch flewyn pan gafodd y ficerdy ei hun a'r tiroedd cyfagos eu targedu gan fomiau 6 mis yn ddiweddarach
00:22:24 Doedd dianc o'r ficerdy yn sgil y bomio ddim yn dasg hawdd; gweld yr holl ddinistr
00:25:10 Dod o hyd i loches yn y lloches bomiau leol a thŷ ffrind
Manylion cyfweliad
Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld